Coronafeirws: cymwysterau

Cyhoeddwyd 07/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Oherwydd y coronafeirws, mae gwahaniaethau sylweddol o ran y ffordd y dyfernir cymwysterau yn 2020.

Bydd y diwrnod canlyniadau yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol (13 Awst) a TGAU (20 Awst) a bydd ymgeiswyr yn cael gradd a chymhwyster. Fodd bynnag, heb arholiadau, bu’n rhaid sefydlu proses newydd i wneud hyn.

O ystyried yr amgylchiadau digynsail hyn, ni fydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi ei flogiau blynyddol ar ddiwrnodau’r canlyniadau. Yn lle hynny, rydym wedi creu’r blog hwn sy'n amlinellu'r broses.

Y penderfyniad i ganslo arholiadau yn 2020

Ar yr un diwrnod (18 Mawrth) pan gyhoeddwyd bod ysgolion yn cau, penderfynodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, na fyddai cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch haf 2020 yn mynd yn ei blaen. Roedd hyn yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, a'r corff dyfarnu, CBAC.

O’r cychwyn cyntaf, dywedodd y Gweinidog y byddai 'gradd deg' yn cael ei dyfarnu i ddysgwyr (Blwyddyn 11 a 13 yn bennaf) sy’n sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn, 'gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael'.

Dywedodd canllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth, y bydd graddau yn cael eu ‘cyfrifo gan ddefnyddio’r ystod o wybodaeth sydd ar gael, er enghraifft y gwaith a wnaed hyd yma, ffug-arholiadau a graddau wedi’u hasesu gan athrawon’. Dywedodd y Llywodraeth hefyd mai ei ‘nod yw sicrhau na fydd unrhyw ddysgwyr dan anfantais’.

Dywedodd y Gweinidog y canlynol wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) y Senedd ar 7 Gorffennaf:

The decision to cancel this year's examination series was devastating, but I believe, as we've seen the pandemic unfold, it was the right decision to make.

Tegwch i ddosbarth 2020 a sicrhau hygredd

Cymwysterau Cymru sy’n gyfrifol am bennu trefniadau o ran sut y dyfernir cymwysterau. O dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, er ei fod yn rheoleiddiwr annibynnol, rhaid i Cymwysterau Cymru roi sylw i bolisi Llywodraeth Cymru yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidogion.

Mae Deddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Cymwysterau Cymru weithredu yn unol â dau brif nod:

  • sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
  • hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Mae’n rhaid i’r rheoleiddiwr sicrhau bod y trefniadau a roddwyd ar waith ar gyfer 2020 yn bodloni'r ddwy flaenoriaeth hynny. Mae hyn yn golygu sicrhau bod carfan 2020 yn cael cyfle i gyflawni'r graddau y byddent wedi’u cael o dan amodau arholiad. Ond hefyd, heb danseilio hyder yng ngwerth y cymwysterau a ddyfernir, yn enwedig unrhyw ganfyddiad eu bod wedi’u dyfarnu heb drylwyredd dyladwy.

Adlewyrchwyd y rheidrwydd hwn yn y Cyfarwyddyd Gweinidogol a wnaed o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 a gyhoeddodd Kirsty Williams AS ym mis Ebrill. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Cymwysterau Cymru roi sylw i nifer o ffactorau wrth ddyfarnu cymwysterau yr haf hwn. Dywedodd y Gweinidog ei bod am:

‘gynnal cadernid a hygrededd ein system gymwysterau a sicrhau’r dull gweithredu tecaf ar gyfer ein dysgwyr, er mwyn gwneud siŵr nad ydynt dan anfantais oherwydd amgylchiadau sydd y tu allan i’w rheolaeth’.

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor PPIA ar 7 Gorffennaf na fu dim cyfaddawdu rhwng y ddwy egwyddor hyn, gan nodi’r canlynol:

I believe that the system that has been put in place does marry the interests of individual students and the integrity of the system overall.

Sut y dyfernir cymwysterau yn 2020?

Oherwydd y ffaith na fydd arholiadau eleni, mae ysgolion a cholegau (‘canolfannau’) wedi cyflwyno’r canlynol i CBAC (y corff dyfarnu ar gyfer y mwyafrif helaeth o gymwysterau cyffredinol (academaidd) yng Nghymru):

  • gradd ar gyfer pob un o’u myfyrwyr;
  • trefn restrol ar gyfer pob myfyriwr (i wahaniaethu rhwng dysgwyr a gaiff yr un radd);
  • datganiad uniondeb gan y pennaeth.

Mae Cymwysterau Cymru wedi nodi bod yn rhaid i’r graddau a gyflwynir gan y canolfannau:

…adlewyrchu’r radd fwyaf tebygol y byddai dysgwr wedi’i chael pe byddai wedi sefyll ei arholiadau yr haf hwn ac wedi cwblhau unrhyw asesiad diarholiad. Felly, er y gellir defnyddio perfformiad mewn ffug arholiadau, gwaith dosbarth ac asesiadau ffurfiannol eraill, rydym wedi nodi'n glir y dylid llunio barn broffesiynol gyfannol wrth bennu graddau asesu canolfannau ar gyfer pob dysgwr, gan gydbwyso'r gwahanol ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael. [Pwyslais yr awdur]

Wedyn, bydd CBAC yn ‘safoni’ y graddau a gyflwynir gan ganolfannau, gan ddefnyddio model ystadegol a ddatblygwyd ar y cyd â Cymwysterau Cymru.

Ar 29 Mehefin, yn dilyn ymgynghoriad, gwnaeth Cymwysterau Cymru benderfynu ar set o nodau ar gyfer y model safoni ystadegol hwn a'r broses apelio sydd ar gael i ddysgwyr a'u canolfannau. Dywedodd Cymwysterau Cymru (PDF 413KB) y byddai'r model yn:

…[c]yfuno ystod o dystiolaeth, gan gynnwys dosraniadau graddau disgwyliedig ar lefel genedlaethol, canlyniadau mewn blynyddoedd blaenorol ar lefel canolfan unigol, a phroffil cyrhaeddiad blaenorol dysgwyr (gan gynnwys cyrhaeddiad mewn cymwysterau ac unedau sydd eisoes wedi'u dyfarnu). [Pwyslais yr awdur]

Mae dau brif gam yn rhan o’r model safoni, ar ôl i’r canolfannau gyflwyno’r graddau ar gyfer eu myfyrwyr:

  • Cam 1: Cyfrifo graddau ar gyfer dysgwyr ym mhob canolfan. Bydd CBAC yn cyfrifo set o raddau ar gyfer pob canolfan arholi, fel ysgol.
  • Cam 2: Dyrannu graddau i ddysgwyr unigol. Bydd CBAC yn dyrannu'r set o raddau o gam 1 i ddysgwyr unigol gan ddefnyddio'r drefn restrol a ddarperir gan yr athrawon yn y ganolfan.

Mae rhagor o wybodaeth am ystyr safoni ystadegol a'r model sy'n cael ei ddefnyddio ar gael gan Cymwysterau Cymru a CBAC.

Pam mae safoni yn cael ei ystyried yn angenrheidiol?

Wrth esbonio ei benderfyniadau (PDF 440KB), dywedodd Cymwysterau Cymru fod angen pennu'r cydbwysedd priodol bob amser rhwng amrywiaeth o ystyriaethau pwysig, gan nodi’r canlynol:

‘er bod sicrhau tegwch i'r cohort hwn o ddysgwyr yn ystyriaeth bwysig, nid dyna ddylai fod yr unig ystyriaeth’.

Un ystyriaeth bwysig i’r rheoleiddiwr, o ystyried ei ail brif nod – hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau – yw cynnal sefydlogrwydd y graddau, sef atal newidiadau mawr direswm yn y cyfraddau cyrhaeddiad rhwng blynyddoedd. Er y dylai’r system dyfarnu cymwysterau allu adlewyrchu gwelliant gwirioneddol mewn ysgolion neu berfformiad uwch gan ymgeiswyr, mae angen i’r canlyniadau aros yn gymharol ac yn deg rhwng y carfannau blynyddol.

Mae hyn, fel arfer, yn cael ei wneud drwy osod ffiniau graddau ar gyfer sgoriau mewn papurau arholiad, sy’n amhosibl eleni. Er enghraifft, os yw’n ymddangos bod myfyrwyr yn gyffredinol wedi canfod bod papur arholiad yn arbennig o hawdd neu anodd gall fod angen sgôr grai uwch neu is na’r blynyddoedd blaenorol er mwyn ennill gradd A etc. Mae Cymwysterau Cymru yn nodi fel a ganlyn (PDF 413KB):

Oni bai y bydd deilliannau 2020 yn debyg yn fras i’r rhai mewn blynyddoedd eraill, byddai annhegwch i ddysgwyr o grwpiau blwyddyn eraill. Mae’n bwysig nad yw hygrededd graddau dysgwyr yn cael ei danseilio’r haf hwn, a’u bod yn gallu gwrthsefyll craffu cyhoeddus. [Pwyslais yr awdur]

Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod y bydd y graddau terfynol a ddyfernir i ddysgwyr eleni ‘yn aml yn wahanol’ i’r rhai a gyflwynwyd gan eu canolfannau.

Beth yw’r goblygiadau i ddysgwyr?

Mae’r amgylchiadau digynsail sy’n ymwneud â dyfarnu cymwysterau eleni wedi codi cwestiynau am degwch.

Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi edrych ar yr effaith y gallai’r broses wahanol o ddyfarnu cymwysterau ei chael ar rai myfyrwyr. Mae'r model safoni yn rhoi pwyslais ar ganlyniadau blaenorol canolfan (cyn dyrannu graddau rhwng dysgwyr ym mhob canolfan). Gall hyn olygu bod canlyniad unigolyn yn cael ei bennu'n rhannol ar sail hanes blaenorol ei ysgol neu ei goleg.

Efallai y bydd goblygiadau hefyd i ymarfer safoni CBAC, yn arbennig os bydd llawer o’r graddau y bydd ysgolion a cholegau yn eu cyflwyno ar gyfer eu myfyrwyr yn cael eu haddasu tuag i lawr. Yn dilyn dadansoddiad o raddau asesiadau canolfannau rhagarweiniol yn Lloegr gan FFT Education Datalab, cafwyd adroddiad y gallai hyd at un rhan o dair o'r graddau a gyflwynir gan ganolfannau yn Lloegr gael eu hisraddio gan y model safoni a ddefnyddir yno. Mae’r Adran dros Addysg wedi dweud nad yw hyn yn wir, ac y bydd israddio cyffredinol i holl raddau myfyrwyr hyd at 33 y cant. Yn yr Alban, lle y mae arholiadau wedi'u canslo hefyd oherwydd y pandemig, cyhoeddwyd canlyniadau’r arholiadau ar 4 Awst.

Pan gafodd ei holi gan y Pwyllgor PPIA (7 Gorffennaf), dywedodd y Gweinidog y canlynol:

what WJEC and Qualifications Wales have done here is to ensure that there is a system that allows for consistency in the judgements that have been made by centres, recognising that even within centres some grades may have been overpredicted and other learners might have had their grades underpredicted.

A gaiff dysgwyr apelio yn erbyn eu graddau?

Yn dilyn ymgynghoriad, penderfynodd Cymwysterau Cymru beidio â chaniatáu i ymgeiswyr apelio i CBAC yn erbyn y radd y mae eu canolfan wedi’i chyflwyno ar eu cyfer na’r drefn restrol a roddwyd iddynt.

Er hynny, bydd dysgwr yn cael gofyn i’w ysgol neu ei goleg wirio a yw wedi gwneud camgymeriad wrth gyflwyno data asesu’r ganolfan ar ei gyfer.

Caiff ysgolion a cholegau apelio i CBAC, ar ran y dysgwr, ar y sail ei fod wedi defnyddio’r data anghywir wrth gyfrifo graddau, a/neu wedi dyrannu neu wedi cyfleu’r graddau a gyfrifwyd yn anghywir. Bydd gofyn i CBAC, ar gais, roi i ganolfan y wybodaeth a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r canlyniad a roddwyd i ddysgwr.

Caiff dysgwyr unigol apelio yn eu canolfan yn erbyn ei phenderfyniad i beidio â gofyn i CBAC roi gwybodaeth y byddai ei hangen er mwyn apelio. Cânt hefyd apelio i'w canolfannau ynghylch penderfyniad y ganolfan i beidio ag apelio i CBAC ar eu rhan.

Caiff ymgeiswyr preifat (y rhai nad oeddent wedi astudio mewn ysgol na choleg) apelio'n uniongyrchol i CBAC.

Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn erbyn graddau a ddyfarnwyd yn 2020 ar gael gan Cymwysterau Cymru (PDF 98KB) a CBAC.

Cymwysterau galwedigaethol

Mae pob prentis, a nifer sylweddol o ddysgwyr addysg bellach, yn ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol.

Er mai CBAC sy’n dyfarnu’r rhan fwyaf o gymwysterau cyffredinol yng Nghymru, mae cymwysterau galwedigaethol yn cael eu dyfarnu gan dros 100 o gyrff dyfarnu sy'n gweithio ledled y DU. Dywedodd Cymwysterau Cymru ym mis Ebrill ‘er mwyn sicrhau cysondeb ar gyfer dysgwyr sy'n dilyn y cymwysterau hyn, bydd yr un dull yn cael ei ddilyn ar gyfer dysgwyr yng Nghymru â'r hyn a nodir gan Ofqual’, sef y rheoleiddiwr yn Lloegr.

Yn dilyn ymgynghoriad, amlinellodd Ofqual ddull lle bydd cyrff dyfarnu yn rhoi eu cymwysterau mewn un o dri chategori: cyfrifo, addasu neu oedi. Gall dysgwyr ddefnyddio offeryn ar-lein i ddeall i ba gategori mae eu cymhwyster galwedigaethol yn perthyn.

Mae Cymwysterau Cymru wedi darparu Cwestiynau Cyffredin, yn ogystal â blog gan ei Brif Weithredwr, ynglŷn â’r ffordd ymlaen o ran cymwysterau galwedigaethol yn 2020.

Cymwysterau yn 2021

Er bod trefniadau eithriadol wedi'u rhoi ar waith ar gyfer cymwysterau a ddyfarnwyd eleni, bu angen ystyried hefyd yr effaith ar ddisgyblion a myfyrwyr hanner ffordd drwy gymwysterau a fydd yn cael eu dyfarnu yn 2021.

Ar 7 Gorffennaf, dywedodd y Gweinidog y canlynol wrth y Pwyllgor PPIA:

I believe at this current point in time it is in the best interests of all learners, if at all possible, for the exams in 2021 to proceed in the normal way, albeit with some modifications to take into consideration the loss of learning time and classroom time that will have been experienced. It is absolutely my hope and it is my belief that the examination series next summer needs to go ahead, but we need to recognise that some modifications will be necessary for that to be fair.

Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ofynion y mae'n eu gosod ar CBAC. Nod y rhain yw gwneud newidiadau priodol i gyrsiau TGAU a Safon Uwch ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll arholiadau yn haf 2021. Mae rhagor o wybodaeth yn y llythyr hwn gan Cymwysterau Cymru (PDF) at ysgolion a cholegau, ac yn y casgliad hwn o gwestiynau cyffredin gan CBAC.


Erthygl gan Michael Dauncey a Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.