Delweddau Data Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Ystadegau

Coronafeirws: gwarchod

Ers canol mis Mawrth 2020, dywedwyd wrth bobl yr ystyrir eu bod yn eithriadol o agored i niwed o’r coronafeirws y dylent 'warchod'. Mae'r erthygl hon yn egluro beth mae hyn yn ei olygu, yr help sydd ar gael a nifer y cleifion a warchodir yng Nghymru.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

18 June 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ers canol mis Mawrth 2020, dywedwyd wrth bobl yr ystyrir eu bod yn eithriadol o agored i niwed o’r coronafeirws y dylent ‘warchod’. Mae’r erthygl hon yn egluro beth mae hyn yn ei olygu, yr help sydd ar gael a nifer y cleifion a warchodir yng Nghymru.

Beth y mae gwarchod yn ei olygu?

Mae gwarchod yn golygu diogelu’r bobl hynny sy’n eithriadol o agored i niwed o’r coronafeirws oherwydd bod arnynt gyflwr iechyd penodol sy’n bodoli eisoes. Mae rhestr o’r cyflyrau iechyd hyn wedi cael ei chynnwys yng nghanllawiau gwarchod Llywodraeth Cymru.

Dylai pobl y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed fod wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Cynghorir y bobl hynny’n gryf i aros gartref ac i leihau cysylltiadau wyneb yn wyneb.

Os bydd rhywun yn credu ei fod yn perthyn i un o’r categorïau o bobl sy’n eithriadol o agored i niwed ac nad yw wedi cael llythyr, cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylai drafod ei bryderon â’i feddyg teulu neu feddyg ysbyty. Dywed y canllawiau: “I sicrhau bod cleifion risg uchel yn cael y llythyr, mae meddygon teulu a doctoriaid ysbytai yn medru ychwanegu pobl at y rhestr warchod”.

Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ddau newid ar gyfer pobl sy’n gwarchod o 1 Mehefin. Yn gyntaf, gallant wneud ymarfer corff yn yr awyr agored faint a fynner o weithiau bob dydd, ond fe’u cynghorir i wneud hynny ar adegau llai prysur i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â phobl eraill. Yn ail, gallant gwrdd yn yr awyr agored ag aelwyd arall ar yr un telerau â phawb arall yng Nghymru.

Am ba hyd y bydd angen i bobl warchod eu hunain?

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd gan fod y cyfnod gwarchod cychwynnol o 12 wythnos yn dod i ben ar 15 Mehefin, bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu llythyrau newydd at y bobl sy’n gwarchod eu hunain. Bydd y llythyrau’n nodi’r ddau newid uchod a bydd yn cynghori pobl i ddilyn y cyngor cyfredol i beidio â mynd i siopa na mynd i’r gwaith.

Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn adolygu’r cyngor ar gyfer y rhai sy’n gwarchod eu hunain yn unol â’r adolygiad o’r cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru “yn disgwyl y bydd unrhyw lacio pellach yn bosibl ar gyfer y grŵp hwn am beth amser” a bydd llythyrau yn cael eu hanfon eto at y rhai sy’n gwarchod eu hunain erbyn 16 Awst.

Pa gymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n gwarchod eu hunain?

Os oes gan bobl sy’n gwarchod eu hunain bresgripsiwn rheolaidd nad yw’n cael ei ddanfon atynt na’i gasglu gan eraill ar eu rhan, ac ni all teulu na ffrindiau helpu ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylent gysylltu â’u fferyllfa i drefnu gwasanaeth i’w ddanfon.

Dywed Llywodraeth Cymru fod “manylion y rheiny sydd wedi derbyn llythyr gwarchod gyda’r archfarchnadoedd. Bydd hyn yn eu galluogi i flaenoriaethu archebion dros y we i’r rheiny sy’n gwarchod.” Bydd awdurdodau lleol ac archfarchnadoedd yn cael y rhestr ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru o gleifion a warchodir yng Nghymru.

Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod pobl yn gofyn i feddygon teulu eu rhoi nhw ar y rhestr am fod angen y gwasanaethau hyn arnynt ac y byddai wedi bod yn well ceisio gwahanu mynediad at wasanaethau oddi wrth y cyngor meddygol.

Faint o bobl sydd ar restr y cleifion a warchodir yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data cryno ar y rhestr o gleifion a warchodir yng Nghymru. Mae’r rhestr yn seiliedig ar y fersiwn ddiweddaraf o’r rhestr o gleifion a warchodir fel y’u diffinnir gan fethodoleg Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae’r data’n darparu nifer y cleifion fesul awdurdod lleol, fesul bwrdd iechyd lleol ac yn ôl band oedran. Mae Llywodraeth Cymru yn egluro bod y data yn cael eu codi o wybodaeth reoli a’i bod yn bosibl y byddant yn newid. Mae hefyd yn rhybuddio nad yw’r data yn mynd drwy’r un prosesau dilysu ag a ddefnyddir ar gyfer rhyddhau ystadegau swyddogol.

Mae’r data diweddaraf, a gyhoeddwyd ar 17 Mehefin (wedi’u codi ar 15 Mehefin) yn dangos bod cyfanswm o 127,095 o bobl ar y rhestr o gleifion a warchodir yng Nghymru. O’r rhain, roedd 4,040 (3.2 y cant) o dan 16 oed, roedd 71,165 (56.0 y cant) rhwng 16 a 69 oed a 51,660 (40.6 y cant) yn 70 oed neu’n hŷn. Nid oedd oedran nifer fechan o gleifion yn hysbys.

Mae’r map rhyngweithiol isod yn dangos data am y rhestr o gleifion a warchodir ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Gellir addasu’r gosodiadau i ddangos naill ai nifer y bobl neu gyfran y bobl ar y rhestr o gleifion a warchodir, a naill ai pob oedran neu bobl 70 oed a hŷn yn unig. Drwy hofran dros ardal ar y map, byddwch yn gweld nifer y bobl neu gyfran y bobl yn yr ardal honno.

Oedran: Mesur:
Pob oedran Y cyfrif o bobl sy’n cael eu gwarchod
70 oed a hŷn Canran o gyfanswm y boblogaeth sydd ar y rhestr o gleifion sy’n cael eu gwarchod

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19): ar 15 Mehefin 2020

Blaenau Gwent (4.9%) oedd â’r gyfran uchaf o gyfanswm y boblogaeth ar y rhestr o gleifion a warchodir. Casnewydd (3.4%) oedd â’r gyfran isaf. Merthyr Tydfil (13.3%) oedd â’r gyfran uchaf o bobl 70 oed a hŷn ar y rhestr o gleifion a warchodir a Sir Fynwy oedd â’r gyfran isaf (8.1%).


Erthygl gan Helen Jones, Joe Wilkes and Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: