Y Môr a Physgodfeydd Yr Amgylchedd

Gorffennaf di-blastig – beth mae Cymru wedi’i wneud ers y llynedd i fynd i’r afael â llygredd plastig?

Mae’n fis Gorffennaf di-blastig, ac mae’r ymwybyddiaeth o lygredd plastig a’i effaith yn parhau i dyfu. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Wrap Cymru yn amcangyfrif bod 400,000 o dunelli o wastraff plastig yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 67 y cant o’r gwastraff hwn yn wastraff pacio. Er mai Cymru sydd â’r ail gyfradd uchaf o ailgylchu yn y byd, dim ond 33 y cant o blastig o’r cartref sy’n cael ei ailgylchu. Mae’r adroddiad ar y Great British Beach Clean 2019 gan y Marine Conservation Society (MCS) yn nodi mai eitemau plastig yw’r sbwriel mwyaf cyffredin ar draethau’r Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod pob 100m o draeth yng Nghymru yn cynnwys 29 o gynwysyddion diod ar gyfartaledd. Mae’r blog hwn yn adeiladu ar y blog a gyhoeddwyd i nodi Gorffennaf di-blastig y llynedd ac mae’n edrych ar beth yn ychwanegol sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â llygredd plastig yng Nghymru. Hefyd, bydd yn trafod effaith pandemig y coronafeirws ar ymdrechion i leihau gwastraff plastig.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

24 Gorffennaf 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’n fis Gorffennaf di-blastig, ac mae’r ymwybyddiaeth o lygredd plastig a’i effaith yn parhau i dyfu.

Mae gwaith ymchwil diweddar gan Wrap Cymru yn amcangyfrif bod 400,000 o dunelli o wastraff plastig yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 67 y cant o’r gwastraff hwn yn wastraff pacio. Er mai Cymru sydd â’r ail gyfradd uchaf o ailgylchu yn y byd, dim ond 33 y cant o blastig o’r cartref sy’n cael ei ailgylchu.

Mae’r adroddiad ar y Great British Beach Clean 2019 gan y Marine Conservation Society (MCS) yn nodi mai eitemau plastig yw’r sbwriel mwyaf cyffredin ar draethau’r Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod pob 100m o draeth yng Nghymru yn cynnwys 29 o gynwysyddion diod ar gyfartaledd.

Mae’r blog hwn yn adeiladu ar y blog a gyhoeddwyd i nodi Gorffennaf di-blastig y llynedd ac mae’n edrych ar beth yn ychwanegol sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â llygredd plastig yng Nghymru. Hefyd, bydd yn trafod effaith pandemig y coronafeirws ar ymdrechion i leihau gwastraff plastig.

Mynd y tu hwnt i ailgylchu

Yn 2019, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (NHAMG)  y Senedd ymchwiliad i leihau gwastraff plastig. Roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ficroblastigion, ond rhoddwyd cryn sylw i’r mater ehangach o lygredd plastig.

Cafwyd argymhelliad gan y Pwyllgor NHAMG fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno polisïau uchelgeisiol a thrawsnewidiol i atal gwastraff plastig. Cafodd yr holl argymhellion eu derbyn ym mis Awst 2019, gan gynnwys yr argymhelliad a ganlyn:

Dylai Llywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth deng mlynedd, gynhwysfawr ac uchelgeisiol gyda’r nod o leihau llygredd plastig.

Mewn ymateb i’r Pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru y canlynol: ‘fe all y materion sy’n gysylltiedig â llygredd plastig fod yn berthnasol i ddeunyddiau eraill’, gan ychwanegu:

bydd yn rhaid i ddull strategol nid yn unig ymdrin â’r mater hwn o safbwynt plastigau, ond hefyd o safbwynt deunyddiau eraill, gan gydnabod bod ein ffordd o ddefnyddio eitemau unwaith yn rhan greiddiol o’r broblem.

Ym mis Ionawr 2020, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynigion i ‘symud tuag at Ddyfodol Diwastraff erbyn 2050’ mewn strategaeth newydd ar gyfer yr economi gylchol, sef ‘Mwy nag ailgylchu’. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad cysylltiedig wrthi’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

Mae ‘Mwy nag ailgylchu’ yn cynnig yr wyth prif gam gweithredu a ganlyn:

  • Sicrhau bod Cymru yn arwain y byd o ran ailgylchu;
  • Cael gwared ar blastig untro yn raddol, gyda’r nod o wneud Cymru’r wlad gyntaf i beidio ag anfon plastig i safleoedd tirlenwi;
  • Buddsoddi mewn technoleg lân er mwyn casglu deunyddiau, drwy gyflwyno cerbydau heb allyriadau a buddsoddi mewn seilwaith i’w gwefru a rhoi pŵer iddynt mewn ffordd gynaliadwy;
  • Gwneud defnydd mwy effeithlon o’n bwyd drwy waredu gwastraff bwyd y gellir ei osgoi;
  • Blaenoriaethu prynu pren, a chynnyrch sydd wedi’i ail-weithgynhyrchu a’i ailgylchu ymhlith y nwyddau y mae’r sector cyhoeddus yn eu caffael;
  • Galluogi cymunedau i weithredu ar y cyd;
  • Creu’r amodau i fusnesau achub ar gyfleoedd i leihau eu hôl troed carbon a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon; ac
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am ein gwastraff, gan sicrhau nad ydym yn allforio gwastraff i fod yn broblem yn rhywle arall.

I danlinellu’r problemau amgylcheddol sylweddol sy’n deillio o orddefnyddio eitemau plastig untro, fel cynwysyddion bwyd tecawê a llestri plastig, a chael gwared ar yr eitemau hyn mewn modd amhriodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i wahardd plastigion untro.

Dywedodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, fod y cynigion hyn yn ‘rhan o ddull ehangach, integredig o fynd i’r afael â phroblemau sy’n cael eu creu gan ormod o blastig a sbwriel mewn cymunedau’, gan gadarnhau y byddai ymgynghoriad ar y cynigion yn cael ei gynnal ‘yn y misoedd nesaf, gyda chyfyngiadau i ddod i rym yn hanner cyntaf 2021’.

Potel a sbwriel plastig ar draeth, wedi’u gorchuddio’n rhannol â thywod, fel enghraifft o’r gwastraff helaeth yn y môr ledled y byd.

Bil yr Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr Amgylchedd 2020-21, sy’n cynnwys nifer o ddarpariaethau i Gymru.

Mae’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’r Bil yn egluro goblygiadau’r darpariaethau hyn i Gymru a pham y dylent gael eu cynnwys yn y darn hwn o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig. Mae’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn nodi fel a ganlyn: ‘Ar hyn o bryd, nid oes amser yn amserlen y Cynulliad i gyflwyno Bil yr Amgylchedd y gellid ei ddefnyddio i gyflwyno’r darpariaethau hyn’, gan ychwanegu:

… mae’n briodol defnyddio Bil yr Amgylchedd y DU i gyflwyno mentrau y mae’n debygol y bydd eu hangen er mwyn bwrw ymlaen â’r strategaeth ar gyfer economi gylchol, yn enwedig pan fydd angen gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig gyda gweinyddiaethau eraill y DU.

Mae’r Bil yn bennaf yn darparu pwerau eang i wneud rheoliadau, yn hytrach na pholisi manwl. Mae’n cynnwys darpariaethau ynghylch cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, rheoli gwastraff, plastigion untro a fframwaith ar gyfer cynllun dychwelyd ernes.

Cafodd ymgynghoriad ar gynigion ar y cyd ar gyfer cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd ernes ei gynnal gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU ym mis Chwefror 2019. Nododd y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a’r cynllun dychwelyd ernes yn benodol y byddai ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal yn 2020, a disgwylir i’r ddau gynllun fod yn weithredol yn 2023.

Mae’r Bil hefyd yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud i godi tâl am eitemau plastig untro, ond nid yw’n pennu lefel y tâl hwn.

Gwnaeth Pwyllgor NHAMG y Senedd argymell bod y Senedd yn cydsynio â’r Bil ‘ar yr amod ei bod yn fodlon ar ymateb y Gweinidog i bob un o’r argymhellion’ yn ei adroddiad.

Effaith y coronafeirws

Yn ystod pandemig y coronafeirws, bu adroddiadau cadarnhaol fod ansawdd aer yn gwella a gobeithion fod bioamrywiaeth yn cael ei adfer.

Cafodd llawer o wasanaethau llywodraeth leol eu hatal dros dro, a gwnaethpwyd newidiadau dros dro i drefniadau casglu gwastraff i flaenoriaethu gwasanaethau  mewn ymateb i’r pandemig. Law yn llaw â mynediad cyfyngedig at ganolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi, arweiniodd hyn at adroddiadau o gynnydd mewn tipio anghyfreithlon o ran gwastraff cartrefi a gwastraff diwydiannol.

Cyhoeddwyd adroddiad gan Cadwch Gymru’n Daclus sy’n nodi fod atal casgliadau biniau a gweithgareddau codi sbwriel yn ystod y cyfnod cloi wedi arwain at gynnydd mewn sbwriel, yn enwedig wrth i bobl dreulio amser mewn parciau lleol. Wrth i fesurau’r cyfnod cloi gael eu llacio ac wrth i bobl gael rhagor o gyfleoedd i dreulio amser yn yr awyr agored, ceir adroddiadau fod sbwriel wedi cynyddu, yn enwedig ar ôl i rai siopau bwyd tecawê ailagor.

Mae’r defnydd o Gyfarpar Diogelu Personol hefyd yn cynyddu, ac mae llawer o’r cyfarpar hwn yn gyfarpar untro sy’n cynnwys plastig. Er bod y cyfarpar hwn yn defnyddio plastig untro am resymau hollol ddilys, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi nodi cynnydd mewn achosion o ollwng cyfarpar diogelu personol fel mygydau a menyg untro. Eglurodd Jemma Bere, rheolwr polisi ac ymchwil dros Cadwch Gymru’n Daclus, effaith hyn fel a ganlyn:

…[they are] not only an environmental hazard, because they quite often contain plastic which is really damaging to our wildlife and our water systems, but they also pose a particular contamination risk.

Dywedodd MCS fod effaith y cynnydd mewn llygredd plastig ar yr amgylchedd morol yn aneglur ar hyn o bryd, oherwydd bod y pandemig wedi’i wneud yn heriol i rai sefydliadau gasglu data. Er bod gweithgareddau glanhau traethau a chodi sbwriel wedi ailddechrau’n raddol, mae’r effaith hirdymor ar y setiau data sydd ar gael yn parhau.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: