Coronafeirws: chwaraeon

Cyhoeddwyd 08/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 8 Gorffennaf, bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch adroddiad diweddaraf y Pwyllgor, Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar chwaraeon. Mae'r erthygl hon yn rhoi ychydig o wybodaeth gefndir am y prif anawsterau sy’n wynebu’r sector.

Ar 16 Mawrth, dywedodd Llywodraeth y DU na fyddai gweithwyr allweddol yn cefnogi cynulliadau torfol mwyach, gan wahardd digwyddiadau chwaraeon mawr i bob pwrpas. Cafodd y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban yn Stadiwm Principality Caerdydd ei chanslo gan Undeb Rygbi Cymru y diwrnod cyn y trefnwyd iddi gael ei chynnal ar 14 Mawrth. Yn ôl yr adroddiadau costiodd y penderfyniad £10 miliwn i Undeb Rygbi Cymru.

Ar 20 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod yn rhaid cau campfeydd a chanolfannau hamdden. Ar 23 Mawrth cafodd pobl ledled y DU gyfarwyddyd i aros gartref, ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn, a oedd yn cynnwys gwneud ymarfer corff.

Cafodd y penderfyniad o ran amseru’r cyfyngiadau symud eu gwneud drwy gonsensws rhwng pedair gwlad y DU, ond gan fod iechyd wedi’i ddatganoli, mae’r pŵer gan Lywodraeth Cymru i newid y rheolau hyn yng Nghymru. Ers cyflwyno'r cyfyngiadau symud, mae gwledydd y DU wedi defnyddio'u pwerau i newid y cyfyngiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Mae’r cyfyngiadau symud yn parhau i gael eu llacio, ond maent yn dal i atal nifer o chwaraeon rhag cael eu cynnal yng Nghymru. Nid yw’r rheoliadau’n atal unrhyw fath penodol o ymarfer corff ond, yn ymarferol, mae'r cyfyngiadau ehangach sydd wedi'u cynllunio i reoli’r coronafeirws yn effeithio ar y math o ymarfer corff a ganiateir.

Mae pyllau nofio a champfeydd dan do ar gau o hyd, ac mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn atal chwaraeon tîm a chwaraeon cyswllt rhag cael eu cynnal. Mae rhai eithriadau i'r rheolau hyn ar waith ar gyfer athletwyr elitaidd.

Mae anghydraddoldebau blaenorol ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi dwysáu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud

Yn ôl arolwg gan Chwaraeon Cymru, er nad yw lefelau ymarfer corff wedi newid yn sylweddol yn ystod cyfnod y gyfyngiadau symud, mae amrywiadau amlwg o fewn rhai grwpiau demograffig.

Ymhlith oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, dywedodd 39% eu bod yn gwneud mwy o ymarfer corff a dywedodd 32% eu bod yn gwneud llai, sy'n dangos cynnydd o 7 pwynt canran. Fodd bynnag, yn achos oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, dywedodd 29% eu bod yn gwneud mwy a dywedodd 33% eu bod yn gwneud llai, sy'n dangos gostyngiad o 4 pwynt canran ymhlith y grŵp hwn.

Mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu bod y rhaniad hefyd i’w weld ymhlith plant. Er bod 9% o oedolion yn gyffredinol yn dweud nad yw eu plant yn gwneud unrhyw weithgaredd corfforol nac ymarfer corff ar ddiwrnod arferol ar hyn o bryd, 14% yw’r ffigur cyfatebol ymysg pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Mae'n ymddangos bod y rhaniad arferol rhwng gwrywod a benywod wedi'i wrthdroi yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Dywedodd cyfran uwch o fenywod (36%) na dynion (32%) eu bod wedi gwneud mwy o ymarfer corff neu weithgaredd corfforol yn ystod yr wythnos flaenorol o’i chymharu ag wythnos nodweddiadol cyn cyfyngiadau COVID-19.

Amlygodd yr arolwg hefyd gynnydd net yn lefelau gweithgaredd corfforol ymysg oedolion iau 16-34 oed (+15 pwynt canran), ond gostyngiadau net ymhlith pobl 35-54 oed (-2 pwynt canran) a 55+ oed (-5 pwynt canran).

Cymorth i’r sector

Mae Chwaraeon Cymru wedi defnyddio cyfanswm o £9 miliwn - gan Lywodraeth Cymru, y Loteri Genedlaethol a’i adnoddau ei hun - i helpu cyrff ym maes chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ystod y pandemig.

Y cam cyntaf yn y gwariant hwn oedd sefydlu Cronfa Cymorth mewn Argyfwng gwerth £550,000 ar gyfer chwaraeon cymunedol di-elw. Erbyn 22 Mehefin 2020, roedd 295 o glybiau yng Nghymru wedi cael cyfanswm o £543,944 o gymorth ariannol. Y cam nesaf yw'r Gronfa Gwydnwch Chwaraeon, a gynlluniwyd i helpu sefydliadau chwaraeon i weithredu mewn ym myd y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Cymru Actif gwerth £4 miliwn i helpu clybiau a chyrff cymunedol, a £4.5 miliwn i helpu sefydliadau mwy, fel cyrff llywodraethu chwaraeon, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden.

‘Anawsterau ariannol enfawr’ yn wynebu chwaraeon domestig a llawr gwlad

Mae'r effaith uniongyrchol - sef y daw’r rhan fwyaf o chwaraeon i ben - yn amlwg. Ond gan mai digwyddiadau chwaraeon mawr oedd rhai o'r pethau cyntaf a gafodd eu canslo, mae disgwyl hefyd mai’r rhain fydd rhai o’r pethau olaf a fydd yn ailddechrau wrth i’r cyfyngiadau ddod i ben. Mae hyn yn creu problem i’r byd chwaraeon gan fod eu modelau busnes yn dibynnu ar dyrfaoedd mawr.

Mae rhai o'r chwaraeon sy'n denu'r torfeydd mwyaf hefyd yn denu refeniw darlledu sylweddol, gan liniaru effaith eu colledion ar ddiwrnod gêm. Fel y dywedodd Jonathan Ford o Gymdeithas Pêl-droed Cymru wrth y Pwyllgor ym mis Mehefin, ar y lefel uchaf honno, mae’r economeg yn gweithio. Mae’r arian a gaiff pêl-droed gan y marchnadoedd teledu yn eithaf sylweddol, a bydd yr economeg yn caniatáu i hynny barhau.

Ar y llaw arall, mae chwaraeon domestig a llawr gwlad yn dibynnu mwy ar eu hincwm ar ddiwrnod gêm, sy’n seiliedig ar werthu tocynnau a’r elw o dŷ’r clwb. Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod 'anawsterau ariannol enfawr o'n blaenau' ac, ar y lefel hon, mae’n debyg y bydd “llai o glybiau yn y pen draw”.

Mae effaith anghyfartal yr argyfwng yn seiliedig nid yn unig ar faint, ond hefyd ar ryw. Rhybuddiodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y gallai gêm y menywod gael ei 'chwalu'n llwyr yn sgil y pandemig hwn'.

'Gwneud Cymru yn genedl fwy heini ac iach sy'n fwy tebygol o allu brwydro yn erbyn salwch cronig yn y dyfodol'

Roedd yr holl sylw a roddwyd i ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau symud yn cynnig llygedyn o obaith yng ngwaith y Pwyllgor. Teimlai Dr Kelly Mackintosh, arbenigwr ym maes gwyddor chwaraeon, fod yr argyfwng wedi tanlinellu’r neges allweddol fod gweithgaredd corfforol yn ddigon pwysig i ganiatáu i chi adael y tŷ. Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, a oedd yn cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod y meddylfryd cymdeithasol yn newid ar hyn o bryd, a bod cyfleoedd, yn sicr, i gynyddu’r nifer sy’n gwneud ymarfer corff, os bydd yr adnoddau ar gael.

Cyfeiriodd Ray Williamser, sy’n hyfforddwr codi pwysau, at y ffaith bod y pandemig wedi amlygu manteision ymarfer corff o ran iechyd cyhoeddus.

We can use this tragedy to make Wales a fitter and healthier nation that is more able to fight chronic illness in the future.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am gefnogaeth barhaus i'r sector, am waith i sicrhau nad yw bwlch yr anghydraddoldeb ym maes gweithgaredd corfforol, sydd wedi tyfu yn ystod y cyfyngiadau symud, yn ymwreiddio, ac mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad a sicrhau na chaiff y gwersi iechyd cyhoeddus a ddysgwyd yn ystod y pandemig eu colli.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.