Cymunedau Economi

Coronafeirws: Adferiad economaidd – pobl, lleoedd ac anghydraddoldebau

Y bore yma, mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd yn dechrau cymryd tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i adferiad economaidd. Dyma’r ail o ddwy erthygl gennym ar y pwnc hwn, ac mae’n trafod pobl, lleoedd ac anghydraddoldebau. Mae ein herthygl flaenorol, a gyhoeddwyd ddoe, yn trafod busnesau, seilwaith ac adferiad gwyrdd.

Amcangyfrif o amser darllen: 7 Munud

16 Medi 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y bore yma, mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd yn dechrau cymryd tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i adferiad economaidd. Dyma’r ail o ddwy erthygl gennym ar y pwnc hwn, ac mae’n trafod pobl, lleoedd ac anghydraddoldebau.  Mae ein herthygl flaenorol, a gyhoeddwyd ddoe, yn trafod busnesau, seilwaith ac adferiad gwyrdd.

Sgiliau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £50 miliwn i brifysgolion, colegau a myfyrwyr a £40 miliwn arall i gefnogi pobl i ddod o hyd i waith, addysg, hyfforddiant neu brentisiaethau.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Rishi Sunak AS, Canghellor y DU, Gynllun Kickstart a fydd yn talu cyflogwyr yn uniongyrchol i greu swyddi newydd i unrhyw un rhwng 16 a 24 oed sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Mae busnesau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gymwys i wneud cais am y cynllun, a gallant gofrestru drwy wefan Llywodraeth y DU.

Yn dilyn nifer o drafodaethau bord gron a gynhaliwyd fel rhan o waith Llywodraeth Cymru ar adfer yn sgil y coronafeirws, gwnaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyhoeddi materion allweddol a gododd yn sgil y trafodaethau hyn, gan gynnwys sawl un sy’n canolbwyntio ar sgiliau. Awgrymodd y rhai a gymerodd ran yn y trafodaethau bord gron y canlynol:

  • Ailsgilio ac ailhyfforddi pobl i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i hyrwyddo economi werdd. Dywedodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Gorffennaf bod rhai cyfleoedd sylweddol, yn enwedig o ran twf gwyrdd.
  • Gallai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hwyluso partneriaethau rhanbarthol rhwng prifysgolion, awdurdodau lleol a busnesau i ddarparu rhaglenni hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar sgiliau. Cynigiwyd hefyd y gellid annog prifysgolion sydd â chapasiti dros ben i ddatblygu cyrsiau ar-lein a buddsoddi mewn dysgu o bell i roi cyfleoedd newydd i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd mynychu campysau, er enghraifft pobl sydd ag anableddau neu ddyletswyddau gofalu.
  • Mae gan brentisiaethau botensial i fod yn ddull pwysig ar gyfer cefnogi datblygu sgiliau ac adfer y farchnad lafur. Gallant alluogi gweithwyr i symud i sectorau fel iechyd a gofal cymdeithasol a thechnoleg.

Gweithio yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu “nod yw gweld oddeutu 30% o’r gweithle yn gweithio o bell yn rheolaidd”.  Hefyd, mae’r Llywodraeth yn “edrych ar sut y gellid creu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell o fewn y gymuned, o fewn pellter cerdded neu feicio i gartrefi nifer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru”.

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI) wedi awgrymu y dylai gweithio o bell gael ei gymell os yw cyflogeion yn dymuno gwneud hyn. Mae Chwarae Teg yn galw am seilwaith i gefnogi gweithio gartref, megis Technoleg Gwybodaeth a band eang priodol. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod y rhai a gymerodd ran yn nhrafodaethau bord gron Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd parhau i weithio gartref yn helpu i leihau allyriadau carbon, a gall helpu i ehangu cyfranogiad yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi bod angen ystyried yr heriau y mae gweithio gartref yn eu creu i rai grwpiau, fel straen ac ynysigrwydd cymdeithasol. Awgrymodd y cyfranogwyr y gellid darparu canolfannau cymunedol i alluogi rhagor o bobl i weithio’n agosach i’w cartref, tra bod Sefydliad Bevan yn awgrymu adleoli gweithleoedd yn nes at gartrefi.

Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyflogwyr ledled Cymru i gadw’r arferion gweithio hyblyg sydd wedi datblygu dros y cyfyngiadau symud, gan ei fod o’r farn bod y rhain wedi bod yn fuddiol i weithwyr a chyflogwyr dros y misoedd diwethaf.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol o’r farn y dylid ymchwilio i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, ac y dylai Llywodraeth Cymru drafod tystiolaeth o Seland Newydd a’r Almaen. Fodd bynnag, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru o’r farn nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi symud i wythnos waith pedwar diwrnod, gan nad yw’n glir a fyddai symud i oriau gwaith byrrach yn gwella cynhyrchiant.

Gwaith teg

Dywedodd yr Athro Ewart Keep o Brifysgol Rhydychen wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Mehefin bod gwaith teg ac ansawdd swyddi yn heriau penodol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, gan nodi:

One of the things that really worries me is the impact on job quality, and that has a skills component, because I can see a lot of employers looking at the labour market and thinking, ‘Well, things are very uncertain—I want more labour by the hour, I want more precarious, insecure, zero-hours contracts, because that actually financially will suit me.’ But that’s the kind of employment contract that almost guarantees that learning and structured learning opportunities will not be available to those staff.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gweithwyr allweddol yn parhau i gael eu hystyried yr un mor bwysig ar ôl yr argyfwng ag y maent ar hyn o bryd, ac y dylid eu gwobrwyo’n ddigonol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu taliad untro o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol, ac mae’n cynllunio i ychwanegu at gyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol os gofynnir iddynt hunanynysu.

Mae Sefydliad Bevan yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd nifer o gamau i gefnogi’r gweithlu drwy ddarparu gwaith tecach, gan gynnwys

  • Creu swyddi neu gyfleoedd dysgu i’r holl oedolion sydd o oedran gweithio; ac
  • Ymestyn y contract economaidd, monitro a gorfodi ymrwymiadau cryfach ar gyflogwyr ynghylch cyflogau, tâl salwch a gwaith hyblyg.

Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC) wedi pwysleisio ei barn y dylai swyddi newydd a grëir fodloni’r nodweddion gwaith teg a nodir yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg – sef gwobr deg; llais i gyflogeion a chynrychiolaeth gan undebau llafur; diogelwch swyddi a hyblygrwydd; cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a dilyniant; gweithleoedd diogel a chynhwysol; a pharch a gweithredu hawliau cyfreithiol.

Mae Chwarae Teg wedi galw am i’r Cyflog Byw gwirfoddol gael ei ehangu, gan awgrymu y byddai ei dalu ar draws y sector cyhoeddus a chaffael cyhoeddus yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau. Mae UNSAIN Cymru hefyd wedi dweud y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol gael o leiaf £10 yr awr i fynd i’r afael â chyflog isel systemig a thlodi mewn gwaith.

Mae Reset Cymru yn galw am i Incwm Sylfaenol Cyffredinol gael ei gyflwyno i fynd i’r afael â materion fel tlodi, awtomeiddio a cholli swyddi. Mae Chwarae Teg a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN) yn credu y gallai treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol helpu i gynyddu mynediad at y farchnad lafur. Fodd bynnag, fel y mae Sefydliad Bevan yn pwysleisio, mae cwestiynau ynghylch costau, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i ddarparu Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

Lleoedd

Mae lleoedd ledled Cymru wedi gweld effeithiau economaidd y pandemig mewn ffyrdd gwahanol, a byddwn yn nodi’r data diweddaraf ar hyn mewn erthygl yn y dyfodol. Mae Sefydliad Bevan yn awgrymu y dylai buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn adferiad economaidd flaenoriaethu Cymru Wledig a’r Cymoedd, gan mai dyma yw’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Mae Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn dadlau bod effaith y pandemig ar y Cymoedd wedi bod yn anghymesur, ac mae’n galw am waith ‘lefelu i fyny’ i fod:

…at the heart of a radical recovery agenda if it is to address the pre-existing social and economic injustices in poorer communities whilst also laying the foundations for a more resilient and balanced economy in the aftermath of the COVID-19 crisis.

Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi galw am newidiadau i bolisi bwyd a ffermio i helpu’r Gymru wledig i adfer yn economaidd, gan gynnwys mesurau i gefnogi sefydlogrwydd, cynhyrchiant a’r amgylchedd. Mae o’r farn y dylai dull Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ystyried rôl ffermio ym maes twristiaeth, cynhyrchu bwyd a diod, a chynnal cymunedau gwledig.

Canolfannau trefol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi canolfannau trefi drwy ddarparu cyllid drwy’r rhaglen Trawsnewid Trefi i gynorthwyo adferiad economaidd drwy addasu cynlluniau canol trefi i hybu masnachu a diogelwch y cyhoedd. Yn ogystal, mae wedi ariannu costau cynnal Ardaloedd Gwella Busnes yn ystod y pandemig i’w helpu i fod mewn sefyllfa i hyrwyddo ymdrechion i adfer.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw am ailffocysu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi i helpu i ail-lunio trefi i chwarae rhan wahanol yn yr adferiad, ac i ganiatáu i drefi ddatblygu gweledigaeth o’u dyfodol.  Mae’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru wedi awgrymu bod angen rhoi mwy o sylw i integreiddio gwasanaethau, mannau agored a hamdden. Nododd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ynghylch trafodaethau bord gron Llywodraeth Cymru ar adferiad fod cyfranogwyr yn cefnogi ailgynllunio canol trefi a strydoedd i hyrwyddo teithio llesol.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru yn nodi bod dirwasgiadau blaenorol wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol:

Past recessions show the impact of joblessness is deeply uneven. Heb ymyrraeth ar unwaith, bydd anghydraddoldebau cyn argyfwng ar draws cenhedloedd, rhanbarthau, rhyw a hil yn gwaethygu.

Mae adroddiad yr Athro Emmanuel Ogbonna ar gyfer y Grŵp Cynghori Arbenigol BAME ar COVID-19 yn cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd sy’n wynebu gweithwyr BAME, gan gynnwys creu cynllun prentisiaeth ‘swyddi gwyrdd’ wedi’i anelu at weithwyr BAME a gweithwyr ifanc, prosesau recriwtio dienw a phaneli cyfweld amrywiol. Dywedodd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r rhwystrau i weithwyr BAME sy’n ceisio cael mynediad at waith teg, diogel a sicr yn ei chynllun cydraddoldeb hiliol sydd ar ddod.

Mae Chwarae Teg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd ar sail rhyw drwy fabwysiadu dull ffeministaidd at adferiad economaidd, sy’n ystyried rhyngadrannau anghydraddoldebau. Mae cynigion Chwarae Teg a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn cynnwys ehangu a buddsoddi mewn gofal, arallgyfeirio’r economi a buddsoddi mewn modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol, a chreu asiantaeth ailstrwythuro economaidd.

Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar o’r farn bod perygl y bydd y pandemig yn ehangu’r ‘bwlch cyflogaeth’ rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y ddyletswydd ar Gyrfa Cymru i ddarparu cyngor arbenigol i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac i sicrhau bod Prentisiaethau Cynhwysol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth wedi’i dargedu at bobl ifanc fyddar.

Beth nesaf?

Gallwch wylio cyfarfodydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Senedd TV. Pan fydd y Pwyllgor wedi gorffen cymryd a dadansoddi’r dystiolaeth, bydd yn llunio adroddiad sy’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran adferiad economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ei strategaeth ar gyfer ailadeiladu economaidd, a bydd yn cyhoeddi ei hymateb i’r syniadau a godwyd dros y misoedd diwethaf yn yr ymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol.


Erthygl gan Gareth Thomas a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: