Cymunedau Tai

Coronafeirws: digartrefedd

Mae'r mwyafrif ohonom wedi bod yn treulio llawer mwy o amser gartref dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond beth pe bai gennych chi ddim unrhyw le i alw'n gartref? Mae'r erthygl blog hon yn trafod y camau a gymerwyd ledled Cymru i ddiogelu pobl sy'n cysgu allan neu'n wynebu digartrefedd yn ystod y pandemig ac yn edrych ar gynlluniau i sicrhau nad oes neb yn mynd yn ôl i fyw ar y strydoedd.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

31 Gorffennaf 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r mwyafrif ohonom wedi bod yn treulio llawer mwy o amser gartref dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond beth pe bai gennych chi ddim unrhyw le i alw’n gartref?

Mae’r erthygl blog hon yn trafod y camau a gymerwyd ledled Cymru i ddiogelu pobl sy’n cysgu allan neu’n wynebu digartrefedd yn ystod y pandemig ac yn edrych ar gynlluniau i sicrhau nad oes neb yn mynd yn ôl i fyw ar y strydoedd.

Ymateb i bandemig

Roedd cyffredinolrwydd cyflyrau iechyd sylfaenol, yr anallu i ddilyn canllawiau i hunan-ynysu ac anhawster cael gafael ar gyfleusterau hylendid sylfaenol yn gwneud pobl sy’n cysgu allan yn arbennig o agored i’r coronafeirws.

Ar 20 Mawrth, roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu rhoi diweddariad ar waith y Grŵp Gweithredu Digartrefedd, sy’n cynghori’r Llywodraeth ar ffyrdd i atal digartrefedd a dod â digartrefedd i ben. Yn hytrach, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n darparu £10 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol helpu pobl sy’n cysgu allan neu sydd mewn llety dros dro anaddas yn ystod y pandemig.

Galwodd Llywodraeth Cymru am sefydlu cell gydlynu ganolog gan bob awdurdod lleol mewn partneriaeth â darparwyr iechyd a darparwyr trydydd sector perthnasol. Dros yr wythnosau dilynol, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda’r rhanddeiliaid i ddatblygu ystod o ganllawiau manwl i gefnogi ymateb y sector.

Angen blaenoriaeth i bawb?

Nid yw pobl sy’n cysgu allan mewn angen blaenoriaethol yn awtomatig o dan ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru. Mae hynny’n golygu nad ydyn nhw bob amser yn cael llety dros dro ar unwaith ac mae’n bosibl nad oes dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau llety parhaol iddynt. Fodd bynnag, roedd newidiadau dros dro yn ystod y gaeaf yn 2019/20 yn golygu bod argymhellion tymor byr gan y Grŵp Gweithredu Digartrefedd wedi cael eu gweithredu. Gwelodd yr argymhellion hynny bobl a oedd yn cysgu allan mewn rhai ardaloedd yn cael eu trin fel rhai mewn angen blaenoriaethol er mwyn mynd i’r afael â chysgu allan lle roedd yn fwyaf cyffredin.

Ddiwedd Ebrill 2020, gwnaeth Llywodraeth Cymru hi’n glir i awdurdodau lleol drwy ganllawiau statudol y dylid ystyried bod rhywun a oedd naill ai’n ddigartref ar y stryd, neu’n wynebu digartrefedd ar y stryd, yn ystod y pandemig yn rhywun sy’n agored i niwed ac felly mewn angen blaenoriaethol. Nododd y canllawiau fod y coronafeirws yn risg ddifrifol ac eithriadol i bobl ddigartref.

Mae dadl barhaus ynghylch defnyddio angen blaenoriaethol yn neddfwriaeth digartrefedd Cymru. Yn 2018, argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd y dylid ystyried bod pobl sy’n cysgu allan yn grŵp angen blaenoriaethol fel cam cyntaf i ddileu’r prawf angen blaenoriaethol yn llwyr.  Mae adolygiad o’r defnydd o angen blaenoriaethol, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, wedi’i gynnal ar gyfer Llywodraeth Cymru er nad yw ei ganlyniad yn gyhoeddus eto.

Gwestai, tai a neuaddau preswyl

Roedd yr arian ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio llety dros dro ar raddfa, ac o fath, nas gwelwyd o’r blaen. Roedd darparu llety ychwanegol yn caniatáu i bobl a oedd yn ddigartref gael eu diogelu, eu cefnogi, a’u hynysu os oedd angen.

Yng Nghaerdydd, defnyddiwyd dau westy i ddarparu 130 uned o lety gyda chefnogaeth drwy’r dydd a’r nos gan staff. Yn Abertawe, defnyddiwyd prosiect tai â chefnogaeth yng nghanol y ddinas i roi llety i 20 o bobl sengl, gyda phartneriaid yn y trydydd sector. Yn Wrecsam, fe wnaeth Prifysgol Glyndŵr sicrhau bod llety myfyrwyr ar gael i’r awdurdod lleol. Ledled Cymru, cafodd landlordiaid preifat eu hannog gan Rhentu Doeth Cymru i gofrestru eu heiddo gwag i helpu i letya aelwydydd digartref.

Rhywle diogel i aros

Mae awdurdodau lleol a’u partneriaid wedi gallu defnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu llety ar gyfer nifer fawr o bobl mewn llety dros dro ers dechrau’r pandemig – tua 900 o bobl erbyn dechrau mis Mehefin. Roedd hyn yn ychwanegol at y rhai a oedd eisoes mewn llety dros dro pan ddechreuodd y cyfnod cloi oherwydd y coronafeirws.

Ni fydd mwyafrif y bobl sydd bellach mewn llety dros dro wedi bod yn cysgu allan. Bydd yr aelwydydd a gynorthwyir yn cynnwys teuluoedd ac unigolion a allai fod wedi bod mewn llety anaddas, goroeswyr cam-drin domestig, pobl a gafodd eu troi allan cyn y pandemig (mae troi allan wedi ei atal tan ddiwedd Awst ar hyn o bryd), pobl mewn llety anaddas a rennir a llawer o bobl nad oeddent, efallai, wedi cysylltu ag awdurdodau lleol am help cyn y pandemig. Gallai hynny gynnwys pobl a oedd â threfniadau dros dro gyda ffrindiau neu deulu a ddaeth yn anghynaladwy yn ystod y cyfnod cloi.

Bydd y rhai sy’n cael llety yn ystod y pandemig hefyd yn cynnwys nifer gymharol fach o bobl sydd ddim â’r gallu i droi at arian cyhoeddus – pobl sy’n destun rheolaeth fewnfudo nad ydyn nhw’n gallu cyrchu gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Nododd Llywodraeth Cymru yn gynnar yn ei hymateb i’r pandemig y dylid rhoi lloches i’r grŵp hwn ac y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio pwerau a chyllid amgen i’w cynorthwyo.

Cam dau: ‘arloesi, adeiladu ac ailfodelu’

Mae awdurdodau lleol a’u partneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â’r trydydd sector, bellach yn symud i gam dau’r strategaeth, i sicrhau “nad oes angen i unrhyw un ddychwelyd i’r stryd”. At y diben hwn, dyrannodd Llywodraeth Cymru gyllid untro o £20 miliwn i ddechrau a cododd y swm hwn i £50 miliwn yn ddiweddarach. Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gofyn i bob awdurdod lleol ddatblygu cynllun a fydd yn sail i gynnig am gyllid.

Yn natganiad y Gweinidog ar 28 Mai, amlinellodd yr hyn a ddisgwylir gan awdurdodau lleol. Dylai cynlluniau cam dau “ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn trawsnewid y llety a gynigir ar draws Cymru gyfan”.

Mae cam dau o ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o fanylion am ddatblygu cynlluniau. Bydd ailgartrefu cyflym yn elfen allweddol o gynlluniau cam dau, gan ddarparu tai a chefnogaeth hirdymor i bobl cyn gynted â phosibl. Ar 28 Gorffennaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi gwneud cais am gyllid cam dau.

Rhagwelir y bydd cam dau yn rhedeg tan fis Mawrth 2021, ac erbyn hynny bydd cam tri, sef y ‘normal newydd’, wedi cychwyn.

Edrych tuag at y dyfodol

Mae darparu llety i gymaint o bobl mewn cyfnod mor fyr yn gamp sylweddol ac ymddengys ei fod wedi achub bywydau. Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), o’r marwolaethau y gellir eu priodoli i COVID-19 yng Nghymru hyd at 26 Mehefin, ni nodwyd yr un ohonynt fel pobl a oedd yn ddigartref. Am yr un cyfnod yn Lloegr, nododd yr ONS 16 o farwolaethau. Mae lleihau nifer y bobl sy’n byw ar y strydoedd wedi bod yn ddyhead ers amser maith, ond cymerodd argyfwng iechyd cyhoeddus, cyllid ychwanegol a gweithio mewn partneriaeth ar draws sectorau i’w wireddu.

Yr her nawr yw sicrhau nad oes dychwelyd i’r strydoedd, ond hefyd i atal y boblogaeth ddigartref ehangach, y bydd llawer ohoni wedi ceisio cymorth am y tro cyntaf yn ystod y pandemig, rhag dychwelyd i lety ansicr, anaddas neu anniogel.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i ddigartrefedd fod yn rhywbeth ‘prin, byrhoedlog a ddim yn digwydd eto’ ac mae’n ymddangos bod pandemig byd-eang wedi darparu’r cyfle gorau i wireddu’r dyhead hwnnw.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: