Cymunedau

Coronafeirws: llysoedd troseddol

Mae pob maes wedi profi anawsterau newydd yn sgil pandemig y coronafeirws, ond roedd y system gyfiawnder eisoes yn wynebu nifer o heriau. Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2019, ledled Cymru a Lloegr, roedd gan y llysoedd ynadon bron i 300,000 o achosion heb eu cynnal eto a 37,434 gan lysoedd y Goron. Mae'r blog hwn yn ystyried effaith y coronafeirws ar y llysoedd troseddol gan gynnwys treialon rheithgor a mynediad at gyfiawnder i bobl sy’n agored i niwed. At hynny, mae’n trafod nifer o ffyrdd sydd wrthi’n cael eu hystyried er mwyn mynd i'r afael â'r achosion sydd wedi cronni.

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

3 Mehefin 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae pob maes wedi profi anawsterau newydd yn sgil pandemig y coronafeirws, ond roedd y system gyfiawnder eisoes yn wynebu nifer o heriau. Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2019, ledled Cymru a Lloegr, roedd gan y llysoedd ynadon bron i 300,000 o achosion heb eu cynnal eto a 37,434 gan lysoedd y Goron.

Ar 22 Mai 2020, soniodd yr Arglwydd Burnett, sef Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr am yr angen i gael cyllid priodol at ddibenion gweinyddu cyfiawnder. Dywedodd fod y broses o weinyddu cyfiawnder wedi’i thanariannu am flynyddoedd lawer a bod goblygiadau’r tanariannu hwnnw’n dod yn ôl ar ein pennau.

Mae’r blog hwn yn ystyried effaith y coronafeirws ar y llysoedd troseddol gan gynnwys treialon rheithgor a mynediad at gyfiawnder i bobl sy’n agored i niwed. At hynny, mae’n trafod nifer o ffyrdd sydd wrthi’n cael eu hystyried er mwyn mynd i’r afael â’r achosion sydd wedi cronni.

Cyfiawnder troseddol

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am blismona, carchardai a’r llysoedd yng Nghymru. Mae Cymru a Lloegr yn rhannu un awdurdodaeth sy’n golygu pan fydd Senedd Cymru yn deddfu mewn meysydd datganoledig, maen nhw’n ffurfio rhan o gyfreithiau Cymru a Lloegr ond yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Fodd bynnag, mae gan Senedd Cymru bwerau sy’n gweithredu o fewn y system gyfiawnder, er enghraifft gofal iechyd mewn carchardai.

Deddf y Coronafeirws 2020

Cafodd Deddf y Coronafeirws 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020. Yn ôl y Nodiadau Esboniadol, bydd effeithlonrwydd ac amseroldeb gwrandawiadau llys a thribiwnlys yn dioddef yn ystod COVID-19.

Diwygiodd y Ddeddf ddeddfwriaeth arall fel y caiff person, os ceir cyfarwyddyd gan y llys, gymryd rhan mewn achos troseddol cymwys trwy gyswllt sain byw neu gyswllt fideo byw. Gall barnwr gymryd rhan mewn achos trwy gyswllt byw, fodd bynnag, ni chaiff aelod o’r rheithgor wneud hynny.

Yn ôl Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM y barnwr neu’r ynad fydd yn penderfynu sut y cynhelir gwrandawiad a’r ffordd orau i gynnal buddiannau cyfiawnder. Wrth wneud eu penderfyniad byddant yn ystyried natur y materion dan sylw ac unrhyw faterion a allai godi i gyfranogwyr wrth ddefnyddio technoleg sain neu fideo.

Pa lysoedd sydd ar agor?

Ers diwedd mis Mawrth mae’r llysoedd wedi eu rannu’n dri chategori:

  1. Llysoedd ar agor – mae’r adeiladau ar agor i’r cyhoedd ar gyfer gwrandawiadau wyneb yn wyneb hanfodol;
  2. Llysoedd â staff – mae staff a barnwyr yn gweithio o’r adeiladau ond nid ydynt ar agor i’r cyhoedd;
  3. Llysoedd wedi’u gohirio – mae’r adeiladau hyn ar gau dros dro.

Ar 29 Mai 2020 ac ers hynny, mae hanner y llysoedd ynadon yng Nghymru ar agor ynghyd â 4 llys y Goron yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond Llys y Goron Caerdydd sy’n cynnal treialon rheithgor.

Mae Tabl 1 yn dangos statws llysoedd ynadon yng Nghymru:

Ar agor staffWedi’u gohirio
Caernarfon
Caerdydd
Llanelli
Merthyr
Yr Wyddgrug
Casnewydd
Abertawe
Aberystwyth
Hwlffordd
Wrecsam
Cwmbrân
Llandrindod
Llandudno
Y Trallwng

Mae Tabl 2 yn dangos statws llysoedd y Goron yng Nghymru:

Ar agor staff
Caernarfon
Caerdydd
Yr Wyddgrug
Abertawe
Merthyr
Casnewydd

Yn ôl Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, bydd rhwydwaith o lysoedd â blaenoriaeth yn aros ar agor wrth i waith y llysoedd gael ei gyfuno mewn llai o adeiladau.

Pa achosion sy’n cael eu blaenoriaethu?

Mae Chris Philp, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, wedi dweud bod y farnwriaeth yn ceisio blaenoriaethu’r achosion sydd bwysicaf ac angen eu cynnal ar frys.

Mae Cymdeithas yr Ynadon wedi dweud y rhoddwyd tair blaenoriaeth iddynt. Yn gyntaf, blaenoriaethir pobl sydd yn y ddalfa neu sydd mewn perygl – hynny yw, pethau fel gorchmynion amddiffyn rhag trais domestig.

Yn ail, blaenoriaethir treialon gyda rhai’n cael eu cynnal yn llysoedd yr ynadon ond yn amrywio o ardal i ardal.

Mae’r drydedd flaenoriaeth yn ymwneud â gweithdrefnau cyfiawnder unigol, sydd hefyd yn cael eu cynnal. Hysbysiadau yw’r rhain lle mae rhywun wedi’i gyhuddo o fân drosedd a’r ynad yn penderfynu ar yr achos heb orfod mynd i’r llys.

Treialon gan reithgor

Ganol mis Mawrth, dywedodd Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr:

Trials in the Crown court present particular problems…because they require the presence in court of many different participants including the judge, the jury, a defendant, lawyers and witnesses as well as staff.

Ar 23 Mawrth 2020 rhoddwyd y gorau i gynnal treialon gan reithgor. Roedd llysoedd y Goron yn dal i wneud ystod o waith o bell gan gynnwys gwrandawiadau dedfrydu a phob cais brys, gan gynnwys ceisiadau am wrandawiadau mechnïaeth a gwrandawiadau cyn achosion, a gwrandawiadau rheoli achosion pellach.

Fis yn ddiweddarach sefydlwyd gweithgor i ystyried ffyrdd o ail-gychwyn rhai treialon rheithgor unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Penderfynodd y grŵp ar nifer fach o lysoedd y Goron a aseswyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar 18 Mai 2020, caniatawyd i reithgorau dyngu llw mewn pedwar llys, ac i dreialon ddechrau yno eto. Y llysoedd hynny oedd Llys y Goron Bryste, Llys y Goron Caerdydd, y Llys Troseddol Canolog (yr Old Bailey yn Llundain), a Llys y Goron Manceinion.

Mynediad at gyfiawnder

Wrth ymateb i’r ffaith bod nifer yn llai o lysoedd ar agor, mae Cyngor y Bar wedi dweud ei bod yn anochel y bydd y mesurau hyn yn golygu y bydd cael mynediad at gyfiawnder yn anoddach i rai pobl. At hynny, yn ôl Cyngor y Bar mae cau llysoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf eisoes wedi cyfyngu ar fynediad lleol i lysoedd.

Rhwng 2010 a 2020, cafodd 22 o lysoedd ynadon eu cau yng Nghymru. Mae hyn yn fwy na nifer y llysoedd ynadon sydd ar agor ar hyn o bryd, sef 14.

Aeth Cyngor y Bar ymlaen i ddweud bod rhaid i’r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg beidio tanseilio mynediad at gyfiawnder i’r rhai hynny nad ydynt yn gyfarwydd ag ef.

Pobl sy’n agored i niwed

Clywodd Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin bryderon Cymdeithas yr Ynadon am dystion sy’n fwy agored i niwed, er enghraifft nid pawb sydd â mynediad at fideo-gynadledda. Dywedwyd nad yw rhai pobl yn gallu mynegi eu hunain cystal dros fideo, a soniwyd am bwysigrwydd iaith y corff.

Cytunodd Cymdeithas y Gyfraith gyda’r pryderon ynghylch pobl sy’n agored i niwed ac ychwanegwyd bod cryn ddibyniaeth hefyd ar waith trefnu da cyn y gwrandawiad. Nodwyd y dylai fod cyfle i bob parti wneud yn siŵr nad oes unrhyw broblemau gyda’r dechnoleg, fodd bynnag, nid yw hynny wedi bod yn digwydd ar bob adeg.

Mesurau posibl yn y dyfodol

Mae Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr wedi dweud mai’r prif rwystr o ran cynyddu treialon llysoedd y Goron yw’r angen i gadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, mae tair ystafell yn hytrach nag un yn cael eu defnyddio yn y llys ar gyfer pob achos. Dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus hefyd fod defnyddio adeiladau eraill, er enghraifft canolfannau cynadledda mewn gwestai, yn cael ei ystyried i helpu gyda’r achosion sydd wedi cronni.

Rhagor o ddedfrydu mewn llysoedd ynadon

Codwyd y defnydd o ddeddfwriaeth frys i ganiatáu llysoedd ynadon i roi dedfrydau o 12 mis. Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn darparu ar gyfer y cynnydd hwn mewn dedfrydu, fodd bynnag, nid yw hyn wedi ei gychwyn hyd yn hyn. Byddai angen is-ddeddfwriaeth i ddod â hynny i rym.

Mae Cymdeithas yr Ynadon wedi dweud y gallai Senedd y DU ystyried cyflwyno dedfrydau 12 mis hyd yn oed os mai am gyfnod dros dro yn unig y byddai hynny’n digwydd ac yn helpu i fynd i’r afael â’r nifer anochel o achosion fydd wedi cronni.

Nododd yr Arglwydd Brif Ustus, er y byddai hynny’n gostwng nifer yr achosion sy’n mynd i lysoedd y Goron, roedd pryderon y byddai mwy o bobl yn cael eu hanfon i’r carchar am gyfnodau cymharol fyr.

Newidiadau i lysoedd y Goron

Pan ofynnwyd iddo gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin am fesurau dros dro posibl, soniodd yr Arglwydd Brif Ustus am drafodaethau ynghylch gostwng nifer y rheithwyr o 9 i 7.

Codwyd y posibilrwydd o gael treialon â barnwyr yn unig, er i’r Arglwydd Brif Ustus ddweud na ddylid ond ystyried hynny mewn achosion eithriadol. Cynigiodd hefyd y gallai achosion ‘y naill ffordd neu’r llall’ (achosion y gallai ‘r llys ynadon neu lys y Goron eu clywed) gael eu clywed gan un barnwr llys y Goron, a dau ynad.

Fe wnaeth yr Arglwydd Brif Ustus yn glir nad oedd yn mynegi unrhyw farn ar hyn o bryd am ei fod yn credu bod angen gwell syniad arnom o ba mor hir y mae’r argyfwng presennol yn debygol o bara, yn enwedig o ran cadw pellter cymdeithasol. At hynny, rhybuddiodd na ddylem aros hyd nes ein bod mewn sefyllfa dra anodd cyn dechrau meddwl am hyn, a llunio polisïau.

Datganoli cyfiawnder i Gymru?

Ym mis Hydref 2019 cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ei adroddiad yn argymell y dylai rheolaeth dros blismona a chyfiawnder gael ei datganoli i Senedd Cymru ac y dylid creu awdurdodaeth Gymreig newydd.

Gallwch ddarllen mwy am gylch gwaith ac argymhellion y Comisiwn, a’r hyn y gallai datganoli cyfiawnder ei olygu yn ein blogiau blaenorol.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd wrthi’n cynnal ymchwiliad ynghylch gwneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: