Coronafeirws: y diwydiannau creadigol

Cyhoeddwyd 11/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau ar symud daeth y rhan fwyaf o’r gwaith cynhyrchu ffilm, teledu a chynhyrchu diwylliannol i ben, caeodd yr holl leoliadau perfformio a diflannodd y galw am y rhan fwyaf o wasanaethau creadigol. Mae rhywfaint o weithgarwch wedi ailddechrau bellach, ond mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau byw yn anhyfyw’n fasnachol wrth weithredu camau cadw pellter cymdeithasol, a bydd gweithgareddau eraill yn dioddef yn sgîl costau cydymffurfio i sicrhau bod y gweithgaredd yn ddiogel o ran COVID-19.

Mae’r diwydiannau creadigol wedi bod yn un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu cynyrchiadau ffilm a theledu yn faes twf arbennig o dda, gyda gwerth ychwanegol gros cynhyrchu ffilm, fideo a rhaglenni teledu yn mwy na threblu rhwng 2007 a 2017 (o £62 miliwn i £200 miliwn).

I ba raddau y gall Cronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn sgîl y coronafeirws gynnal y twf hwn?

“Trychineb diwylliannol”

Ym mis Mehefin rhybuddiodd Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol fod y DU yn wynebu “trychineb diwylliannol”. Yn ôl dadansoddiad a gomisiynwyd gan y Ffederasiwn gan Oxford Economics, rhagwelir y bydd Cymru’n colli 26 y cant (sef 15,000) o’i swyddi creadigol ac y bydd cwymp o 10 y cant (£100 miliwn) yng ngwerth ychwanegol gros y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’n nodi bod ‘sector creadigol y DU yn tyfu bum gwaith cyfradd yr economi ehangach o’r blaen’.

Amcangyfrifodd Caerdydd Greadigol fod 40,000 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn niwydiannau creadigol Cymru. Daeth mwyafrif eu gwaith i ben cyn gynted ag y cyhoeddwyd y cyfyngiadau ar symud. Codwyd pryderon y gallai pobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol ddisgyn drwy’r rhwyd o ran y gefnogaeth sydd ar gael i bobl hunan-gyflogedig yn sgîl y coronafeirws, gan gyrff sy’n cynnwys Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru (a’i ymchwiliad ar Effaith yr achos COVID-19 ar y diwydiannau creadigol), Pwyllgor Trysorlys Tŷ’r Cyffredin (Rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar y bylchau o ran cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud) a Phwyllgor Dethol Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin.

Hyd yma, mae llawer o weithwyr wedi cael eu hamddiffyn rhag cael eu diswyddo gan gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU. Disgwylir i hwn ddod i ben ym mis Hydref, cyn y disgwylia llawer o leoliadau perfformio y gallant wneud dim elw. Mor bell yn ôl â mis Mehefin canslodd Canolfan Mileniwm Cymru bob sioe yn 2020, ac roedd 250 o swyddi mewn perygl, ac mae wedi rhagweld y gallai golli £20 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Ynghyd â chyfyngiadau ar gapasiti, mae lleoliadau ymhlith y rhai ym maes y diwydiannau creadigol a fydd yn wynebu costau ychwanegol wrth gynnal gweithgareddau mewn modd diogel. Eglurodd Mark Davyd o’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y byddai maint proffidioldeb bach iawn lleoliadau cerddoriaeth yn cael ei leihau ymhellach yn sgîl ‘staffio ychwanegol a… llawer o fesurau glanhau a rheoli ychwanegol’.

Yn ei adroddiad ar Effaith COVID-19 ar y diwydiannau creadigol ym mis Gorffennaf, galwodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am i’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a’r Cynllun Cadw Swyddi gael eu “hymestyn y tu hwnt i fis Hydref 2020 oherwydd bod ailagor y sector yn debygol o fod yn raddol ac na fydd yn dychwelyd i gyflogaeth lawn cyn y dyddiad hwnnw”.

Mae’r gallu i gael yswiriant sy’n caniatáu ar gyfer hawliadau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn ffactor o bwys sy’n rhwystr i waith cynhyrchu corfforol yn y diwydiannau sgrin, ynghyd â pherfformiadau byw, ddychwelyd i’r gwaith.

Eglurodd Pauline Burt Ffilm Cymru wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ym mis Mehefin, heb yswiriant, mai dim ond cynyrchiadau sy’n gallu hunan-yswirio y bydd modd eu gweld. Byddai hyn, yn ei barn hi, yn golygu y gallai darlledwyr ac eraill sy’n gweithio gyda chyllidebau llai fynd yn eu blaenau, ynghyd â stiwdios mwy sydd â rheidrwydd economaidd i lenwi eu coffrau.

Rhwng yr eithafion hyn, roedd hi’n teimlo y byddai gweithredwyr yn wynebu colledion pe bai tarfu ar gynhyrchu ar raddfa na allent fforddio ei gwmpasu. Dywedodd nad oedd yn disgwyl gweld cynyrchiadau gwerth rhwng £1.5 miliwn a hyd at lefel stiwdio yn gallu dechrau cynhyrchu nes bod y mater yswiriant hwn yn cael sylw.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun i helpu cynyrchiadau ffilm a theledu gael gafael ar yswiriant cynhyrchu.

Y Gronfa Adferiad Diwylliannol a’r £6 miliwn sydd ar goll

Ar 5 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth gwerth £1.57 biliwn ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Roedd hwn yn cynnwys pecyn o gefnogaeth i sefydliadau diwylliannol yn Lloegr, a chyllid canlyniadol i’r llywodraethau datganoledig, a oedd yn rhydd i benderfynu sut i wario’r arian hwn. Roedd y cyllid yn cynnwys £59 miliwn ar gyfer Cymru (sef, llai na chyfran ar sail poblogaeth o gyfanswm cyllid y DU).

Ar 30 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53 miliwn. Mewn cymhariaeth, mae cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor y Celfyddydau tua £30 miliwn.

Ar 17 Awst agorwyd cyfran Cyngor Celfyddydau Cymru o’r gronfa (£27.5 miliwn) ar gyfer ceisiadau. Mae’r gyfran hon yn cynnwys £25.5 miliwn o refeniw a £2 miliwn o gyllid cyfalaf, ac mae’r cyfan ar gyfer sefydliadau celfyddydol. Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn rheoli’r arian ar gyfer:

  • theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd;
  • orielau;
  • sefydliadau sy’n cynhyrchu a gweithgareddau celfyddydol sy’n teithio; a
  • sefydliadau sy’n darparu gweithgaredd celfyddydau cyfranogol.

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli gweddill y gronfa (sef £25.5 miliwn) ar gyfer:

  • lleoliadau cerddoriaeth;
  • stiwdios recordio ac ymarfer;
  • sefydliadau treftadaeth ac atyniadau hanesyddol;
  • amgueddfeydd a gwasanaethau archifo wedi’u hachredu;
  • llyfrgelloedd;
  • digwyddiadau a’u cyflenwyr cymorth technegol;
  • sinemâu annibynnol;
  • y sector cyhoeddi; a
  • gweithwyr proffesiynol creadigol ar eu liwt eu hunain.

Agorwyd cyfleuster gwirio cymhwysedd ar 1 Medi, gyda sefydliadau yn gallu gwneud cais rhwng 14 a 30 Medi. Mae £7 miliwn o’r cyllid hwn ar gael i gynorthwyo gweithwyr llawrydd.

Roedd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi galw o’r blaen am i’r cyfan o’r £59 miliwn a ddyrannwyd i Gymru gael ei wario ar ddiwylliant. Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Adferiad Diwylliannol dywedodd fod y £53 miliwn hwn wedi dod “ar ben y pecyn portffolio £18m a ddarparwyd ym mis Ebrill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru”.

Ni ellir cymharu mwyafrif y pecyn gwerth £18 miliwn hwn yn uniongyrchol â’r “gronfa adferiad diwylliannol” newydd. Roedd y pecyn gwerth £18 miliwn yn cynnwys £8 miliwn ar gyfer chwaraeon, ac roedd y cyllid diwylliant o’r pecyn hwn yn cynnwys o leiaf £5.1 miliwn o ffynonellau y tu allan i Lywodraeth Cymru, fel y Loteri Genedlaethol.

Roedd yr ymyriadau diwylliannol o ran COVID-19 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yn y flwyddyn yn niwtral yn ariannol: hynny yw, roedd yr arian a ddyrannwyd i fynd i’r afael ag effaith COVID yn y meysydd hyn yn dod o’r dyraniadau cyllideb presennol yn y meysydd hyn.

A oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer nerthol?

Yn y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog ar 3 Gorffennaf, cydnabu’r Prif Weinidog yr anawsterau a wynebir gan sefydliadau diwylliannol ac unigolion y mae eu hincwm yn parhau i leihau yn sgîl y pandemig.

Galwodd ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun cymorth incwm i’r hunan-gyflogedig a’r cynllun ffyrlo, fel eu bod yn parhau i gefnogi’r rhannau hynny o’r economi na fydd yn gallu ailddechrau, ac ychwanegodd nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer nerthol i gefnogi’r sector cyfan.

Roedd hyn ddyddiau cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei phecyn cyllido i ddiwylliant, gan gynnwys cyllid canlyniadol ar gyfer y cenhedloedd datganoledig.

A fydd y pecyn hwn yn ddigon, nid yn unig i barhau i gefnogi’r diwydiannau creadigol unwaith y bydd cynlluniau cymorth cyflogaeth coronafeirws Llywodraeth y DU yn dod i ben, ond i lenwi bylchau cydnabyddedig ers amser y cynlluniau hyn?


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.