Coronafeirws: deddfwriaeth

Cyhoeddwyd 21/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ar 21 Mai 2020

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws, gan ddefnyddio pwerau newydd a ddarperir gan Ddeddf y Coronafeirws 2020 a phwerau a ddarparwyd o dan ddeddfau presennol eraill.

-Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cyflwyno polisïau, cyfyngiadau a gofynion newydd sy'n effeithio ar fusnesau, unigolion, y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Mae'r blog hwn yn rhoi trosolwg o'r is-ddeddfwriaeth coronafeirws allweddol sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru)

Mae pob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynghori pobl i gadw pellter cymdeithasol er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws.

Mae'r llywodraethau hefyd wedi gwneud rheoliadau fel y gallant orfodi pellter cymdeithasol yn y gyfraith. Defnyddiodd Llywodraeth Cymru ei phwerau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 i wneud Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Daeth y rheoliadau i rym ar 26 Mawrth. Cawsant eu diwygio ar 7 Ebrill a 25 Ebrill. Cafodd y rheoliadau hyn eu diwygio wedyn ar 11 Mai, gan gynnwys newidiadau bach a wnaed i'r rhestr o esgusodion rhesymol i rywun adael y lle y mae'n byw ynddo neu aros i ffwrdd o'r lle hwnnw.

Mae Rheoliadau Cymru yn debyg i'r rheoliadau ar gyfer rhannau eraill o'r DU. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau hefyd. Mae'r tabl hwn yn rhoi trosolwg dangosol o'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) ar gyfer gwahanol rannau o'r DU. Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y mae cadw pellter cymdeithasol yn ei olygu’n ymarferol yng Nghymru, plismona'r cyfyngiadau symud a strategaethau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud mewn rhannau gwahanol o'r DU yn ein herthyglau blog eraill.

[table id=9 /]

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y rheoliadau bob 21 diwrnod. O dan y diwygiad a wnaed i'r rheoliadau ar 11 Mai, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd adolygu a yw'r cyfyngiadau a'r gofynion hynny yn gymesur â'r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt. Cafodd y rheoliadau eu gwneud o dan weithdrefn 'gwneud cadarnhaol’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd o fewn cyfnod penodol er mwyn parhau i fod mewn grym. Cymeradwyodd y Senedd y prif reoliadau a'r rheoliadau diwygio cyntaf ar 29 Ebrill a rhagor o ddiwygiadau ar 20 Mai.

Sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn defnyddio eu pwerau o dan Ddeddf y Coronafeirws?

Cafodd Deddf y Coronafeirws Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth. Mae'n rhoi pwerau eang a helaeth i lywodraethau'r DU a rhai cyrff cyhoeddus eraill fynd i'r afael ag argyfwng y coronafeirws. Cyhoeddwyd crynodeb o’r Bil Coronafeirws gennym ar 24 Mawrth a blog ar y Ddeddf derfynol ar 7 Ebrill Mae’r Sefydliad Llywodraeth a Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin hefyd wedi llunio erthyglau defnyddiol ar y Ddeddf.

Mae Deddf y Coronafeirws yn rhoi pwerau ‘cydredol’ i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau. Mae hyn yn golygu bod gan Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru yr un pwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd cymhwysedd datganoledig.

Daeth rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf i rym pan gafodd Gydsyniad Brenhinol. Caiff Gweinidogion gychwyn darpariaethau eraill. Caniateir dirymu ac adfywio rhai - eu troi ymlaen a'u diffodd mewn gwirionedd. Hyd yn hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn darpariaethau i lacio dyletswyddau gofal a chymorth ar awdurdodau lleol (adran 15 a rhan 2 o atodlen 12) a diwygio'r weithdrefn yn Nhribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (adran 10 a pharagraffau 1 a 2, ac 11-13 o atodlen 8). Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein herthygl blog. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cychwyn darpariaethau yn y Ddeddf sy'n gymwys i Gymru, gan lacio’r gofynion ar gyfer tystio a chofrestru marwolaethau a marw-enedigaethau a chaniatáu i amlosgiadau gael eu cynnal heb fod angen goruchwyliaeth ychwanegol gan ymarferydd meddygol.

Pa ddeddfwriaeth arall y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’i gwneud?

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd wedi gwneud deddfwriaeth arall i fynd i'r afael â'r pandemig, gan ddibynnu ar bwerau o dan ystod o ddeddfwriaeth sylfaenol arall. Gallwch ddarllen mwy o ran pwy sy'n gwneud beth i ymateb i'r pandemig yn ein herthygl blog ar wahân.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Eithrio ymwelwyr tramor rhag gorfod talu i gael diagnosis a thriniaeth ar gyfer y coronafeirws.
  • Newidiadau i rai agweddau ar gyfyngiadau cynllunio i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud rhai mathau o ddatblygiadau mewn argyfwng heb ddilyn gofynion llawn gwneud cais am ganiatâd cynllunio;
  • Newidiadau i ddarpariaethau mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdod lleol a chyhoeddi dogfennau awdurdod lleol penodol a mynediad atynt.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn cynnwys:

Gwnaed y ddeddfwriaeth hon drwy ddefnyddio ystod o bwerau a gweithdrefnau gwahanol, felly mae gan ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth derfynau amser a darpariaethau adolygu gwahanol. Mae gan rai eu terfynau amser eu hunain: er enghraifft, daw rheoliadau Llywodraeth y DU ar fudd-daliadau lles i ben ar ôl wyth mis. Bydd rhai eraill mewn grym oni bai y cânt eu dileu gan Weinidog, h.y. am gyfnod amhenodol.


Erthygl gan Nia Moss, Lucy Valsamidis a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd