Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Strategaeth ofodol newydd i Gymru

Cyhoeddwyd 25/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Senedd yn trafod Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) cyntaf Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth 29 Medi 2020.

Mae'r erthygl hon yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a lincs i’r prif ddogfennau.

Beth yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a pham mae’n bwysig?

Strategaeth ofodol genedlaethol newydd ar gyfer cyfnod o ugain mlynedd yw’r FfDCh. Mae’n cyflwyno polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol ac enw’r strategaeth yw ‘Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040’.

Mae’n ddogfen bwysig oherwydd bod ganddi statws ‘cynllun datblygu’.

Ystyr hynny yw bod yn rhaid i benderfyniadau cynllunio gydymffurfio â’r FfDC, a rhaid i gynlluniau eraill, fel Cynlluniau Datblygu Strategol (nad ydynt wedi’u cyflwyno eto) a Chynlluniau Datblygu Lleol, gyd-fynd ag ef.

Nid oedd gan ei ragflaenydd, sef Cynllun Gofodol Cymru, statws cynllun datblygu.

Mae’n ofynnol, o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, cyhoeddi FfDC a rhaid ei adolygu bob pum mlynedd o leiaf.

Caiff ei ystyried ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru - a bydd ar frig hierarchaeth polisïau cynllunio.

Sut y bydd y Senedd yn craffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod yr FfDC drafft gerbron y Senedd a chaniatáu cyfnod o 60 o ddiwrnodau ar gyfer y gwaith o graffu ar ei gynnwys. Rhaid cyflwyno adroddiad ar y cyd â’r FfDC a hwnnw’n crynhoi’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ac yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hystyried.

Gosododd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yr FfDC drafft ac adroddiad yr ymgynghoriad gerbron y Senedd ar 21 Medi ac, wrth wneud hynny, dechreuodd y cyfnod o 60 diwrnod.

Yn ei datganiad, dywedodd y bydd y Fframwaith yn “helpu i sicrhau datgarboneiddio, ecosystemau cydnerth a chynhwysol, a thwf economaidd teg.”

Hefyd, cyhoeddodd nifer o ddogfennau eraill gan gynnwys dogfen yn cynnwys newidiadau i’r Fframwaith drafft a ymgynghorwyd yn ei chylch yn 2019 a dogfen yn esbonio sut y bydd yr FfDC yn cael ei fonitro.

Ni all y Senedd ‘gymeradwyo' FfDC. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhellion a wneir gan y Senedd, neu gan unrhyw un o'i bwyllgorau, wrth benderfynu a ddylid diwygio'r FfDC drafft. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â'r FfDC terfynol sy’n amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Senedd.

Llywodraeth Cymru a gyflwynodd y ddadl a gaiff ei chynnal yn y Senedd ar 29 Medi.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd yn bwriadu cynnal sesiwn graffu gyda’r Gweinidog ar 15 Hydref a sesiwn casglu tystiolaeth gyda rhanddeiliaid ar 5 Tachwedd.

Yna, bydd dadl arall yn y Senedd (y dyddiad i’w gadarnhau), a gyflwynir gan y Pwyllgor y tro hwn, a bydd cyfle i Aelodau o’r Senedd drafod canfyddiadau’r Pwyllgor.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r FfCD terfynol ym mis Chwefror 2021.

Beth yw’r prif bolisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?

Mae’r polisïau yn yr FfDC drafft yn cynnwys:

  • tair ‘Ardal Dwf Genedlaethol’ lle bydd twf sylweddol ym maes cyflogaeth a thai, a buddsoddi mewn seilwaith:
    • Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd;
    • Bae Abertawe a Llanelli; a
    • Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
  • tair ‘Ardal Dwf Ranbarthol’ i gyd-fynd â’r Ardaloedd Twf Cenedlaethol:
    • y De-orllewin
    • y Canolbarth
    • y Gogledd.
  • pedwar rhanbarth, a Chynllun Datblygu Strategol ar gyfer pob un;
  • nifer benodol o gartrefi newydd i’w codi ym mhob rhanbarth erbyn 2039 (amcangyfrif yw’r niferoedd hyn, yn seiliedig ar y data cyffredinol. Nid yw’n ofynnol cadw at y niferoedd hyn ac nid targedau ydynt):
    • Y Gogledd - 16,200;
    • Y Canolbarth – 1,800
    • Y De-orllewin – 26,600
    • Y De-ddwyrain - 66,400
  • bydd 48% o gartrefi newydd yn dai fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd gyntaf;
  • rhoi canol trefi yn gyntaf, llywio twf ac adfywio trefol drwy greu lleoedd a drwy ddatblygu arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus ;
  • gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol;
  • hybu cynlluniau ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel ar raddfa eang ac ar raddfa fach;
  • hybu cyfathrebu digidol;
  • rheoli peryglon llifogydd
  • hybu cymunedau gwledig a’r economi wledig.
  • datblygu coedwig genedlaethol, parc rhanbarthol y Cymoedd; lleiniau glas a rhwydweithiau ecolegol a seilwaith gwyrdd cydnerth.

Sut fydd 'map' yr FfDC yn edrych?

Dyma ddiagram strategol o’r FfDC:

Sut y cafodd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ei ddatblygu?

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu’r FfDC yn 2016. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llinell amser yn dangos y gwahanol gamau sy'n gysylltiedig â datblygu'r FfDC. Mae hyn yn cynnwys:

  • datblygu Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd (Ionawr – Medi 2016);
  • casglu tystiolaeth ac ymgymryd â gwaith ymgysylltu i ddatblygu gweledigaeth, amcanion a dewisiadau ar gyfer yr FfDC (Hydref 2016 - Mawrth 2018);
  • cyhoeddi ac ymgynghori ynghylch materion, dewisiadau a'r dewis a ffefrir o ran yr FfDC, gyda chymorth asesiadau ac adroddiadau amgylcheddol (Ebrill 2018 – Gorffennaf 2018);
  • trafod ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch y dewis a ffefrir a pharatoi'r FfDC drafft (Gorffennaf 2018 - Awst 2019);
  • ymgynghori ynghylch yr FfDC drafft, trafod ymatebion a pharatoi adroddiad yr ymgynghoriad (Awst 2019 - Mehefin 2020);
  • y Senedd i drafod yr FfDC drafft a’r newidiadau arfaethedig (Medi – Tachwedd 2020);
  • cyhoeddi'r FfDC terfynol (Medi 2020).

Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar y Fframwaith hyd yma?

Trafododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr FfDC a’r dewis a ffefrir yn un o’i gyfarfodydd ym mis Mehefin 2018. Yna, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog (PDF, 157KB) yn gofyn iddi egluro amrywiaeth o faterion. Ymatebodd y Gweindog (PDF, 351KB) ym mis Medi 2018.

Yna, ddiwedd 2019, trafododd y Pwyllgor yr FfDC drafft, gan gynnwys sesiynau tystiolaeth ar 24 Hydref, 6 Tachwedd a 14 Tachwedd. Roedd adroddiad y Pwyllgor (PDF, 1MB), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn cynnwys 50 o gasgliadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i gasgliadau’r Pwyllgor wedi’i gynnwys yn adroddiad yr ymgynghoriad a osodwyd ar 21 Medi.

Trafododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr FfDC drafft hefyd, a hynny ym mis Tachwedd 2019, ac ysgrifennodd at y Gweinidog. Unwaith eto, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn adroddiad yr ymgynghoriad.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd bapur ymchwil i gynorthwyo’r Pwyllgorau i graffu ar y Fframwaith drafft.

Cafodd Ludi Simpson, Athro Astudiaethau Poblogaeth ym Mhrifysgol Manceinion, ei chomisiynu o dan Gynllun Cymrodoriaeth Ymchwil y Senedd , i adolygu nifer y tai roedd yr FfDC drafft yn amcangyfrif yr oedd eu hangen.

Sut y mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft wedi newid o ganlyniad i’r gwaith craffu?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 47 o 50 o’r argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a derbyniodd y ddau arall mewn egwyddor. Derbyniodd un casgliad yn rhannol a gwrthododd y ddau arall.

Mae’r newidiadau sylweddol yn yr FfDC drafft sy’n cyd-fynd â chasgliadau’r Pwyllgor yn cynnwys y canlynol:

  • cysylltiadau cliriach â dogfennau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cynllun Carbon Isel Cymru, y Strategaeth Drafnidiaeth a Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru;
  • cynnwys rhagor o fanylion am y modd y caiff yr FfDC ei fonitro a’i adolygu;
  • cryfhau’r FfDC o ran yr ymateb i’r newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, drwy gynnwys polisi newydd ar reoli peryglon llifogydd; a
  • rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio meini prawf wrth ystyried datblygiadau ynni adnewyddadwy.

Roedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’n credu nad oedd yr FfDC drafft yn ddigon uchelgeisiol, ond gwrthododd Llywodraeth Cymru yr asesiad hwn yn bendant gan ddweud bod yr FfDC yn cynnwys polisïau “i’w gwneud yn bosibl i welliannau radical gael eu gwneud i olwg lleoedd a’r ffordd y maent yn gweithredu”.

Cytunodd Llywodraeth Cymru nad oedd digon o gynnydd ar lefel ranbarthol gan ddweud y bydd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn ei gwneud yn orfodol paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd â sylwadau’r Pwyllgor ar gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru a rhwng Cymru a mannau eraill.

Roedd yn well gan y ddau Bwyllgor rannu Cymru yn bedwar rhanbarth yn hytrach na’n dri, fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Cytunodd y Llywodraeth â hyn.

Bydd y broses graffu dros yr wythnosau nesaf yn sicr yn amlygu i ba raddau y mae’r newidiadau hyn wedi’u cynnwys yn yr FfDC diwygiedig.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru