Beth mae’r Bil Marchnad Fewnol yn ei olygu i Gymru a beth sydd y tu ôl i’r penawdau?

Cyhoeddwyd 23/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 10 Medi cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Mae’r Bil yn un o Filiau mwyaf arwyddocaol yn gyfansoddiadol yn y broses Brexit a bydd ei effeithiau yn para ymhell y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio.

Mae’r Bil yn gwneud tri pheth allweddol:

  • Sefydlu rheolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau ledled y DU;
  • Rhoi pwerau cyllido i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig a chadw pwerau dros reoli cymhorthdal i Senedd y DU; a
  • Rhoi pwerau i Weinidogion y DU basio rheoliadau mewn perthynas â Phrotocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon sy’n datgymhwyso rhannau o Gytundeb Ymadael y DU-UE.

Bydd y Bil yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y bydd y Senedd a deddfwrfeydd eraill yn y DU yn pasio deddfau yn y dyfodol. Mae ein crynodeb o’r Bil yn edrych ar sut y bydd y Bil yn effeithio ar Gymru, ei ddarpariaethau allweddol ac ymatebion iddo.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru