Y Senedd a chyfiawnder gweinyddol

Cyhoeddwyd 30/07/2020   |   Amser darllen munudau

Dr Sarah Nason sy’n archwilio rôl y Senedd o ran cyfiawnder gweinyddol, mewn dau adroddiad a gynhaliwyd fel rhan o Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd.

Mae'r system cyfiawnder gweinyddol yn ymdrin â'r hyn y gallwn ei wneud, a'n hawliau, pan fod penderfyniadau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yn ymddangos yn anghywir, yn annheg neu'n anghyfiawn. Canfu’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru mai'r system cyfiawnder gweinyddol yw'r rhan o'r system gyfiawnder sydd fwyaf tebygol o effeithio ar fywydau pobl gyffredin yng Nghymru. At hynny, daeth y Comisiwn i'r casgliad fod cyfraith weinyddol Cymru eisoes wedi gwyro'n sylweddol oddi wrth gyfraith Lloegr, a bod ganddi’r potensial i barhau i wyro’n bellach nag unrhyw faes arall o'r gyfraith.

Gyda'i gilydd, mae'r naill adroddiad a’r llall yn archwilio rôl y Senedd o ran cyfiawnder gweinyddol, a sut y gellid gwella'r system gyfan yng Nghymru. Maen nhw'n dangos sut yr aethpwyd i’r afael â chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, ac effaith deddfu yn y Senedd ar y system. At hynny, maen nhw’n pledio’r achos dros wella hygyrchedd cyfraith weinyddol Cymru, ac yn ystyried sut y gellid gwneud hynny.

Mae'r adroddiadau'n canfod bod Aelodau'r Senedd, ynghyd â swyddogion etholedig eraill, yn aml yn chwarae rôl uniongyrchol ym mhroses cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, ac y gellid gwneud mwy i'w cefnogi yn y rôl hon. Mae Aelodau’n aml yn dystion uniongyrchol i’r camau gweinyddu gwael y mae pobl yn eu profi, a'r anawsterau y maent yn eu cael, wrth lywio'r system gwynion ac apeliadau. Mae’r adroddiadau'n tynnu sylw at y ffaith bod Aelodau hefyd yn gweld enghreifftiau o arfer da, ac y dylid eu cefnogi i wneud defnydd o’r profiadau da a drwg fel ei gilydd wrth lunio a chraffu ar y system cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru.

Darllenwch yr adroddiadau yma:


Erthygl gan Dr Sarah Nason, Prifysgol Bangor

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Bangor sydd wedi galluogi Dr Nason i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth hon.

Ariennir ymchwil barhaus ehangach Dr Nason i gyfiawnder gweinyddol yng Nghymru gan Sefydliad Nuffield, ond barn yr awdur a fynegir, nid barn y Sefydliad o reidrwydd. Ewch i www.nuffieldfoundation.org.