Trafnidiaeth

Coronafeirws: archebion gwyliau a hawliau teithwyr

Ar 17 Mawrth 2020 ymatebodd Swyddfa Dramor a Chymanwlad Llywodraeth y DU i bandemig y coronafeirws drwy gynghori pawb i osgoi pob taith heblaw am rai hanfodol yn fyd-eang. Cafodd ei roi ar waith yn wreiddiol am 30 diwrnod, ond mae’r cyngor hwn bellach wedi'i ymestyn am "gyfnod amhenodol".

Amcangyfrif o amser darllen: 8 Munud

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 11 Mehefin 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 17 Mawrth 2020 ymatebodd Swyddfa Dramor a Chymanwlad Llywodraeth y DU i bandemig y coronafeirws drwy gynghori pawb i osgoi pob taith heblaw am rai hanfodol yn fyd-eang. Cafodd ei roi ar waith yn wreiddiol am 30 diwrnod, ond mae’r cyngor hwn bellach wedi’i ymestyn am “gyfnod amhenodol”.

Mae’r elusen defnyddwyr Which? yn nodi bod hyn:

… is causing confusion for consumers as well as holiday companies. People are unsure how far into the future holidays and flights should be cancelled.

Mae’r erthygl hon yn amlinellu hawliau teithwyr lle mae hediadau a gwyliau pecyn wedi cael eu canslo ac yn trafod effaith y coronafeirws ar y diwydiant teithio.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi blog ar y coronafeirws a thwristiaeth sy’n trafod yr effaith y mae’r feirws yn ei chael ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Hawliau teithwyr

Hediadau wedi’u canslo

Ar hyn o bryd does dim hediadau masnachol yn gweithredu o Faes Awyr Caerdydd, tra bod cwmnïau awyrennau yn gweithredu amserlenni llawer llai gyda nifer sylweddol o hediadau wedi’u canslo.

Mae Rheoliad 261/2004 gan yr UE (PDF, 132KB) yn sefydlu rheolau cyffredin ar iawndal a chymorth i deithwyr os caiff eu hediadau eu canslo neu eu gohirio. O dan y rheoliad hwn, mae gan deithwyr y mae eu hediadau wedi’u canslo hawl i gael ad-daliad.

Mae hyn yn berthnasol i deithwyr sy’n hedfan allan o faes awyr yn y DU neu’r UE neu’n hedfan yn ôl i faes awyr yn y DU neu’r UE gyda chwmni hedfan o’r DU neu’r UE. Yn achos cwmnïau awyrennau nad ydynt wedi’u rheoleiddio gan yr UE, mae hawliau teithiwr yn dibynnu ar delerau ac amodau ei gontract gyda’r cwmni. Mae Llyfrgell Tŷ’r cyffredin wedi cyhoeddi papur briffio ar hawliau teithwyr awyr sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth.

Mae gwefan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn rhoi cyngor ar oblygiadau’r coronafeirws i deithwyr a phobl ar eu gwyliau. O ran canslo hediadau, mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn dweud:

If the Government has advised against all but essential travel to your destination, your airline will likely cancel your flight and offer a full refund.

If the airline has confirmed that your flight will go ahead, they may still be able to offer a refund, allow you to change your booking to a later date, or your travel insurance may be able to provide assistance.

Bydd angen i deithwyr sydd wedi archebu hediadau yn y dyfodol aros i weld a yw cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn newid ac a fydd yn bosibl i’w hediadau barhau fel y bwriadwyd. Os bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn newid ei chyngor ynglŷn â theithio, efallai y bydd hediadau’n mynd yn eu blaen. Yn yr achos hwn ni fyddai gan deithwyr nad ydynt am deithio mwyach oherwydd y firws hawl awtomatig i gael ad-daliad. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn rhoi’r cyngor canlynol:

If you choose not to travel and the FCO has not advised against all but essential travel to your destination, you may be subject to your travel company’s terms and conditions. An exception to this may be if your doctor has advised you not to travel, in which case you should contact your travel insurance provider. 

Gwyliau pecyn

Mae defnyddwyr y DU sydd wedi talu am wyliau pecyn sy’n cynnwys hediadau a llety (ac weithiau elfennau ychwanegol fel trosglwyddiadau maes awyr) wedi’u diogelu gan Reoliadau Teithio Parod a Threfniadau Teithio Cysylltiedig 2018 (Rheoliadau 2018).

Mae Rheoliadau 2018 yn gweithredu Cyfarwyddeb Teithio Pecyn yr UE.. Maent yn diogelu hawliau teithwyr wrth archebu gwyliau pecyn o ran canslo, dychwelyd i’w gwlad eu hunain ac ad-daliadau.

Yn unol â Rheoliadau 2018, mae gan deithwyr hawl i ofyn am ad-daliad arian parod llawn, y dylid ei roi o fewn 14 diwrnod, pe bai angen canslo neu wneud newid sylweddol i’w taith.

Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau helaeth bod llawer o weithredwyr yn pwyso llawer ar gwsmeriaid i dderbyn talebau credyd neu i ail archebu teithiau yn y dyfodol yn lle hynny. Er efallai y bydd cwsmeriaid yn dewis derbyn yr opsiwn hwn, mae’n bwysig nodi bod ganddynt hawl gyfreithiol i gael ad-daliad arian parod.  Mae gwefan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn dweud:

Your travel company may offer you vouchers to be redeemed against a future booking, however you are entitled to request a full cash refund if you do not wish to accept vouchers.

Mae ABTA (Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain gynt) yn awgrymu y gallai gorfodi ad-daliadau achosi i lawer o gwmnïau gwyliau fynd i’r wal ac mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i newid Rheoliadau 2018 dros dro. Trafodir hyn yn fanylach yn nes ymlaen yn yr erthygl hon.  

Mae gwyliau pecyn hefyd fel arfer yn cael eu gwarchod gan ATOL (Trwydded Trefnydd Teithiau Awyr) neu ABTA (Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain gynt) i ddiogelu cwsmeriaid pe bai’r cwmni teithio y maent wedi archebu gwyliau ganddynt yn mynd i’r wal.  Mae’r cynllun ATOL wedi’i gynllunio’n benodol i ddiogelu pobl sy’n hedfan, tra bod ABTA yn cwmpasu gwyliau teithio rheilffyrdd, y ffyrdd neu’r môr.

Yswiriant teithio

Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer teithwyr ynghylch yswiriant teithio. Mae’n nodi:

…generally, insurance cancellation or travel disruption will relate to FCO advice. This decision [to advise against travel] will, therefore, allow many (or ”the majority of”) policyholders with cancellation or travel disruption cover in place to claim for cancelled trips that were already booked and cannot now go ahead.  

Mae hefyd yn ceisio rhoi sicrwydd i deithwyr, os bydd y cyfyngiadau teithio yn cael eu codi, y bydd teithiau yn y dyfodol a archebwyd eisoes o dan y polisïau presennol yn cael eu cynnwys.

Mae llai o sicrwydd o ran polisïau yswiriant nad ydynt wedi’u harchebu eto ar gyfer teithiau yn y dyfodol neu bolisïau sydd wedi’u haildrefnu, ac nid yw’n glir eto pa effaith y bydd y coronafeirws yn ei chael ar delerau polisi neu bremiymau yn y dyfodol.

Yr effaith ar gwmnïau a gweithredwyr awyrennau

Yn fyd-eang, mae’r Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol (IATA) wedi amcangyfrif y gallai’r pandemig presennol arwain at golli $314 biliwn o refeniw teithwyr a rhoi 25 miliwn o swyddi mewn perygl. 

Hyd yn oed cyn argyfwng y coronafeirws, cafodd y diwydiant teithio ei daro’n galed yn y blynyddoedd diwethaf yn sgîl cwymp Thomas Cook yn 2019. Collodd maes awyr Caerdydd gludwr mawr hefyd yn dilyn cwymp Flybe ym mis Mawrth 2020 ac ysgogodd hyn i Lywodraeth Cymru a’r maes awyr ddechrau gweithio tuag at sicrhau gweithredwyr amgen ar gyfer y llwybrau a gollwyd.

Mae atebion posibl i’r argyfwng presennol yn cynnwys newidiadau strategol hirdymor gan weithredwyr i’w modelau busnes. Er enghraifft, mae adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu efallai na fydd British Airways yn ailagor ei weithrediadau yn Gatwick ar ôl i’r pandemig basio. Yn yr un modd, ar 5 Mai cyhoeddwyd y byddai Virgin Atlantic yn dod â’i weithrediadau i ben yn Gatwick, gan ddiswyddo dros 3,000 o staff yn y DU.

Ar 13 Mai 2020 disgrifiodd y cwmni teithio TUI y pandemig presennol fel yr argyfwng mwyaf y mae’r diwydiant …erioed wedi’i wynebu a rhybuddiodd y gallai arwain at 8,000 o swyddi yn cael eu torri ledled y byd. Mae’r cwmni wedi cyhoeddi cynllun sy’n amlinellu sut y gall gwyliau i’w westai newid pan gaiff y cyfyngiadau ar deithio eu codi, ynghyd â chyngor i gwsmeriaid.

Ar 22 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai cyfnod cwarantin 14 diwrnod ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd y DU o wledydd eraill yn dod i rym ar 8 Mehefin 2020. Mae hyn yn berthnasol i bob un sy’n cyrraedd o wledydd eraill ar wahân i’r rhai ar restr byr o eithriadau, fel gweithwyr sy’n cludo nwyddau.

Ar 3 Mehefin 2020, cafwyd datganiad gan yr Ysgrifennydd Cartref i Dŷ’r Cyffredin yn amlinellu manylion pellach, gan gynnwys sut y bydd cydymffurfiaeth â’r rheolau’n cael ei gorfodi. Mae’r datganiad yn nodi mai cyfrifoldeb pob un o’r gweinyddiaethau datganoledig yw pennu eu mesurau gorfodi eu hunain.

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i rym ar 8 Mehefin 2020 ac maent yn nodi’r gofynion ar gyfer cyraeddiadau rhyngwladol i Gymru. Mae’r rheoliadau hefyd yn nodi sut y caiff y rheolau eu gorfodi drwy gosbau penodedig gan gynnwys dirwy o £1000 i’r rhai sy’n torri’r gofynion i ynysu.

Cyn y cyhoeddiad, ar 11 Mai 2020, ysgrifennodd arweinwyr cwmnïau awyrennau a meysydd awyr y DU, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd, lythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn awgrymu:

…an open-ended quarantine, with no set end date, will make an already critical situation for UK aviation, and all the businesses we support, even worse.

Mae nifer o weithredwyr teithio hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r cyfnod cwarantin.

Ceisiadau am gymorth

Hedfan

Ar 18 Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad i’r wasg a oedd yn nodi ei bod yn gweithio ar becyn pwrpasol o gymorth ar gyfer y diwydiant awyrennau. Fodd bynnag, ar 24 Mawrth adroddwyd bod Rishi Sunak, y Canghellor, wedi dweud wrth gwmnïau awyrennau y byddai Llywodraeth y DU ond yn camu i’r adwy fel dewis olaf. Ar 2 Mai, dywedodd Robert Jenrick, Ysgrifennydd Gwladol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU  mewn cynhadledd i’r wasg bod Llywodraeth y DU am gefnogi’r diwydiant awyrennau mewn unrhyw ffordd bosibl.

Nid oes unrhyw gyhoeddiad ynghylch cymorth ar gyfer y diwydiant yn ei gyfanrwydd wedi dilyn hyd yma er bod rhai cwmnïau awyrennau unigol wedi cael rhywfaint o gymorth. Er enghraifft, mae EasyJet wedi sicrhau benthyciad o £600 miliwn gan Gyfleuster Cyllid Corfforaethol Covid Banc Lloegr, a gynlluniwyd i gynorthwyo cwmnïau mwy yn ystod y pandemig.

Ar 31 Mawrth 2020, awgrymodd Cymdeithas Gweithredwyr y Meysydd Awyr (AOA) bod ymateb y DU ar ei hôl hi o gymharu ag economïau eraill o ran cefnogi ei diwydiant awyrennau. Mae Cymdeithas Peilotiaid Awyrennau Prydain hefyd wedi rhybuddio bod diwydiant awyrennau y DU yn dilyn “llwybr marwol” ac fod angen cymorth ar unwaith arno gan y Llywodraeth i achub swyddi.

Ar 11 Mai 2020, awgrymodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, efallai fod y sector awyrennau yn wynebu’r argyfwng mwyaf y mae erioed wedi’i brofi. Wrth ymateb i gwestiynau gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd, galwodd y Gweinidog am gefnogaeth Llywodraeth y DU i faes awyr Caerdydd a newidiadau rheoliadol i feysydd nad ydynt wedi’u datganoli.

Cwmnïau teithio

Bu galwadau hefyd am gefnogaeth y llywodraeth i gwmnïau teithio a theithiau. Mae ABTA yn dadlau nad oedd yr amddiffyniadau a ddarparwyd yn Rheoliadau 2018 (a drafodir uchod) wedi’u cynllunio i ymdopi â’r pwysau a roddwyd arnynt yn sgîl yr amgylchiadau eithriadol hyn. Fel yr amlinellwyd, bu sawl adroddiad am gwmnïau teithio yn rhoi talebau i gwsmeriaid yn hytrach na’r ad-daliad arian y mae ganddynt hawl iddo.

Ar 16 Mawrth 2020, ysgrifennodd ABTA at Lywodraeth y DU yn galw am newidiadau dros dro i Reoliadau 2018 ar unwaith. Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys dileu’r cyfnod o 14 diwrnod y mae’n rhaid rhoi ad-daliad ac i ganiatáu credydau fel dewis amgen i ad-daliadau arian parod.

Ar 19 Mawrth 2020, diweddarodd Comisiwn yr UE  ei ganllawiau ar y Gyfarwyddeb Teithio Pecyn mewn perthynas ag ad-dalu cwsmeriaid. Mae’r canllawiau’n annog cwsmeriaid i dderbyn nodiadau credyd, cyn belled â bod y cwsmer yn cael gofyn am ad-daliad llawn os nad yw’n defnyddio’r nodyn credyd i dalu am archeb newydd. Wedi hynny, cyhoeddodd ABTA ddatganiad i’r wasg yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu mewn ffordd debyg. Dywedodd:

…the Package Travel Directive is the legal framework on which the UK Package Travel Regulations are based, and we now need the UK Government to follow the European Commission’s lead and confirm a similar approach.

Wrth gydnabod yr heriau sy’n wynebu cwmnïau awyrennau a chwmnïau teithio, mae Which? yn dadlau na ddylai defnyddwyr orfod cynnal y diwydiant teithio. Mae wedi cyhoeddi cynigion yn nodi y bydd yn cefnogi’r diwydiant teithio ac yn sicrhau nad yw teithwyr yn dioddef yn ariannol o ganlyniad i hediadau neu wyliau sy’n cael eu canlso. Ymhlith cynigion eraill, mae’n awgrymu y dylid cynnig nodiadau credyd ond dylai’r rhain fod yn ddewisol. Mae hefyd yn galw am i’r cyfnod 14 diwrnod y mae’n rhaid i gwmnïau roi ad-daliadau gael ei ymestyn dros dro i 1 mis.

Hyd yma ni chafwyd unrhyw gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y byddai unrhyw newidiadau dros dro yn cael eu gwneud.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: