Coronafeirws: trafnidiaeth gyhoeddus

Cyhoeddwyd 08/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith fawr ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU. Mae hyn yn debygol o barhau am gryn amser, ac mae'r gyrchfan derfynol yn aneglur o ran ymddygiad teithio’r cyhoedd.

Bydd yr ymateb polisi cyhoeddus yn hanfodol wrth sicrhau dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus.

Effaith y feirws a’r cyfyngiadau symud

Er nad yw effaith y cyfyngiadau symud ar ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei chynnwys yn yr ystadegau swyddogol eto, mae data o ffynonellau eraill yn awgrymu y bu’r effaith yn sylweddol.

Ddiwedd mis Mai, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y “defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus oddeutu 95% yn llai nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd.”

Mae adroddiadau Google ar symudedd cymunedol yn awgrymu bod nifer yr ymweliadau â gorsafoedd tramwy'r DU, a hyd arosiadau, wedi gostwng hyd at 75 y cant ym mis Mawrth (PDF, 1.84MB) Mae’r rhain wedi cynyddu ers hynny, a’r ganran gyfatebol erbyn diwedd mis Mehefin oedd 49% (PDF, 199MB), ond mae’r gostyngiad yn dal yn sylweddol. Mae adroddiad tueddiadau symudedd Apple yn dangos tuedd debyg hefyd.

Er bod cyfyngiadau i'r data hyn – er enghraifft, maent yn dibynnu ar chwiliadau teithwyr ac maent yn annhebygol o adlewyrchu teithiau cymudwyr – maent yn dangos graddfa'r effaith a'r duedd yn y lefelau defnyddio.

Ar 10 Mai, dywedodd Prif Weinidog y DU wrth bobl Lloegr : “when you do go to work, if possible do so by car or even better by walking or bicycle”. Fodd bynnag, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd (11 Mai): “I am not going to say 'avoid public transport”. Aeth rhagddo i ddweud:

We're right on the cusp of being able to develop an integrated transport system in Wales, and I don't want to see that destroyed because people are not using it, because people are discouraged from using public transport.

Dywedodd y Gweinidog ei fod yn wirioneddol bryderus am drafnidiaeth gyhoeddus, gan dynnu sylw at:

  • risgiau yn deillio o nifer y teithwyr yn gostwng gan fod pobl yn ofni bod yn agos at ei gilydd;
  • materion capasiti os yw cadw pellter cymdeithasol yn golygu llwytho 10 i 15 y cant yn unig; a
  • materion cyfiawnder cymdeithasol gan nad yw 20 y cant o bobl yng Nghymru yn berchen ar gar.

Fodd bynnag, ar 25 Mehefin, anfonodd Llywodraeth Cymru neges ar Twitter yn dweud y dylai’r cyhoedd osgoi trafndiaeth gyhoeddus oni bai bod y daith yn hanfodol ac nad oedd dull arall o deithio ar gael.

Mae canfyddiadau’r cyhoedd o ddiogelwch trafnidiaeth gyhoeddus yn hollbwysig. Mae’r corff gwarchod teithwyr Transport Focus yn olrhain agweddau'r cyhoedd tuag at deithio ledled y DU yn ystod y pandemig. Mae’r canlyniadau wythnosol yn awgrymu bod y cyhoedd yn wyliadwrus ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ymatebwyr yn nodi y byddant yn gweithio gartref yn fwy ac yn newid sut maent yn teithio – mae llawer ohonynt yn dweud y byddant yn cerdded, beicio a gyrru mwy.

Rhywbeth sy’n peri pryder i weithredwyr a llunwyr polisi yw bod llai na chwarter o ymatebwyr ledled y DU yn dweud y byddent yn hapus yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

Mewn pôl piniwn gan ITV Cymru ddechrau mis Mehefin, cafwyd canlyniadau tebyg, sef bod 78 y cant o'r rhai a holwyd yn poeni am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio.

Mae diogelwch yn bryder mawr i weithwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â theithwyr. Wrth dynnu sylw at gyfraddau marwolaeth uwch o'r feirws ymhlith dynion yn gyffredinol, roedd data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos, hyd at 20 Ebrill 2020, fod gan yrwyr trafnidiaeth ffordd, gan gynnwys gyrwyr tacsis a gyrwyr ceir preifat, rai o’r cyfraddau marwolaeth uchaf yn gysylltiedig â COVID-19 ymhlith y boblogaeth oedran gweithio.

Among road transport drivers…, taxi and cab drivers and chauffeurs had the highest rate, with 36.4 deaths per 100,000 males (76 deaths). Other occupations with significantly higher rates include bus and coach drivers, with 26.4 deaths per 100,000 males (29 deaths).

Roedd hyn yn cymharu â chyfradd marwolaeth gyffredinol o 9.9 a 5.2 fesul 100,000 ar gyfer dynion a menywod o oedran gweithio yn y drefn honno.

Er mai data dros dro yw hyn, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn pwysleisio nad yw'r gwahaniaethau hyn yn bendant cael eu hachosi gan ddod i gysylltiad â’r feirws pan maent yn gweithio, bydd y data hyn yn destun pryder i'r rheini sy'n gweithio ym maes trafnidiaeth ffordd.

Sut mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i wasanaethau bysiau a threnau?

Cafwyd datganiad ysgrifenedig ar 31 Mawrth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn rhoi manylion cymorth cychwynnol o £69 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau a threnau.

Yn achos gwasanaethau bysiau, dywedodd y byddai £29 miliwn yn cael ei dalu i weithredwyr bysiau dros dri mis. I bob pwrpas, byddai'r cymorth parhaus i'r diwydiant bysiau yn cael ei dalu bob mis ymlaen llaw, yn seiliedig ar daliadau yn y gorffennol, nes eu bod yn gallu “rhoi datrysiad mwy cynaliadwy ar waith”. At hynny, dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn parhau i dalu isafswm o 75 y cant o werth contractau bysiau awdurdodau lleol.

Yn gyfnewid am hyn, byddai’n ofynnol i weithredwyr gytuno ar “amserlen sylfaenol”, yn gweithredu ar 50 y cant o uchafswm eu capasiti, yn darparu teithiau am ddim i weithwyr y GIG, ac yn rhoi adroddiadau i awdurdodau lleol i ddangos sut mae pob bws yn eu fflyd wedi bodloni’r gofynion.

Yn y datganiad, cyhoeddwyd cymorth cychwynnol o “hyd at £40 miliwn” i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC) i “sicrhau y gwasanaeth mwy cyfyng yr ydym bellach yn ei gynnig”, a diogelu gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol. Dywedodd bod manylion y dull o weithio wrthi’n cael eu datblygu.

Ar 30 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £65 miliwn arall ar gyfer Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC ar ffurf “Cytundeb Mesurau Argyfwng”, sef dull o gefnogi rheilffyrdd a gychwynnwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr ac a ddefnyddir hefyd yn yr Alban (gweler isod).

Ar 2 Gorffennaf, rhoddodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, ragor o fanylion i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am y modd y byddai’r Cytundeb Mesurau Argyfwng yn gweithio. Esboniodd fod Llywodraeth Cymru yn awr yn ysgwyddo’r risg lawn o ran refeniw a chostau, a bod y gweithredwr yn gwneud yn union fel y gofynnwyd iddynt ei wneud a hynny am dâl rheoli o 1.5 - 2%. Dywedodd fod y cytundeb newydd wedi’i rannu’n dri cham:

The first chance, or opportunity, for that to end is the end of July. The second end point is the end of October. Then, there is a legal opportunity for it to run a further three months after that, but that is the legal opportunity rather than the political opportunity at this point; i.e. there is no Welsh Government agreement for it to run past October.

Hefyd, cyhoedd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig ar 2 Gorffennaf, yn cyhoeddi “COVID-19 – Cynllun Brys ar gyfer Bysiau”. Ar y dechrau, bydd y cyllid brys yn parhau. Fodd bynnag:

… mae’r cytundeb sy’n creu’r BES yn arwydd o gychwyn partneriaeth hir rhwng gweithredwyr a chyrff cyhoeddus fydd yn arwain at ailwampio rhwydwaith bysiau Cymru a chryfhau’r berthynas rhwng dulliau teithio gwahanol trwy, ymysg pethau eraill, docynnau clyfar, uno llwybrau ac amserlenni integredig.

Gallai'r gost hirdymor i'r pwrs cyhoeddus godi ymhellach. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wrth y Pwyllgor ar 11 Mai fod Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y byddai angen £250 miliwn y flwyddyn o gyllid cyhoeddus uwchlaw’r cymorthdaliadau presennol ar drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gweithredu’r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol.

Sut mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban wedi rhoi cymorth i wasanaethau bysiau a threnau?

Ar 23 Mawrth, cynigiodd Adran Drafnidiaeth y DU yr opsiwn o Gytundeb Mesurau Argyfwng ar gyfer y masnachfreintiau rheilffordd y mae'n eu goruchwylio, gan gynnwys masnachfreintiau Great Western Railways, CrossCountry, ac Avanti West Coast sy'n gweithredu yng Nghymru. Mae'r cytundebau hyn yn trosglwyddo'r holl risg cost a refeniw i Lywodraeth y DU, am gyfnod o chwe mis i ddechrau, gyda ffi wedi'i chapio ar 2 y cant yn cael ei thalu i weithredwyr.

Ar 3 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn gwerth £397 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau yn Lloegr – gan gynnwys £167 miliwn o arian newydd dros gyfod o ddeuddeg wythnos. Yna, ar 23 Mai, cyhoeddodd Grant Shapps, y Gweinidog Gwladol dros Drafnidiaeth, fesurau ehangach gan gynnwys £254 miliwn ychwanegol i wasanaethau bysiau a £29 miliwn i wasanaethau tramiau a rheilffyrdd ysgafn i baratoi i weithredu amserlen lawn, er y byddai eu capasiti, oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol, cyn lleied â phumed rhan o’u capasiti arferol, ar y gorau.

Mae Llywodraeth yr Alban yn wedi mabwysiadu dull tebyg o weithredu yn achos rheilffyrdd gyda’i masnachfreintiau ScotRail a Caledonian Sleeper. Amrywiwyd contractau am isafswm o chwe mis, gyda thaliadau uwch i dalu costau gweithredu gyda ffi reoli fach yn cael ei thalu ar ddiwedd y cyfnod yn amodol ar berfformiad boddhaol.

Ar 25 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gyllid ar gyfer y diwydiant bysiau, gan ymrwymo i “maintain concessionary travel reimbursement and Bus Service Operator Grant payments at the levels forecasted prior to the impact of COVID-19”. Ar 19 Mehefin hefyd, cyhoeddodd £46.7m dros wyth wyhnos i helpu gwasanaethau bysiau wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio.

Sut mae rhanddeiliaid bysiau a threnau wedi ymateb?

Ar 30 Mawrth, cyhoeddodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr ddatganiad i’r wasg yn croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau ond gan nodi y bydd angen cymorth ychwanegol gan weithredwyr i dalu eu costau i ddarparu’r lefelau gwasanaeth a ragwelir gan Lywodraeth Cymru.

Ar 3 Ebrill, ymatebodd y Cydffederasiwn yn fwy cadarnhaol i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch gwasanaethau bysiau. Dywedodd ei Brif Weithredwr: “we're pleased the [UK] Government is working with us to ensure essential bus journeys can continue and will work closely with them to ensure the network remains viable”. Roedd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn yr Alban hefyd yn gadarnhaol ynghylch cymorth Llywodraeth yr Alban.

Ar 11 Mai, wrth drafod cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 3 Ebrill, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wrth y Pwyllgor:

… that additional money that was announced by the UK Government essentially only brought the offer to English bus operators up to what we were already offering in Wales. That's because in Wales … about 45 per cent of the income for bus operators comes from your purse, the public purse, whereas in England, I think the figure is around about 25 per cent—it's much lower. Therefore, our intervention was already significantly higher than in England. That additional money that was announced by the UK Government brought the subsidy up to Welsh levels.

Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhagor o gymorth ar 2 Gorffennaf, ymatebodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr drwy ddweud:

Buses across Wales play a vital role in getting people to work, retail and leisure venues and to see loved ones. It is welcome to see the Welsh Government recognising this important role.

With social distancing measures restricting bus capacity there has been an unprecedented fall in passenger revenue meaning, despite cutting costs, operators are unable to cover the costs of running the network from fares alone.

We look forward to working with Welsh Government to ensure communities have access to safe, clean and sustainable bus links and to understand how the proposed transition arrangements will impact on the number of bus services we can run and how quickly we can get more buses on our roads.

Yn achos y rheilffyrdd, ymatebodd y Rail Delivery Group, sy'n cynrychioli gweithredwyr trenau a Network Rail, yn gadarnhaol i gyhoeddiad Cytundeb Mesurau Argyfwng Llywodraeth y DU – sef mesurau sydd wedi’u hailadrodd i raddau helaeth gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ar gyfer eu masnachfreintiau. Dywedodd Prif Weithredwr y Rail Delivery Group:

The industry strongly welcomes the Department for Transport’s offer of temporary support and while we need to finalise the details, this will ensure that train companies can focus all their efforts on delivering a vital service at a time of national need.

Fodd bynnag, dywedodd Railfuture, sy’n eirioli ar ran y rheilffyrdd y dylai Whitehall roi’r gorau i gynghori pobl i osgoi teithio ar drenau ac y dylid ailddechrau gwasanaethau trenau llawn cyn gynted â phosibl.

Beth am dacsis a gwasanaethau hurio preifat?

Fel y mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei awgrymu (uchod), gall gyrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat fod mewn perygl uwch o ddal y feirws na'r boblogaeth weithio ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar dacsis a cherbydau hurio preifat (17 Mehefin) gan nodi, “yn gyffredinol, nid ystyrir gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn weithwyr hanfodol”, ond gall gyrwyr barhau i weithio os yw hyn “at ddibenion hanfodol”, gan nodi contractau ysgolion ymhlith yr enghreifftiau o waith “hanfodol”.

Efallai bod yr awgrym hwn, sef nad yw gyrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat (PHV) yn “weithwyr hanfodol” yn syndod o ystyried bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar weithwyr hanfodol (allweddol) y coronafeirws: cymhwysedd prawf (10 Mehefin) yn rhestru “tacsi/PHV” ochr yn ochr â “gweithredwyr bysiau” a “staff trên/Network Rail”.

Nid yw'r sector hwn, nad yw’n cael llawer o gymorthdaliadau, ac sy'n cynnwys gweithredwyr sy'n gweithio gyda gyrwyr hunangyflogedig yn bennaf, wedi cael yr un fath o gymorth ariannol uniongyrchol a ddarperir ar gyfer bysiau a threnau. Yn hytrach, mae’r canllawiau’n cyfeirio gyrwyr a gweithredwyr at gymorth gan y llywodraeth ar gyfer yr hunangyflogedig, cymorth busnes, tâl salwch a chredyd cynhwysol.

Mae trwyddedu a rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat yn fater i awdurdodau lleol unigol, a’r awdurdodau trwyddedu unigol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch newidiadau i drefniadau trwyddedu sy’n ymateb i'r pandemig. Mae’r diwydiant tacsis yng Nghymru wedi codi pryderon ynghylch diogelwch, gan dynnu sylw at y ffaith fod angen cymeradwyaeth awdurdodau lleol er mwyn gosod sgriniau amddiffyn mewn tacsis, yn ogystal â goblygiadau'r ffaith bod gyrwyr yn aml ar incwm isel. Codwyd pryderon tebyg yn yr Alban a Lloegr.

Cadw pellter cymdeithasol a gorchuddio’r wyneb

Ar 1 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig i weithredwyr ar “ailddechrau trafnidiaeth gyhoeddus.” Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am asesu risg a chadw pellter cymdeithasol, ynghyd â chanllawiau diwygiedig i’r cyhoedd ar “deithio’n ddiogel”, gan gynnwys teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ar 4 Mehefin, lansiodd Trafnidiaeth Gyhoeddus ymgyrch “teithio mwy diogel” ar gyfer y rhai sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan danlinellu sut y gall teithwyr gadw eu hunain, staff trafnidiaeth a gweddill Cymru mor ddiogel â phosibl. Mae adroddiadau hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried prynu tocynnau trên a bws ymlaen llaw fel un ffordd o reoli’r gostyngiad mewn capasiti.

Mae Llywodraeth y DU, fel Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi canllawiau i weithredwyr a theithwyr. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi canllawiau tebyg ynghyd â Chynllun Pontio.

Mae rhannau gwahanol o’r DU yn cyflwyo mesurau gwahanol. Mae’n orfodol gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr ers 15 Mehefin, yn yr Alban, ers 22 Mehefin, a bydd y orfodol yng Ngogledd Iwerddon o 10 Gorffennaf ymlaen. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru weddi cynghori pobl i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond nid yw hynny’n orfodol.

Dywedodd cynrychiolwyr undebau llafur a gweithredwyr bysiau wrth y Pwyllgor ar 18 Mehefin eu bod yn gefnogol i’r syniad o orfodi teithwyr i wisgo gorchudd wyneb ac o osod sgriniau i ddiogelu gyrwyr bysiau a thacsis / PHV. Roedd gorchuddion wyneb i’w gweld yn broblem benodol ar wasanaethau trenau a bysiau trawsffiniol. Tanlinellodd yr undebau fod defnyddio dulliau cyfathrebu a negeseuon cyhoeddus clir yr un mor bwysig â’r pryderon am iechyd y cyhoedd.

Ar y llaw arall, dywedodd Trafnidiaeth Cymru wrth y Pwyllgor ar 2 Gorffennaf, fod gorchuddion wyneb yn llai o broblem na’r gofynion cadw pellter cymdeithasol gwahanol ar wasanaethau rheilffyrdd trawsffiniol. Ar hyn o bryd, rhaid cadw pellter o un metr yn Lloegr, a dau fetr yng Nghymru.

Ble nesaf i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?

Ar 24 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad. Mae hyn yn nodi’r newid ymddygiad cyflym sydd wedi digwydd yn ystod yr ymateb i’r feirws, gan ddweud: “mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar y newidiadau a all gael effaith gadarnhaol am gyfnod hir eto”.

Ar 7 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i’w “gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer mesurau dros dro a fyddai’n gwella’r amodau ar gyfer teithio cynaliadwy a llesol”. Ymhlith yr enghreifftiau o “fesurau dros dro” mae:

  • terfynau cyflymder o 20mya;
  • lledu llwybrau troed a seilwaith beicio;
  • seilwaith bysiau; a
  • systemau gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus amser real.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae heriau aruthrol y coronafeirws wedi amharu’n ddifrifol ar ein rhwydwaith trafnidiaeth ac rwy’n sicr nad oes angen inni fynd yn ôl i’r sefyllfa arferol. Mae gennym gyfle i wneud pethau’n wahanol, gan helpu mwy o bobl i gerdded, beicio a theithio mewn ffyrdd cynaliadwy.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniad y broses hon ar 20 Mehefin, a dyrannodd “£15 miliwn ar gyfer teithio di-Covid. Ochr yn ochr â hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer perchenogion a gweithredwyr mannau cyhoeddus ar gadw’r cyhoedd yn ddiogel wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Transform Cymru weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru ar ôl i’r cyfygniadau symud ddod i ben. Mae’n galw ar awdurdodau cyhoeddus Cymru ymrwymo i saith o gamau allweddol, gan gynnwys ailennyn hyder teithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus, cefnogi atebion arloesol, deall y newidiadau yn ymddygiad teithwyr, a gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i atebion. Mae’r adroddiad yn dweud:

We know that this is a pivotal moment in our history and some of the changes we have made now, will stay with us for a lifetime. Whilst we recognise that the current public health crisis creates significant challenges for the transport sector, we believe that there is also a major opportunity to drive modal shift and change the way we travel for the benefit of our future.

Nodwyd bod perygl i’r duedd tymor byr i ddefnyddio’r car yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus ddatblygu’n duedd hirdymor ac, o gofio hyn, bydd nifer yn gobeithio y bydd modd manteisio ar y cyfle y mae Transform Cymru yn cyfeirio ato.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.