Beth allai cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer deddf Marchnad Fewnol newydd ei olygu i Gymru a datganoli?

Cyhoeddwyd 03/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

3 Awst 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 16 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynigion ar gyfer deddf newydd ar farchnad fewnol y DU. Mae'r ddeddf newydd hon yn debygol o fod yn un o'r darnau o ddeddfwriaeth fwyaf arwyddocaol yn gyfansoddiadol sy’n cael ei deddfu fel rhan o’r broses Brexit. Mae'r amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth yn ymddangos yn fyr: Mae'r Papur Gwyn yn awgrymu y bydd angen deddfu erbyn 1 Ionawr 2021.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y ddeddf yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd unrhyw rwystrau mewnol newydd i fasnachu yn dod i’r amlwg yn y DU yn dilyn Brexit. Fodd bynnag, mae'r cynigion eisoes wedi profi'n ddadleuol ac wedi cael eu beirniadu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Nid yw’n glir eto i ba raddau y bydd y cynigion yn effeithio ar ddatganoli. Er bod y Papur Gwyn yn amlinellu fframwaith cyffredinol ar gyfer sut y byddai'r ddeddf yn gweithio, mae'n gadael llawer o gwestiynau heb eu hateb. Mae Gwasanaeth Ymchwil y Senedd a’r Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cyhoeddi papur ymchwil sy'n crynhoi'r cynigion allweddol yn y Papur Gwyn (PDF, 1231KB) ac sy'n ceisio esbonio pam maent yn bwysig a pha effaith y gallent ei chael. Mae'n nodi materion a chwestiynau allweddol sy'n codi ac yn rhoi enghreifftiau eglurhaol o'r hyn y gallai'r materion hyn ei olygu i ddyfodol datganoli yng Nghymru.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru