Coronafeirws: newidiadau i'r ffordd y dyfernir cymwysterau Safon Uwch

Cyhoeddwyd 14/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

***ROEDD YR ERTHYGL HON YN ADLEWYRCHU’R SEFYLLFA FEL YR OEDD AR 13 AWST 2020. AR 15 AWST, CYHOEDDODD Y GWEINIDOG SAIL NEWYDD DROS APELIO. MAE EIN HERTHYGL NEWYDD YN DARPARU GWYBODAETH AM Y NEWID HWN, A DYLID EI DARLLEN AR Y CYD Â’R DARN HWN***

Ar 07 Awst, gwnaethom gyhoeddi erthygl yn esbonio sut y byddai cymwysterau megis Safon Uwch/Uwch Gyfrannol a TGAU yn cael eu graddio yn ystod haf 2020, a rhesymau Llywodraeth Cymru dros gymryd y camau hynny.

Fodd bynnag, ar 12 Awst, cyhoeddodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, fod y ffordd o raddio cymwysterau Safon Uwch yn mynd i newid. Roedd hyn yn dilyn newidiadau a wnaed eisoes yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar ôl beirniadaeth gref o'r model 'safoni' a ddefnyddir i gyfrifo graddau, a'i effaith ar ddysgwyr unigol, a'r dysgwyr hynny yn yr Alban o ardaloedd mwy difreintiedig.

Eglurodd y Gweinidog, yn lle bod dysgwyr Safon Uwch yn cael y radd a gyfrifwyd gan ‘fodelau safoni' CBAC, fel y bwriadwyd, byddent yn cael eu dyfarnu'r un radd yn awtomatig ag y dyfarnwyd iddynt ar gyfer eu cymhwyster Uwch Gyfrannol, os oedd eu canlyniad Uwch Gyfrannol yn uwch na’u gradd Safon Uwch a gyfrifwyd gan CBAC. Mae hyn yn golygu y byddai’r dysgwyr dan sylw yn gweld cynnydd awtomatig i’w graddau.

Mae'r newid mewn polisi wedi cael ei feirniadu’n hallt, gyda Phlaid Cymru yn galw ar Brif Weinidog Cymru i ddyfarnu’r graddau asesiadau gan athrawon i ddysgwyr lle maent yn uwch na'u canlyniad a gyfrifwyd, ac am gyfarfod brys o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru a CBAC ddatganiadau mewn ymateb i'r Cyfarwyddyd Gweinidogol newydd hwn.

Ar adeg ysgrifennu'r blog hwn nid oes unrhyw newidiadau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer unrhyw fath arall o gymhwyster gan gynnwys TGAU neu Uwch Gyfrannol. Mae'r broses o gyfrifo graddau ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a TGAU yn ystyried perfformiad hanesyddol yr ysgol neu'r coleg, tra bod cyfrifo graddau Safon Uwch dim ond yn defnyddio canlyniadau Uwch Gyfrannol y dysgwyr Safon Uwch gwirioneddol sy’n cael eu graddau. Mae'r gwahanol fodelau ar gyfer cyfrifo graddau wedi’u hesbonio yn y fideos hyn.

Pan wnaeth y Gweinidog ei chyhoeddiad ar 12 Awst, roedd y canlyniadau Safon Uwch wedi cael eu cyhoeddi eisoes i ysgolion y bore hwnnw. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddysgwyr aros yn awr i CBAC ail-gyhoeddi eu canlyniadau er mwyn adlewyrchu unrhyw radd lefel Uwch Gyfrannol sy’n uwch.

Mae hefyd yn golygu, ar adeg ysgrifennu’r blog hwn nad oes darlun cenedlaethol hyd yn hyn o’r canlyniadau Safon Uwch, ac nid yw’r trosolwg a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru eto'n adlewyrchu'r newid mewn polisi a'r graddau newydd sy'n deillio o hynny.

Cafodd ychydig yn llai na hanner o raddau Safon Uwch a ragwelwyd gan athrawon eu newid

Mae trosolwg Cymwysterau Cymru yn egluro y byddai cyflwyno graddau a gyfrifwyd yn haf 2020 wedi golygu:

  • y byddai canlyniadau 2020 wedi aros yn weddol debyg i'r blynyddoedd diwethaf (a dyna oedd bwriad y broses safoni), a
  • byddai’r bwlch cyrhaeddiad yn gyson â'r bwlch a welwyd dros y pum mlynedd flaenorol.

Mae Cymwysterau Cymru yn mynd ymlaen i esbonio:

The Centre Assessment Grades (CAGs) submitted by schools and colleges were optimistic and, without standardisation, would have produced atypically high outcomes.

Mae Cymwysterau Cymru yn nodi data sy'n dangos bod ychydig yn llai na hanner (46 y cant) o’r CAGs a ragwelwyd ar gyfer cymwysterau Safon Uwch wedi cael eu newid ar ôl y cyfrifiad safoni, gyda 42 y cant yn is na’r CAG a 4 y cant yn uwch).

Canfu hefyd fod 48 y cant o ddysgwyr a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cael gradd Safon Uwch a gyfrifwyd yn is na'u CAG, o'i gymharu â 45 y cant ar gyfer y rhai nad oeddent yn gymwys. Nid yw Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi data ar nodweddion dysgwyr mewn perthynas ag amddifadedd, fel y mae Awdurdod Cymwysterau’r Alban wedi’i wneud.

Nid yw'r algorithm a ddefnyddir i gyfrifo graddau yn defnyddio unrhyw nodweddion dysgwr personol (fel rhyw, ethnigrwydd ac ati) i gyfrifo graddau terfynol ac eithrio oedran y dysgwr, sy’n cael ei ddefnyddio i nodi’r rhai sy’n ailsefyll arholiadau yn unig.

Edrych eto ar y rhesymau dros apelio

***ROEDD YR WYBODAETH ISOD YN ADLEWYRCHU’R BROSES APELIO FEL YR OEDD AR 13 AWST 2020. CYHOEDDODD Y GWEINIDOG SAIL NEWYDD DROS APELIO AR 15 AWST. MAE EIN HERTHYGL NEWYDD YN DARPARU GWYBODAETH AM Y NEWID HWN.***

Esboniodd y Gweinidog y canlynol hefyd:

Byddaf yn gofyn i Cymwysterau Cymru symud ymlaen yn gyflym gydag addasiadau perthnasol i broses apelio yng Nghymru cyn gynted ag y mae’r cynlluniau hyn yn gliriach, er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr Cymru yn wynebu unrhyw anfantais.

Ymrwymodd y Gweinidog i sicrhau y byddai unrhyw apeliadau yn rhad ac am ddim i ddysgwyr. Mae'r broses apelio wreiddiol (a’r broses gyfredol ar adeg ysgrifennu) yn broses eithriadol ar gyfer eleni yn unig. Mae wedi’i hamlinellu yn ein blog blaenorol yn ogystal â’r siart llif hwn. . Ceir canllawiau technegol manylach ynghylch apelio yma, a luniwyd ar ran CBAC.

Mae'n rhaid i ddysgwyr apelio drwy eu hysgol neu goleg ac nid ydynt yn gallu herio'r CAG. Dewisodd Cymwysterau Cymru i eithrio'n benodol y gallu i apelio yn erbyn y CAG a ragwelwyd fel rhan o'u hymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach yn yr haf – mae'n nodi eu rhesymau dros wneud hynny yma. Yn lle hynny, ar hyn o bryd cyfyngir y sail dros apelio i:

sail weithdrefnol, os yw’n credu bod y data anghywir wedi cael eu ddefnyddio i gyfrifo canlyniadau ar gyfer Dysgwyr, neu os oedd gwall gweinyddol wrth i CBAC gyhoeddi canlyniadau.

Fodd bynnag, mae Cymwysterau Cymru, mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog, wedi egluro eu bod yn ailystyried y sail dros apelio, ac yn disgwyl darparu rhagor o wybodaeth yr wythnos nesaf.

Mae Colegau Cymru hefyd wedi galw am eglurder ynghylch beth ddylai'r broses apelio fod ar gyfer y myfyrwyr Safon Uwch hynny y mae eu graddau'n is na'u CAG a ragwelwyd, ond yn uwch na'u lefel Uwch Gyfrannol, sy'n golygu na fyddai newid mewn polisi gan y Gweinidog yn arwain at radd uwch yn cael ei chyhoeddi’n awtomatig gan CBAC.

Apeliadau a dysgwyr sy'n disgyn y tu allan i batrymau canlyniadau blaenorol

Mae'r model safoni a ddefnyddir i gyfrifo cymwysterau Safon Uwch yn defnyddio’r perfformiad blaenorol gwirioneddol a ddyfarnwyd i’r garfan yn eu cymwysterau Uwch Gyfrannol mewn pwnc. Fodd bynnag, mae'r model a ddefnyddir i gyfrifo cymhwyster Uwch Gyfrannol yn defnyddio perfformiad blaenorol ysgol ar gyfartaledd mewn pwnc (wedi'i addasu i ystyried cyrhaeddiad blaenorol y garfan ar lefel TGAU i gyfrif am ddysgwyr sydd â gallu uwch neu is na'r hyn a gafodd yr ysgol yn y blynyddoedd blaenorol).

Fodd bynnag, lle y mae ysgol neu goleg yn credu bod gan ddysgwr gyrhaeddiad blaenorol a fyddai'n awgrymu bod ei berfformiad yn eithriadol o wahanol i berfformiad arferol yr ysgol neu'r coleg, yna gellir apelio ar hyn o bryd ar sail y ffaith bod ‘data anghywir’ wedi cael eu defnyddio wrth gyfrifo graddau (er enghraifft, pan fo gan ysgol neu goleg ddysgwr y mae ei gyrhaeddiad blaenorol yn awgrymu y byddai'n cyflawni gradd A* mewn pwnc a bod hyn yn eithriadol o wahanol i berfformiad arferol yr ysgol neu'r coleg yn y pwnc hwnnw).

Mae’r canllawiau technegol a gyhoeddwyd i CBAC gan Cymwysterau Cymru ynghylch ystyried apeliadau ar gael yma. Mae'r canllawiau'n nodi

Mae rhai amgylchiadau eithriadol lle gellid dangos drwy apêl bod defnyddio set ddata ddiofyn i gyfrifo canlyniadau yn gyfystyr â defnyddio'r data anghywir oherwydd rhyw ffactor eithriadol sy'n tanseilio'r dybiaeth mai'r set ddata ddiofyn yw'r sail fwyaf priodol i gyfrifo canlyniadau ar gyfer Dysgwyr y Ganolfan.

Mae'r canllawiau yn mynd ymlaen i nodi sut y gallai ysgolion a cholegau gadarnhau nad yw eu "carfannau blaenorol o ddysgwyr yn ddigon cynrychioliadol o'r garfan 2020 i lywio'r gwaith o gyfrifo'r canlyniadau mewn dull dibynadwy”.

Beth nesaf?

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach wrth i'r sefyllfa ddatblygu ac wrth i CBAC a Cymwysterau Cymru ryddhau rhagor o wybodaeth.


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.