Tai

Coronafeirws: tai

Un o sgil-effeithiau’r coronafeirws yw y bydd gan lawer o bobl bryderon ynglŷn â cholli cartref, dod o hyd i gartref neu dalu am gartref, boed hynny oherwydd colli incwm yn sydyn neu oherwydd nad oes ganddynt rhywle diogel i fyw. Mae’r blog hwn yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi pobl sy’n wynebu problemau tai yn sgil y coronafeirws. I lawer, bydd problemau tai yn deillio o golli incwm neu leihad mewn incwm. Rydym hefyd wedi cyhoeddi blogiau ar effaith y coronafeirws ar gyflogaeth a budd-daliadau. Rydym hefyd yn rhestru amrywiaeth o ffynonellau cyngor dibynadwy ar faterion tai ar ddiwedd y blog hwn.

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 28 Mai 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Un o sgil-effeithiau’r coronafeirws yw y bydd gan lawer o bobl bryderon ynglŷn â cholli cartref, dod o hyd i gartref neu dalu am gartref, boed hynny oherwydd colli incwm yn sydyn neu oherwydd nad oes ganddynt rhywle diogel i fyw. Mae’r blog hwn yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi pobl sy’n wynebu problemau tai yn sgil y coronafeirws.

I lawer, bydd problemau tai yn deillio o golli incwm neu leihad mewn incwm. Rydym hefyd wedi cyhoeddi blogiau ar effaith y coronafeirws ar gyflogaeth a budd-daliadau ac mae’n bosibl y byddant yn ddefnyddiol i chi.

Rydym hefyd yn rhestru amrywiaeth o ffynonellau cyngor dibynadwy ar faterion tai ar ddiwedd y blog hwn.

Digartrefedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol allu helpu’r rhai sy’n wynebu digartrefedd yn sgil y coronafeiwrs.

Mae pobl sy’n cysgu ar y stryd a phobl mewn llety dros dro yn wynebu heriau penodol o ran cydymffurfio â’r rheolau ar ymbellhau cymdeithasol a hunanynysu. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol fel y gallai helpu’r grŵp hwn o bobl sy’n agored i niwed. Defnyddiwyd y cyllid i sicrhau’r llety sydd ei angen fel y gellir amddiffyn pobl heb gartref a’u cefnogi a’u hynysu os oes angen. Yng Nghaerdydd, defnyddiwyd yr adnodd ychwanegol hwn i brynu niferoedd lluosog o lefydd mewn gwestai. Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol a’u partneriaid wedi gallu defnyddio’r cyllid ychwanegol i ddarparu llety ar gyfer cannoedd o bobl a fyddai fel arall yn ddigartref.  Mae Jon Sparkes – prif weithredwr Crisis a chadeirydd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd – wedi ysgrifennu blog ynglŷn â dod â digartrefedd i ben yng Nghymru, a chyfnod y coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau ynghylch digartrefedd sy’n ymwneud â chyfnod y coronafeirws, gan gynnwys adnodd ar gyfer ymarferwyr a phartneriaid awdurdodau lleol.

Cymorth i’r rhai sy’n rhentu

Er y cynigiodd landlordiaid cymdeithasol sicrwydd cefnogaeth yn gyflym i’w tenantiaid, roedd effaith y coronafeirws ar y rhai sy’n byw yn y sector rhentu preifat yn llai eglur. Ers hynny, mae nifer o newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau wedi rhoi gwarchodaeth ychwanegol i’r rhai sy’n rhentu.

Ysgrifennodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at denantiaid tai cymdeithasol i’w hatgoffa bod pob landlord cymdeithasol yng Nghymru wedi cytuno y bydd pawb yn cael eu “trin yn deg” a’u bod wedi cytuno na fyddent yn troi eu tenantiaid allan yn sgil y coronafeirws.

Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn cynyddu dros dro y cyfnod rhybudd y mae’n rhaid i landlord yng Nghymru neu Loegr ei roi i denant cyn y gall ofyn i Lys am orchymyn cymryd meddiant i dri mis. Mae hyn yn gymwys i denantiaid tai cyngor, tenantiaid cymdeithasau tai a thenantiaid rhentu preifat sydd â thenantiaeth sicr, tenantiaeth fyrddaliadol sicr neu denantiaeth reoledig. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer o dan Ddeddf y Coronafeirws i ymestyn y cyfnod rhybudd i hyd at chwe mis. Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrth Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd ar 5 Mai 2020 ei bod yn ystyried a ddylid defnyddio’r pŵer hwnnw.

Nid yw Ddeddf y Coronafeirws yn rhoi diwedd ar droi pobl allan o’u cartrefi. Mae hysbysiadau a gyflwynwyd i denantiaid cyn i’r gyfraith gael ei newid yn ddilys o hyd, ond cyhoeddwyd diweddariad o’r cyfarwyddyd ymarfer i’r llysoedd sy’n esbonio pethau ymhellach. Mae’n atal achosion cymryd meddiant yng Nghymru a Lloegr am gyfnod cychwynnol o 90 diwrnod o 27 Mawrth. Mae atal achosion cymryd meddiant yn diogelu grŵp ehangach na dim ond y rheini sydd â hawl i’r cyfnod rhybudd estynedig, gan gynnwys pobl sydd â morgeisi a rhai trwyddedigion. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu ymestyn y protocol cyn gweithredu y mae’n rhaid i landlordiaid cymdeithasol ei ddilyn cyn cychwyn achos cymryd meddiant i’r sector rhentu preifat, ac ymestyn ei gylch gwaith.

Mae gan awdurdodau lleol a’r heddlu bwerau i ymyrryd os yw landlord yn gweithredu’n anghyfreithlon, er enghraifft, drwy geisio gorfodi tenant i adael heb gael gorchymyn cymryd meddiant yn gyntaf.

Nid yw’r newidiadau i’r cyfnodau rhybudd a’r atal troi allan dros dro yn golygu y gall tenantiaid roi’r gorau i dalu rhent. Mae Shelter Cymru yn amlinellu ar ei wefan rai o’r opsiynau y gall landlord a thenant eu hystyried lle bu gostyngiad mewn incwm tenant. Mae hyn yn cynnwys gwyliau talu rhent neu ostyngiad rhent dros dro. Rhaid i’r partïon drafod y trefniadau hyn rhyngddynt.

Mae’n bosibl y bydd tenantiaid sydd wedi dioddef gostyngiad yn eu hincwm yn gallu hawlio cymorth drwy’r system fudd-daliadau. Cyhoeddodd y Canghellor y bydd cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol (sef yr uchafswm cymorth y gall hawliwr budd-daliadau yn y sector preifat ei gael tuag at dalu’r rhent) yn cynyddu fel eu bod yn talu am o leiaf 30% o renti’r farchnad. Gall awdurdodau lleol hefyd ddyfarnu taliad tai yn ôl disgresiwn i denantiaid tai cymdeithasol neu dai preifat.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws ar gyfer tenantiaid yng Nghymru, gan gynnwys canllawiau ar dalu rhent, atgyweiriadau a chael eu troi allan.

Landlordiaid

Gall landlordiaid sydd â morgeisi Prynu i Osod y mae eu tenantiaid wedi colli incwm oherwydd effaith y coronafeirws ofyn am wyliau morgais. Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ac UK Finance, sy’n cynrychioli benthycwyr, yn nodi bod disgwyl i landlordiaid drosglwyddo’r rhyddhad hwn i’w tenantiaid er mwyn sicrhau y cânt eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’n bosibl y bydd dal angen i landlordiaid fynd i’r afael â rhwymedigaethau atgyweirio neu rwymedigaethau cyfreithiol eraill yn ystod cyfnod achosion y coronafeirws, ond gall hyn fod yn fwy o her o ystyried y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i landlordiaid ac asiantau rheoli yn y sector rhentu preifat yn cynghori y dylid gohirio unrhyw ymweliadau ag eiddo nad ydynt yn rhai brys. Mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau anstatudol yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol yng Nghymru ar sut i orfodi safonau yn y sector rhentu preifat yn effeithiol yn ystod cyfnod yr achosion o’r coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi amryw o ganllawiau penodol i landlordiaid cymdeithasol.

Perchnogion tai

Mae benthycwyr morgeisi wedi cytuno i helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd gwneud taliadau yn ystod yr achosion presennol o’r coronafeirws.

Mae benthycwyr morgeisi wedi cytuno i gynnig gohiriad ad-dalu o 3 mis i aelwydydd sy’n cael anhawster ariannol oherwydd y coronafeirws. Ar 22 Mai, cadarnhaodd Trysorlys EM y bydd perchnogion cartrefi sy’n ei chael yn anodd talu eu morgais oherwydd y coronafeirws yn gallu ymestyn y gohiriad ar gyfer ad-dalu eu morgais am 3 mis arall, neu ddechrau gwneud ad-daliadau llai. Mae’r atebion i rai cwestiynau cyffredin ar wefan Cyllid y DU. Mae benthycwyr morgeisi wedi cytuno i ymestyn y moratoriwm ar adfeddu anwirfoddol ar gyfer cwsmeriaid preswyl a chwsmeriaid prynu i osod i 31 Hydref 2020.

Gall perchnogion tai sydd wedi prynu eiddo drwy gynllun Llywodraeth Cymru Cymorth i brynu – Cymru wneud cais am wyliau ad-dalu llog o hyd at dri mis os ydynt yn gwneud taliadau llog ar eu benthyciad ac y gallent ddioddef caledi ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl sy’n cael problemau talu eu morgais yn ystod pandemig y coronafeirws.

Symud tŷ

Caniateir symud tŷ o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ond dim ond lle na ellir gohirio dyddiad symud.

Er mwyn helpu’r rheini sy’n prynu tŷ, bydd benthycwyr yn rhoi’r dewis i gwsmeriaid sydd wedi cyfnewid contractau i brynu eiddo ymestyn eu cynnig morgais am hyd at dri mis i’w galluogi i symud ar ddyddiad diweddarach.

Defnyddio llety gwyliau at ddibenion preswyl

Mae’n bosibl bod rhai pobl yn byw mewn llety gwyliau sydd bellach wedi cau i atal lledaeniad y coronafeirws.

Gall unrhyw un sy’n byw mewn carafán ar safle gwyliau o dan gytundeb a wnaed o dan ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 aros yn eu cartref. Byddai disgwyl i berchnogion parciau carafannau gwyliau a safleoedd gwersylla wneud eu hymdrechion gorau i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw un arall sy’n aros ar y safle i adael.

Ceir eithriadau lle y gall pobl aros mewn mathau eraill o lety gwyliau (e.e. bythynnod neu fflatiau hunanddarpar) os ydynt yn defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa neu os na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa.

Gall Llywodraeth Cymru neu awdurdod lleol ofyn i unrhyw fusnes gwyliau aros ar agor i ddarparu llety i weithwyr allweddol neu grwpiau sy’n agored i niwed fel y digartref.

Nid yw’r gofyniad i lety gwyliau gau yn effeithio ar bobl sy’n byw mewn cartrefi mewn parciau ar safleoedd sydd wedi’u trwyddedu at ddefnydd preswyl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol a pherchnogion llety gwyliau a nodyn cyfarwyddyd i berchnogion llety gwyliau.

Ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: