Coronafeirws: dychwelyd yn raddol i'r ysgol

Cyhoeddwyd 16/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 9 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai pob disgybl yn gallu dychwelyd i’r ysgol yn amser llawn o ddechrau’r tymor newydd ar 1 Medi, yn dibynnu ar amodau trosglwyddo’r coronafeirws.

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 24 Mehefin 2020.

O ddydd Llun 29 Mehefin, bydd ysgolion yng Nghymru yn ailagor eu drysau wrth i ddisgyblion ddychwelyd yn raddol bob yn dipyn, 14 wythnos ar ôl i addysg statudol ddod i ben yn ein hysgolion oherwydd pandemig y coronafeirws.

Diben hyn yw i ddisgyblion ‘Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi’. Bydd hyn yn torri ar gyfnod hir i ffwrdd o'r ysgol ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr hyn y mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, wedi rhybuddio fydd 'yn debygol o fod yn dymor hydref hir a heriol iawn' ac yn 'normal newydd'.

Beth fydd hyn yn ei olygu yn ymarferol?

Heblaw am ddisgyblion sy’n amddiffyn eu hunain neu sy’n dangos symptomau coronafeirws, dylai pob disgybl gael cyfle i fynychu ei ysgol at ddibenion addysgol ar sawl achlysur rhwng 29 Mehefin a diwedd tymor yr haf. Fodd bynnag, bydd gofynion pellter cymdeithasol yn golygu na fydd pob disgybl yn gallu mynychu ar yr un pryd.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion ac awdurdodau lleol wrthi’n paratoi’r trefniadau ymarferol wrth i ddisgyblion ddychwelyd yn raddol. Mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd ysgolion yn amrywio o ran faint o ddisgyblion y gallant eu gwasanaethu yn ddiogel, ond yn gyffredinol ni fydd mwy na thraean y disgyblion yn bresennol ar unrhyw adeg. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y byddai dysgwyr yn cael cyfle i fynychu’r ysgol ar dri achlysur cyn gwyliau'r haf. Fodd bynnag, gall hyn fod yn amlach mewn rhai achosion.

Mae'r canllawiau yn trafod materion logistaidd fel hylendid, pellter cymdeithasol, amserlenni, trefniadau glanhau, defnyddio gofod, arlwyo a chludiant. Bydd grwpiau blwyddyn yn cael eu rhannu'n grwpiau llai gydag amser cyrraedd, amser egwyl ac amser gadael yn cael eu hamrywio. Cynghorir ysgolion cynradd i gyfyngu ar nifer y disgyblion mewn grwpiau i gynnwys dim mwy nag wyth, gan gydnabod bod pellter cymdeithasol o 2 fetr yn annhebygol o fod yn bosibl bob amser. Mewn cyferbyniad, disgwylir i ysgolion uwchradd gynnal pellter 2 fetr ar gyfer disgyblion a staff.

Bydd y ddarpariaeth ddyddiol bresennol ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed mewn hybiau yn parhau tan wyliau'r haf, gyda phlant yn mynychu eu hysgol arferol o 29 Mehefin yn hytrach na hybiau fel yw’r achos ar hyn o bryd. Mae hyn wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau yr ymatebir i’r coronafeirws yn ystod y cyfyngiadau symud, fel yr amlinellir yn ein herthygl flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch y gweithgareddau ysgolion o 29 Mehefin.

Beth yw cefndir y penderfyniad?

Yn y Senedd ar 10 Mehefin (paragraff 22), rhoddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ei farn ar y cydbwysedd sydd i'w daro rhwng amddiffyn iechyd y cyhoedd a lles ac addysg plant a phobl ifanc:

Fel y mae ein prif swyddog meddygol wedi egluro'n gyson, mae mwy nag un math o niwed o ganlyniad i coronafeirws. Mae’n rhaid i anghenion plant fod yn bryder gwirioneddol wrth inni geisio cydbwyso manteision diogelu rhag y feirws yn erbyn y niwed sy’n deillio o golli addysg a chyswllt cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth y bydd y niwed hwnnw’n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes dan anfantais.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, sy’n weithredol ers 1 Mehefin, i reoli’r broses o ailgychwyn ysgolion. Dywed y bydd hyn yn rhan o'r 'normal newydd', a chan dybio bod y canllawiau'n cael eu dilyn, ni fydd canlyniad prawf coronafeirws positif mewn ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i'r safle gael ei gau ac nid yw'n 'achos larwm'.

Dywedodd y Gweinidog Addysg wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Ebrill nad oedd newid am gael ei wneud bryd hynny i'r sefyllfa bresennol o ran ysgolion ac ar 7 Mai disytyrodd ailagor ysgolion ar 1 Mehefin, sef y dyddiad yr ailagorodd ysgolion cynradd yn Lloegr i grwpiau blwyddyn penodol. Nododd y Gweinidog bum egwyddor allweddol ar gyfer ailagor ysgolion a chyhoeddodd fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf ar gyfer addysg a gofal plant.

Mae dull goleuadau traffig tuag i ddiweddu’r cyfyngiadau symud gan Lywodraeth Cymru yn nodi y byddai grwpiau disgyblion blaenoriaeth yn dychwelyd i'r ysgol yn gyntaf (Ambr) cyn y gallai pob plentyn a disgybl ddychwelyd (Gwyrdd). Fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth wedi hynny o safbwynt hawliau plant y dylai disgyblion o bob oed ddychwelyd ar yr un pryd (paragraffau 295-296, 321), er mwyn rhoi cyfle cyfartal i bob grŵp blwyddyn fynd i'r ysgol.

Amlygwyd mai'r opsiwn a ffefrir gan Brif Swyddog Meddygol Cymru oedd dod â gwyliau haf yr ysgolion ymlaen fis er mwyn i'r disgyblion ddychwelyd i'r ysgol ddechrau mis Awst. Dywedodd Dr Frank Atherton yn sesiwn friffio’r cyfryngau gan Lywodraeth Cymru ar 3 Mehefin nad oedd agor ysgolion ym mis Awst 'yn opsiwn deniadol i'r undebau' a dychwelyd fis yn gynharach na hynny ar 29 Mehefin oedd yr 'ail opsiwn gorau'.

Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau'r Senedd (paragraff 294) fod opsiwn mis Awst yn ddeniadol am nifer o resymau gan gynnwys ei fod yn cynnig rhagor o amser i'r rhaglen Prawf, Olrhain, Diogelu ymsefydlu, ond bod 'pob undeb unigol wedi gwrthod y cyfle hwnnw' ac na wnaethant roi eu cydsyniad. Ychwanegodd y Gweinidog:

Byddai aros tan fis Medi yn golygu na fyddai'r rhan fwyaf o blant wedi tywyllu ysgol ers o leiaf 23 wythnos, a chredaf y byddai hyn yn niweidiol i'w datblygiad, i'w dysgu ac i'w lles.

Yn ogystal ag ailagor ysgolion ar 29 Mehefin, cynigiodd Llywodraeth Cymru ymestyn tymor yr haf un wythnos tan 24 Gorffennaf. Byddai’r wythnos a gollir o wyliau'r haf yn cael ei disodli gan wythnos yn ychwanegol o wyliau yn yr hydref sy'n golygu y byddai toriad o bythefnos dros hanner tymor mis Hydref. Fodd bynnag, mater i awdurdodau lleol ac ysgolion yw ymestyn tymor yr haf, ac adroddwyd bod llai na chwarter o’r ysgolion a fydd yn agor am wythnos ychwanegol.

Ochr yn ochr â’r penderfyniadau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyngor gan ei Chell Cynghori Technegol ar y ddealltwriaeth ddiweddaraf o COVID-19 mewn perthynas â phlant ac addysg.

Sut olwg fydd ar ddysgu yn ystod gweddill tymor yr haf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio pwerau o dan Ddeddf Coronafeirws 2020 i ddatgymhwyso gofynion ar ysgolion i ddarparu’r cwricwlwm. Dywed fod hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod gan ysgolion yr hyblygrwydd i canolbwyntio ar iechyd a llesiant dysgwyr, gan eu cefnogi i ddod yn rhan o’r ysgol eto ac i alluogi dull ‘dysgu cyfunol’ (disgrifir isod).

Ers dod â’r ddarpariaeth addysg statudol i ben ar 20 Mawrth, mae disgwyl i ysgolion gefnogi dysgu disgyblion o gartref, trwy ddefnyddio adnoddau ar-lein fel Hwb. Dyma’r achos hyd yn oed gydag ailagor ysgolion ar 29 Mehefin. Er y bydd disgyblion yn cael cyfle i fynd i'w hysgol, ni fydd hyn yn cyfateb i fwy na rhai dyddiau dros dair neu bedair wythnos a byddant yn parhau i ddysgu o gartref hyd y gellir rhagweld. Disgrifir hyn fel 'dull dysgu cyfunol', am ei fod yn cyfuno dysgu wyneb yn wyneb yn yr ysgol a dysgu o bell gartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ddysgu dros dymor yr haf, yn dilyn y gyfres Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu: parhad dysgu a gyhoeddwyd ym mis Ebrill. Mae hyn yn nodi mai lles dysgwyr a staff ddylai fod yn brif bryder ac y gall ysgolion gyfeirio at yr adran Iechyd a Lles o’r cwricwlwm newydd i'w gyflwyno ym mis Medi 2022.

Cynghorir athrawon a disgyblion i beidio â cheisio 'dal i fyny' ar yr holl weithgaredd maen nhw wedi'u colli dros dymor yr haf. Mae Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw ganolbwyntio ar ddatblygu 'ffitrwydd dysgu' a pharodrwydd ar gyfer y camau nesaf yn hytrach na chanolbwyntio ar lefelau cyrhaeddiad a’r hyn na ddysgwyd.

Mae goblygiadau penodol i ddisgyblion Blwyddyn 10 a Blwyddyn 12 oherwydd yr amser cwricwlwm a gollir cyn ceisio am gymwysterau y flwyddyn nesaf. Mae’r rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, yn ystyried opsiynau ar gyfer gwahanol senarios yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21. Ymgynghorodd Cymwysterau Cymru hefyd ar y trefniadau o ran dyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch eleni, ar ôl canslo cyfres arholiadau 2020. Mae dull y rheoleiddiwr yn rhoi ystyriaeth i bolisi Llywodraeth Cymru fel y'i nodir mewn Cyfarwyddyd Gweinidogol.

Sut mae rhanddeiliaid wedi ymateb?

Mae'r undebau addysgu wedi beirniadu'r penderfyniad i ailagor ysgolion o 29 Mehefin. Ym marn yr NEU, mae hyn yn 'ormod yn rhy fuan' ac mae NASUWT wedi cyfeirio ato fel 'yr opsiwn mwyaf peryglus' gan ddweud nad oedd unrhyw fudd i ddisgyblion o 'ailgydio ynddi' yn 'rheswm digon da dros beryglu bywydau'. Yn y cyfamser, dywedodd UCAC 'po fwyaf o ddisgyblion sy'n dychwelyd, y mwyaf yw'r risg' a chafodd 'sioc' bod Llywodraeth Cymru 'wedi anwybyddu barn yr undebau y dylai Blynyddoedd 6, 10 a 12 fod wedi cael blaenoriaeth pe bai ysgolion yn ailagor cyn yr haf'.

Mae'r undebau sy'n cynrychioli penaethiaid ac arweinwyr ysgolion wedi lled groesawu'r canllawiau a gyhoeddwyd i helpu â’r paratoadau ar gyfer ailagor ysgolion. Mae'r NAHT 'yn gyffredinol yn cefnogi ymdrechion y Llywodraeth' ac mae ASCL yn dweud ei bod yn hanfodol ein bod yn 'bwrw ymlaen â'r dasg hanfodol o ganfod sut mae lles a dysg plant, a dechrau ailgydio mewn ymdeimlad o normalrwydd ar ôl y cyfnod hir hwn o darfu'.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi tynnu sylw at y ‘plant hynny sydd heb dderbyn yn llawn eu hawl i addysg, efallai oherwydd diffyg mynediad i adnoddau adref, anableddau neu anghenion dysgu, neu oherwydd rieni sy’n jyglo gwaith a dysgu eu plant. Ychwanegodd ‘does dim amheuaeth fod yr argyfwng wedi atgyfnerthu’r anghydraddoldebau sydd yn bodoli’n barod cyn i’n hysgolion gau i ran fwyaf o ddisgyblion’.

Ddechrau mis Mai, cyhoeddodd Parentkind ganlyniadau arolwg yn nodi bod rhieni yng Nghymru yn amharod i'w plant ddychwelyd i'r ysgol yn rhy fuan. Nid oedd 40% eisiau meddwl am unrhyw amserlen i ddychwelyd nes bod diogelwch yn cael ei sicrhau, boed hynny gan y Llywodraeth neu gan arweinwyr ysgol/athrawon, a dywedodd 13% arall na fyddent ond yn anfon eu plant yn ôl i'r ysgol pan fydd staff a disgyblion wedi cael brechiad, hyd yn oed os yw hynny ymhen 12 i 18 mis. Dim ond 6% o rieni yng Nghymru a ddywedodd ddechrau mis Mai y byddent yn gyffyrddus â dychwelyd ym mis Gorffennaf.

Dylid cydnabod mai dyma oedd y sefyllfa ddechrau mis Mai, ac efallai fod barn rhieni wedi newid ers hynny. Fodd bynnag, mae'r arolwg yn dangos lefel pryder rhieni ynghylch dychwelyd i'r ysgol yn rhy gyflym, p'un a yw'r pryderon yn ganlyniad i'r risg i iechyd corfforol y plant a phobl ifanc eu hunain (er bod y risg honno’n fach iawn [paragraff 6-7]) neu'r risgiau ehangach i gymdeithas (PDF, tudalen 4) yn sgil cynyddu trosglwyddiad y feirws.

Pa effaith mae’r coronafeirws yn ei chael ar blant?

Ynghyd â Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru ac Ieuenctid Cymru, cynhaliodd y Comisiynydd Plant Cymru arolwg ar-lein i gasglu barn plant ar sut mae pandemig y coronaefirws wedi effeithio arnynt. Roedd hyn yn dangos pryderon ymhlith disgyblion oed uwchradd yn benodol, gyda dim ond 11% o’r ymatebwyr yn dweud nad oeddent yn teimlo'n bryderus am eu haddysg; a'r pryder oedd fwyaf cyffredin yn eu plith oedd eu bod yn poeni am syrthio ar ei hôl hi gyda’r gwaith (54%).

Rydym wedi ysgrifennu erthygl arall am effaith y coronafeirws ar hawliau plant ac am y rhybudd a gafwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (PDF) o 'effaith gorfforol, emosiynol a seicolegol difrifol' y pandemig ar blant.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wrthi’n craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws ac wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth. Mae’r materion sy'n codi yn cynnwys yr effaith ar blant sy'n agored i niwed, diogelu'r sawl sydd mewn perygl penodol, boedd yn risg i’w iechyd corfforol neu feddyliol, ac effaith anghymesur y cyfyngiadau symud a chau ysgolion ar ddisgyblion difreintiedig.

Rydym hefyd wedi llunio erthyglau yn egluro goblygiadau'r coronafeirws i addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau, yn ogystal â gofal plant.

Rydym yn diweddaru cyfres o ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ynghylch y coronafeirws. Dyma ddolen i'r adran Ysgolion.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.