Craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws: materion allweddol o bwyllgorau'r Senedd

Cyhoeddwyd 03/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

3 Gorffennaf 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 3 Gorffennaf, bydd Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y Senedd yn craffu ar waith Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, mewn perthynas â dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles AS, yn ymuno â Phrif Weinidog Cymru fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith Llywodraeth Cymru o ran adfer. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys Cadeiryddion holl bwyllgorau eraill y Senedd ac mae’n cwrdd unwaith y tymor fel arfer.

Yn ystod y pandemig, mae pwyllgorau'r Senedd wedi canolbwyntio eu gwaith ar effaith y feirws a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb. Nid yw'r papur ymchwil hwn yn trafod yr holl faterion o ganlyniad i’r pandemig sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod sesiynau craffu. Yn hytrach, mae'n canolbwyntio ar faterion allweddol sy'n edrych ymlaen at y dyfodol. Cafodd ei baratoi i gefnogi aelodau o'r Pwyllgor. Fodd bynnag, rydym yn ei gyhoeddi o ystyried budd ehangach y cyhoedd o ran yr ymateb i’r pandemig.

Darllenwch y briff ymchwil yma: Craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws: materion allweddol o bwyllgorau'r Senedd (PDF, 519KB)


Erthygl gan Lucy Morgan ac Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.