Datganiadau Ardal: cam tuag at adferiad gwyrdd?

Cyhoeddwyd 23/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

23 Gorffennaf 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfres o saith Datganiad Ardal “arloesol”' ym mis Mawrth.

Mae'r Datganiadau Ardal yn adroddiadau adnoddau naturiol sydd wedi'u seilio ar le, ac sy'n nodi'r hyn sydd angen ei wneud ym mhob ardal i:

  • ddarparu atebion ar sail natur i reoli adnoddau naturiol: a
  • chynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau.

Ond a ellir eu defnyddio hefyd i helpu Cymru i gyflawni 'adferiad gwyrdd' o bandemig y coronafeirws?

O ble maen nhw wedi dod?

Mae’n ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru lunio Datganiadau Ardal o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Cyflwynodd y Ddeddf fframwaith polisi newydd i gyflawni'r cysyniad o 'reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy' (SMNR): a defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd sy'n cynnal ac yn gwella gwydnwch ecosystemau, a'r buddion y maent yn eu darparu.

Nod y fframwaith yw ymgorffori rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy fel ystyriaeth graidd ym mhenderfyniadau awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru. Y gwahanol agweddau ar fframwaith polisi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yw:

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob Datganiad Ardal gynnwys cyfeiriadau at:

  • yr adnoddau naturiol yn yr ardal;
  • y manteision y mae'r adnoddau naturiol yn eu darparu; a’r
  • blaenoriaethau, y risgiau a'r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Rhaid i'r datganiadau adlewyrchu'r dogfennau allweddol eraill yn y fframwaith polisi hefyd, drwy ystyried cynnwys yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a nodi dull seiliedig ar le o gyflawni'r blaenoriaethau yn y Polisi Adnoddau Naturiol.

Beth yw’r rhain?

Mae'r Datganiadau Ardal yn dilyn chwe ardal weithredol Cyfoeth Naturiol Cymru a ddangosir ar y map isod. Yr ardaloedd yw y Gogledd Ddwyrain, y Gogledd Orllewin, y Canolbarth, y De Ddwyrain, De Cymru Canolog a De Orllewin Cymru. Mae yna hefyd Ddatganiad Ardal ar gyfer yr ardal forol.

Llun Cynnwys: map sy’n dangos Datganiad Ardal saith ardal.
Ffigur 1 - Meysydd gweithredol CNC [ffynhonnell: Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru]

Dywed CNC “mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu'r ardal benodol honno” ac yn nodi themâu sy'n berthnasol i'r ardal honno.

Er enghraifft, De Cymru Canolog yw'r ardal fwyaf dwys o ran ei phoblogaeth, ac o ganlyniad yr “awydd i bontio amgylcheddau trefol a naturiol” sydd flaenllaw yn y Datganiad, ac mae'n cynnwys themâu sy'n ymdrin ag ansawdd aer ac iechyd.

I'r gwrthwyneb, mae cymunedau amaethyddol gwledig bach yn nodweddiadol o ardal Canolbarth Cymru, lle mae coedwigaeth yn rhan bwysig o'r economi. Afonydd sy’n siapio ei thirwedd ac mae nifer o gronfeydd dŵr mawr ar gyfer cyflenwi dŵr. Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio rhagor ar dir cynaliadwy, ar ddŵr, ar aer ac ar adnoddau coedwigoedd.

Mae’r Datganiad Ardal forol yn cynnwys dyfroedd glannau Cymru gyfan (ac allan 12 milltir forol), sy'n ffurfio 43 y cant o diriogaeth forol Cymru. Thema allweddol yw gwneud yn fawr o gynllunio morol, ac mae'r Datganiad Ardal wedi'i gynllunio i ategu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth sector-benodol yn egluro sut mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i rai sectorau ledled Cymru. Dywed CNC fod y wybodaeth hon yn cael ei “diweddaru’n barhaus”, ac ar hyn o bryd mae’n cynnwys gwybodaeth am y sector dŵr, y sector ynni a’r sector gwastraff.

Mae CNC hefyd wedi nodi 'dalgylchoedd cyfle' sydd â’r nod o “wella rheolaeth dalgylchoedd cyrff dŵr a chynyddu llesiant pobl”, fel rhan o’r gwaith o Gynllunio Basn Afonydd. Disgwylir i fapiau o'r ardaloedd hyn gael eu cyhoeddi o fewn yr ymgynghoriad ar y trydydd cylch drafft, sef Cynllun Rheoli Basn Afon (RBMP) yn ddiweddarach eleni.

Beth maen nhw’n ei wneud?

Nod pob Datganiad Ardal yw datblygu rhai camau neu weithgareddau, gan CNC a / neu gyrff cyhoeddus eraill a nodwyd, i sicrhau y rheolir adnoddau naturiol yn gynaliadwy:

Gall y camau a’r gweithgareddau hyn arwain at ddatblygu prosiectau partneriaeth a mentrau, newid ein prosesau a'n sylfaen dystiolaeth, neu gyhoeddi canllawiau a chyngor sy'n llywio cynlluniau eraill a'r broses o wneud penderfyniadau.

Nodir y camau nesaf ar gyfer pob thema a nodwyd yn y Datganiadau Ardal, ac maent yn amrywio'n sylweddol. Mae llawer o'r camau nesaf yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gwaith a wnaed eisoes i greu'r datganiadau, gan gynnwys parhau â'r sgwrs gyda rhanddeiliaid presennol, ac ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o randdeiliaid newydd.

Mae camau nesaf y themâu eraill yn fwy manwl, er enghraifft mae’r thema Gwent yn barod ar gyfer yr hinsawdd yn edrych yn fanwl ar sut i “weithio'n well gyda'n gilydd i weithredu ar yr achosion ac addasu i ganlyniadau newid yn yr hinsawdd”. Rhestrir y camau nesaf fel “canlyniadau addasu”, fel cynyddu'r defnydd o seilwaith gwyrdd, a “chanlyniadau lliniaru”, fel creu cyfleoedd i ddinasyddion herio a chraffu ar gynnydd o ran camau gweithredu.

Dywed CNC ei bod yn “bosibl” y daw Datganiadau Ardal yn “fwy addysgiadol” wrth iddynt esblygu. Nid oes amserlen statudol, ond mae Deddf yr Amgylchedd yn nodi bod yn rhaid i CNC barhau i 'adolygu Datganiadau Ardal a gall eu hadolygu ar unrhyw adeg’. Fodd bynnag, mae’r broses a’r dull o lywodraethu’r adolygiad “eto i'w gadarnhau”.

Pa rôl sydd ganddyn nhw mewn adferiad gwyrdd?

Cyhoeddwyd y Datganiadau Ardal yn union wrth i bandemig y coronafeirws gyrraedd y DU.

Mae grwpiau amgylcheddol yn ymgyrchu dros  adferiad gwyrdd, gan ddweud bod ymateb i'r pandemig yn gyfle i lywodraethau wneud pethau'n wahanol. Er enghraifft, mae’r “mwyafrif llethol” o aelodau Cynulliad Hinsawdd y DU yn cefnogi camau sy'n annog adferiad economaidd gwyrdd o'r pandemig.

Mae gwaith Ymchwil gan Ipsos Mori yn awgrymu bod 66 y cant o bobl ym Mhrydain Fawr yn cytuno, yn yr hirdymor, bod newid yn yr hinsawdd yn argyfwng mor ddifrifol â Covid-19. Mae 58 y cant yn cytuno ei bod yn bwysig bod llywodraethau’n blaenoriaethu newid hinsawdd yn yr adferiad economaidd ar ôl Covid-19.

Mewn Datganiad y Cabinet ar 17 Mehefin 2020, dywedodd Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd:

Wrth ymateb i sgil-effeithiau COVID-19, rhaid inni fynd ati i gyflawni’r adferiad “gwyrdd” a fydd yn cynnal Cymru at y dyfodol.

Mae eraill, fodd bynnag, yn dadlau y dylai ffocws yr adferiad economaidd o Covid-19 fod ar bobl a'u sgiliau, o ystyried y ddibyniaeth arnynt a amlygwyd drwy gydol y pandemig.

Mae'r un gwaith ymchwil gan Ipsos Mori yn awgrymu bod dwy farn ynghylch a ddylai'r llywodraeth ganolbwyntio ar helpu'r economi i adfer yn anad dim, hyd yn oed os yw hynny'n golygu cymryd rhai camau sy'n ddrwg i'r amgylchedd, ac mae 46 y cant o bobl ym Mhrydain Fawr yn cytuno â hynny a 43 y cant yn anghytuno.

Bu cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn trafod cyfleoedd ar gyfer adferiad gwyrdd / glas gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) y Senedd ym mis Mehefin, gan alw am ddarpariaeth o fewn y system gynllunio ar gyfer dim colled net i natur mewn unrhyw ddatblygiad, “felly rydym yn dechrau buddsoddi yn y pethau pwysicaf i adfer y byd naturiol”.

Dywed Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft Llywodraeth Cymru bod meysydd blaenoriaeth a nodwyd mewn Datganiadau Ardal yn ystyriaeth gynllunio berthnasol ac y dylid eu hadlewyrchu ym mholisïau cynlluniau datblygu.

Dywedodd Jeremy Miles AS mewn Datganiad y Cabinet ar 14 Gorffennaf  y bydd Llywodraeth Cymru, yn sgîl pandemig y coronafeirws “yn bwrw ymlaen â’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd” ac “mae’n rhaid inni edrych y tu hwnt i ‘fusnes fel arfer’ a chanolbwyntio ar newid.”


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru