Mynd i’r afael â llygredd amaethyddol: cyhoeddi rheoliadau drafft

Cyhoeddwyd 04/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer dull newydd dadleuol o fynd i'r afael â llygredd amaethyddol.

Cyhoeddwyd y rheoliadau drafft yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws, ond ni fydd y rheoliadau terfynol yn cael eu cyflwyno tan ar ôl cyfnod presennol y pandemig.

Mae grwpiau amgylcheddol yn cefnogi'r cynigion, ond mae undebau ffermio’n dweud eu bod yn anghymesur â hyd a lled y mater.

Mae mynd i’r afael â phroblem hirdymor llygredd nitradau yn fater dadleuol yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg bras o:

  • effaith llygredd nitradau;
  • y ddeddfwriaeth bresennol;
  • cefndir y rheoliadau arfaethedig newydd;
  • y rheoliadau drafft; a
  • barn y rhanddeiliaid.

Effaith llygredd nitradau

Mae arferion gwaith amaethyddol yn aml yn cynnwys defnyddio gwrteithiau, tail a slyri sy’n cynnwys nitradau i ychwanegu nitrogen at y pridd. Diben hyn yw gwella datblygiad planhigion, ac yn sgil hynny, swm ac ansawdd y cnwd. Fodd bynnag, gall gormod o nitradau arwain at ddifrod amgylcheddol sylweddol a chyson.

Daw’r rhan fwyaf o lygredd nitradau o ffynonellau amaethyddol gwasgaredig (llawer o ffynonellau unigol ar y cyd), drwy ddŵr ffo ar y tir. Gall gormod o nitradau fynd i mewn i gronfeydd dŵr wyneb, fel llynnoedd ac afonydd, ac achosi ewtroffeiddio. Mae ewtroffeiddio yn digwydd pan fydd maetholion yn cyfoethogi planhigion dyfrol ac algâu, gan achosi i’r canlynol ddigwydd:

  • lefelau ocsigen yn y dŵr yn gostwng (dadocsigeneiddio);
  • ansawdd y dŵr yn dirywio; ac
  • anifeiliaid dyfrol yn marw.

Gall llygredd nitradau hefyd effeithio ar ffynonellau dŵr yfed os yw’n mynd i ddŵr daear.

Yn ôl ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd tua 61 y cant o ddigwyddiadau llygredd amaethyddol y flwyddyn, rhwng 2010 a 2015, yn deillio o ffermydd llaeth.

Y ddeddfwriaeth bresennol

O dan Gyfarwyddeb Nitradau yr UE (91/676/EC), rhaid i’r DU:

  • nodi cronfeydd dŵr sydd wedi’u llygru neu sydd mewn perygl o lygredd nitradau;
  • dynodi’r ardaloedd hyn fel Parthau Perygl Nitradau (NVZs);
  • sefydlu Codau Ymarfer Amaethyddol Da gwirfoddol i ffermwyr eu dilyn;
  • sefydlu Rhaglen Weithredu orfodol i ffermwyr eu dilyn; a
  • monitro, adrodd ar, ac adolygu (os oes angen) y Parthau Perygl Nitradau bob pedair blynedd.

Mae’r Gyfarwyddeb Nitradau yn cael ei gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd drwy Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 a Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (fel y'i diwygiwyd).

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gorfodi'r rheoliadau, gan gynnwys y Rhaglen Weithredu.

Mae camau’r Rhaglen Weithredu yn cynnwys:

  • rheoli’r dyddiadau (y cyfnodau caeedig) a’r amodau y mae gwrtaith nitrogen a deunyddiau organig yn cael eu gwasgaru;
  • cael cyfleusterau digonol i storio tail a slyri;
  • cyfyngu ar faint o wrtaith nitrogen sy’n cael ei wasgaru i ofyniad y cnwd yn unig;
  • cyfyngu ar faint o ddeunydd organig sy’n cael ei wasgaru fesul hectar y flwyddyn;
  • cyfyngu ar gyfanswm y deunydd organig a’r tail sy’n cael ei wasgaru ar lefel fferm;
  • rheoli’r ardaloedd lle gellir gwasgaru gwrteithiau nitrogen (gwrteithiau organig ac anorganig);
  • rheolaethau ar ddulliau gwasgaru; a
  • pharatoi cynlluniau a chadw cofnodion fferm digonol.

Gall ffermwyr gael cymorth ariannol a chyngor oddi wrth Cyswllt Ffermio a'r Rhaglen Datblygu Gwledig i’w helpu i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Cefndir y rheoliadau arfaethedig newydd

Cafodd y Parthau Perygl Nitradau eu hadolygu ddiwethaf rhwng 2015 a 2016 gan CNC. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn argymell dynodi saith ardal newydd, gan gynnwys ar gyfer dyfroedd ewtroffig, dyfroedd daear a dyfroedd wyneb.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a ddilynodd yr adolygiad rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2016. Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn ffafrio:

  1. parhau â’r dull presennol o ddynodi Parthau Perygl Nitradau. Byddai hyn yn arwain at ddynodi rhagor o fesurau’r Rhaglen Weithredu ac at ddynodi 8 y cant o arwynebedd tir yng Nghymru (yn cynyddu o 2.4 y cant yn 2012); neu
  2. dynodi Cymru gyfan yn Barth Perygl Nitradau.

Ymatebodd Lesley Griffiths, sydd erbyn hyn yn Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, i ymatebion yr ymgynghoriad flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Rhagfyr 2017. Dywedodd ei bod “o blaid cyflwyno dull cenedlaethol”. Roedd hyn yn seiliedig ar ymatebion i’r ymgynghoriad a barn a oedd yn deillio o drafodaeth Bord Gron Gweinidogion Brexit a’i Is-grŵp Rheoli Tir, ac Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol.

Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd 2018, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai’n cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer Cymru gyfan, a fyddai’n dod i rym ym mis Ionawr 2020, a fyddai’n cynnwys darpariaethau ar gyfer:

  • cynlluniau rheoli maethynnau;
  • gwrteithio cynaliadwy sy’n gysylltiedig â gofynion y cnwd;
  • diogelu dŵr rhag llygredd sy’n gysylltiedig â phryd, ble a sut y caiff gwrtaith ei wasgaru; a
  • safonau storio tail.

Dywedodd hefyd y byddai ffermwyr yn cael eu cefnogi i gyrraedd y safonau gofynnol trwy Cyswllt Ffermio a'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy. Roedd £6 miliwn ar gael trwy'r grant, a nod hyn oedd atal llygredd amaethyddol a rheoli maethynnau.

Er mawr syndod i lawer o randdeiliaid, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2019 yn dweud bod cynrychiolwyr y diwydiant ffermio wedi cefnogi dull arall:

Mae prosiect yn edrych ar opsiynau gwirfoddol, wedi'i ariannu ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac NFU Cymru, wedi bod ar waith i ddatblygu fframwaith dŵr drafft. Mae'r gwaith hwn wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai fod yn bosibl cynnig dull mwy hyblyg yn seiliedig ar ymreolaeth haeddiannol i gynnig yr un canlyniadau â rheoleiddio. Rwyf am edrych ymhellach a oes ffordd y gallwn ddarparu hyblygrwydd i ffermwyr i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn y ffordd sydd fwyaf addas i fusnesau unigol.

Nododd hefyd, yn dilyn canlyniad y gwaith hwn ac yn dilyn ymgynghori pellach ag is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru, y byddai'n ystyried cyngor gan ei swyddogion ym mis Ionawr.

Y rheoliadau drafft

Cyhoeddwyd y rheoliadau drafft – Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2020 Drafft – ar 8 Ebrill 2020. Yn ei datganiad ar y coronafeirws ar yr un diwrnod, dywedodd y Gweinidog ei bod yn bwriadu cyflwyno’r rheoliadau “ar ôl i'r argyfwng ddod i ben”.

Mae’r Nodyn Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r rheoliadau drafft yn nodi:

Er y byddai’r rheoliadau drafft, os ydynt yn cael eu cyflwyno, yn berthnasol i bob fferm yng Nghymru, mae’r mesurau wedi eu targedu at y gweithgareddau a allai beri llygredd, a byddai’r effaith ar ffermydd unigol yn dibynnu’n fawr ar y math o weithgareddau sy’n cael eu cynnal. At ei gilydd gweithgareddau dwys sy’n cynhyrchu llawer o slyri a ffermydd dofednod a fyddai’n gweld y newid mwyaf; ni fyddai ffermydd llai dwys nad ydynt yn cynhyrchu slyri yn gweld llawer o newid. Ar gyfer pob math o fferm, byddai’r effaith ar y rheini sydd eisoes yn dilyn canllawiau arfer da gryn dipyn yn llai na’r effaith ar y rheini nad ydynt yn gwneud hynny.

Yng nghyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd ar 19 Mai, galwodd Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru am gyhoeddi’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau drafft.

Yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor, ar 7 Mai, ymrwymodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i nodi pryd y byddai'n gallu cyflwyno’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Dywedodd hefyd:

… we will look to provide support for people who need that support to have a look at what they need to do within the regulations, but what we won't do is give funding to make sure that they come up to compliance.

Barn y rhanddeiliaid

Pan gyhoeddwyd y dull newydd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018, ceisiodd y Gweinidog fynd i’r afael â phryderon y diwydiant ffermio:

Bydd y rheoliadau'n atgynhyrchu'r arferion da y mae’r mwyafrif o ffermwyr ledled y wlad eisoes yn eu dilyn wrth eu gwaith bob dydd – ac ychydig o newid fydd iddynt hwy o ganlyniad i’m datganiad.

Mae rhanddeiliaid amaethyddol wedi tueddu i anghytuno gyda'r syniad hwn. Roedd deiseb, a drafodwyd am y tro cyntaf gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad ym mis Ionawr 2017, yn galw am beidio â gweithredu ymhellach ar Barthau Perygl Nitradau yng Nghymru, gan nodi y byddai ‘yn rhoi pwysau aruthrol ar ddiwydiant llaeth sydd eisoes yn crebachu’. Casglodd y ddeiseb 430 o lofnodion.

Mae NFU Cymru’n dadlau bod cymhlethdod a chost cydymffurfio yn gorbwyso’r manteision o ran ansawdd dŵr, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch cyfnod pontio ymadael â’r UE. Mynegodd yr undeb ei syndod ynghylch y penderfyniad i gyhoeddi rheoliadau drafft yn ystod pandemig y coronafeirws, gan ddweud ei fod wedi’i amseru’n wael ac yn anystyriol.

Ymatebodd Undeb Amaethwyr Cymru i gyhoeddi'r rheoliadau drafft gan ddweud mai dyma “the most draconian proposals, the most far-reaching proposals as regards agricultural pollution to have been put on the table for decades”.

Amcangyfrifodd Undeb Amaethwyr Cymru y byddai nifer y daliadau fferm sy’n ddarostyngedig i’r rheoliadau yn codi o 600 i fwy na 24,000.

Fodd bynnag, mae grwpiau amgylcheddol wedi galw am weithredu ers amser maith.

Cyhoeddodd sawl sefydliad, gan gynnwys RSPB Cymru, WWF Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Cymru ymateb ar y cyd (PDF, 435KB) i ddatganiad y Gweinidog ym mis Rhagfyr 2017 lle dywedodd y byddai “o blaid cyflwyno dull cenedlaethol”.

Fe wnaethant groesawu'r cyhoeddiad, gan ei ddisgrifio fel trobwynt, a phrawf allweddol ar gyfer deddfwriaeth amgylcheddol newydd Llywodraeth Cymru.

Ond fe wnaethant hefyd fynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed yn y maes hwn.

Mae’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy hefyd o blaid y cynigion, ar ôl dadlau o blaid dull Cymru gyfan cyn hyn.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genweirio wedi rhoi ‘croeso gofalus’ i ddatganiad 2018, gan godi pryderon ynghylch gorfodi yng ngoleuni gostyngiadau yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith na fyddai manteision y rheoliadau newydd yn cael eu teimlo am nifer o flynyddoedd ac y bydd cyfnod trosiannol yn gysylltiedig â hwy i ganiatáu amser i ffermwyr addasu. Ysgrifennodd Afonydd Cymru (y sefydliad ymbarél ar gyfer Ymddiriedolaethau Afonydd yng Nghymru) at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ym mis Ionawr 2020 yn mynegi ei gefnogaeth i'r cynigion.

Mae sefydliadau ar ddwy ochr y ddadl yn aros yn eiddgar am y rheoliadau sy'n dod gerbron y Senedd.

O 6 Mai 2020, newidiodd enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, a chyfeirir at y sefydliad yn gyffredin fel y Senedd. O ganlyniad, mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon yn adlewyrchu'r newid enw, gan gyfeirio at y sefydliad fel y 'Cynulliad' mewn cyd-destun hanesyddol (cyn 6 Mai) a'r 'Senedd' wedi hynny.


Erthygl gan Elfyn Henderson a Holly Tipper, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.