Mae angen 'newidiadau systemig ar raddfa eang' i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 02/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae effaith anghyfartal y pandemig yn amlwg yn yr effaith anghymesur y mae’n ei chael ar grwpiau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Ond yn aml iawn, mae gwraidd yr effeithiau hyn yn yr anghydraddoldebau hirdymor a hirsefydlog hynny y mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi tynnu sylw atyn nhw nhw ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y Senedd yn trafod y materion hyn ddydd Mawrth 6 Hydref, yn ystod wythnos gyntaf Mis Hanes Pobl Dduon.

Effaith y pandemig

Yn ôl gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru:

  • mae cyfraddau marwolaeth sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn anghymesur o uchel ymhlith pobl o gefndiroedd Du, Bangladeshaidd, Pacistanaidd ac Indiaidd;
  • mae hanner y gweithwyr Bangladeshaidd, Du Affricanaidd, Du Caribïaidd a Du Prydeinig yn gweithio mewn rolau allweddol;
  • mae pobl o grwpiau BAME yn llawer mwy tebygol o weithio mewn swyddi risg uchel, gan gynnwys gyrwyr tacsis (40 y cant) a gweithwyr gofal iechyd (11 y cant);
  • mae pobl o grwpiau BAME yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn sectorau a orfodwyd i gau yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol;
  • Mae Sipsiwn/Teithwyr Gwyddelig, pobl o gefndiroedd Bangladeshaidd, Du ac Arabaidd yn llawer mwy tebygol o fyw mewn tai gorlawn, ac
  • mae'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw o’r feirws na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roedd bron i 11 y cant o'r bobl sy'n byw yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dod o gefndir Pobl Dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig – sy’n fwy na dwbl cyfran y grwpiau hyn yn y boblogaeth gyffredinol.

Grŵp Cynghorol BAME y Prif Weinidog

Sefydlodd y Prif Weinidog Grŵp Cynghorol BAME i gynghori ar effaith anghyfartal y pandemig. Mae'r grŵp wedi ymgymryd â gwaith amrywiol, gan gynnwys:

  • cynhyrchu adnodd asesu risg ar gyfer y gweithlu ym mis Mai i helpu pobl sy'n gweithio yn y GIG a gofal cymdeithasol i ddeall eu ffactorau risg, sydd bellach wedi'i gyflwyno i sectorau eraill;
  • casglu tystiolaeth am effaith bosibl COVID-19 ar bobl o grwpiau BAME, a
  • chyhoeddi adroddiad manwl ac argymhellion gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ar y ffactorau economaidd-gymdeithasol sy'n cyfrannu at effaith anghymesur y feirws ar bobl o grwpiau BAME. Mae'r adroddiad yn ymdrin ag ystod o faterion gan gynnwys: data, asesiadau risg, hiliaeth, cyfathrebiadau iechyd cyhoeddus, addasrwydd diwylliannol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth, tai, ymfudo, trais, anghydraddoldeb systemig, a mwy.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae adroddiad yr Athro Ogbonna yn un sobreiddiol a phwerus – mae’n sôn am brofiadau go iawn o hiliaeth, ac am ddiwylliant o wahaniaethu hiliol ac anghydraddoldebau strwythurol sydd i’w gweld yng Nghymru heddiw. Byddwn yn defnyddio’r profiadau a’r dystiolaeth sydd ynddo […] fel sail i’n gwaith wrth inni geisio sefydlu’r newidiadau systemig ar raddfa eang sydd eu hangen er mwyn creu’r Gymru gyfartal y mae pob un ohonom am fod yn rhan ohoni.

Dechreuodd Llywodraeth Cymru weithio ar gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol cyn y pandemig, a dywedodd y bydd yn cael ei gyhoeddi “cyn diwedd tymor y Senedd hon”.

Yn 2019, ymrwymodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, i fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb ar sail hil, ac i “ailrymuso ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu (ICERD).”

Roedd llywodraethau blaenorol Cymru hefyd wedi cyhoeddi strategaethau cydraddoldeb hiliol gan gynnwys: y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol cyntaf [ddim ar-lein] 2002, a'r ail Gynllun Cydraddoldeb Hiliol 2005-08 [archifwyd]. Ar ôl 2009, unwyd y cynlluniau hil, rhywedd ac anabledd unigol yn un cynllun cydraddoldeb. Hefyd, cyhoeddwyd dwy strategaeth benodol ar dai - y Cynllun Gweithredu Cymru ar Dai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn 2002, a’r Cynllun Gweithredu ar Dai ym maes Cydraddoldeb Hiliol 2008-11 [ddim ar-lein].

Ym mis Medi 2020, yn ei hymateb i adroddiad yr Athro Ogbonna, dywedodd Llywodraeth Cymru yn glir ei bod yn “amser i weithredu”, ac na fyddai’n aros i’r cynllun cydraddoldeb hiliol newydd gael ei gwblhau cyn dechrau ar y gwaith. Cyfeiriodd y Llywodraeth at nifer o fesurau y mae wedi'u cymryd hyd yn hyn (cafodd rhai ohonynt eu hargymell yn adroddiad yr Athro Ogbonna) gan gynnwys:

  • Sefydlu'r gweithgor 'Cymunedau, cyfraniadau a chynefin‘ i gynghori ynghylch addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y cwricwlwm cyfan, a gwella’r gwaith addysgu hwnnw;
  • cyllid i ddarparu'r llinell gymorth BAME fel cynllun peilot chwe mis o hyd;
  • cwmpasu Uned Anghytuno Hiliol yn y Llywodraeth;
  • adolygu'r pecyn hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol mewn gwasanaethau iechyd;
  • cyfieithu deunyddiau cyfathrebu iechyd y cyhoedd ‘Diogelu Cymru’ i 36 o ieithoedd;
  • bwrw ymlaen â'r strategaeth penodiadau cyhoeddus, sy'n cynnwys datblygu “rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth ar lefel uchel ar gyfer Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.”

Gwaith craffu

Cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd ei adroddiad ar effaith y pandemig ar anghydraddoldeb ym mis Awst, ac ymatebodd Llywodraeth Cymru i’w argymhellion ym mis Medi.

Data ethnigrwydd

Adleisiodd y Pwyllgor bryderon yr Athro Ogbonna ynghylch problemau gyda chasglu data ethnigrwydd, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i “wella’r prosesau ar gyfer casglu a chyhoeddi data ar achosion coronafeirws a chanlyniadau iechyd wedi'u dadgyfuno yn ôl rhyw, ethnigrwydd, anabledd a statws gweithiwr allweddol [gan gynnwys] nodi dulliau casglu amgen a ffynonellau data newydd.”

Yn adroddiad yr Athro Ogbonna dywedir “yn sgil COVID-19, mae'r ffaith nad oes unrhyw ddata ethnigrwydd, neu ei fod o ansawdd gwael, wedi arwain at wneud penderfyniadau iechyd gwael, ac mae cymunedau BAME yn wynebu mwy o risg o ddal y clefyd a marw ohono.” Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y broblem hon, ac wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â hi.

Canfu'r Athro Ogbonna hefyd nad oedd y wybodaeth am farwolaethau COVID-19 a gofnodwyd i ddechrau ar gyfer achosion mewn ysbytai a gadarnhawyd drwy e-ffurflen gwyliadwriaeth Porth Clinigol Cymru yn cynnwys unrhyw ddata ethnigrwydd. Er yr ychwanegwyd ethnigrwydd at y ffurflen ym mis Mai, dim ond mewn dau o bob tri achos y mae'r maes hwn wedi cael ei gwblhau.

Yn ôl yn 2005, roedd yr Ail Gynllun Cydraddoldeb Hiliol wedi ymrwymo i ddatblygu argymhellion o Raglen Ymchwil ASERT Iechyd Cymru i wella polisïau a rhaglenni hybu iechyd (tudalen 44). Roedd y Rhaglen Ymchwil yn amlygu’r materion yn ymwneud â chasglu data am ethnigrwydd mewn gwasanaethau iechyd, a gwnaeth ystod o argymhellion (tudalen 29) gan gynnwys:

  • cynhyrchu strategaeth deallusrwydd iechyd i benderfynu ar y cwmpas ar gyfer casglu data ethnigrwydd a phroffilio’r boblogaeth, a
  • gosod targedau ar gyfer cyflawnrwydd, o ystyried anghyflawnder sylweddol y codio ethnig ar Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru o ystadegau am gyfnodau mewn ysbytai.

Cyflogaeth a thlodi

Yn y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor, cyfeiriwyd at enghreifftiau o hiliaeth a rhagfarn mewn penderfyniadau cyflogaeth, gan gynnwys yn y GIG. Canfu'r Pwyllgor hefyd fod pobl sydd eisoes yn cael y lefelau isaf o incwm mewn mwy o berygl o golli incwm o ganlyniad i'r pandemig.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymgyrch gynhwysfawr i hybu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau a gwella’r wybodaeth sydd ar gael am hawliau cyflogaeth.

Yn ei hymateb, tynnodd y Llywodraeth sylw at ei chyllid ar gyfer cynllun peilot y llinell gymorth BAME, a’r £800,000 o gyllid a ymrwymwyd ar gyfer gweithgareddau gwneud y mwyaf o incwm, a anelwyd at dri grŵp blaenoriaeth sef aelwydydd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, aelwydydd â phlant neu oedolion anabl, ac aelwydydd sydd mewn cyflogaeth â chyflog isel.

Ailadroddodd y Pwyllgor ei alwad am strategaeth lleihau tlodi ar gyfer y llywodraeth gyfan,y bu’n galw amdani ers 2017. Gwnaeth argymhellion hefyd ynglŷn ag asesiadau effaith cydraddoldeb, cyrhaeddiad addysgol, anghydraddoldebau iechyd, troseddau casineb, ymfudo a gofalwyr.

Maniffesto Cynghrair Hil Cymru

Ar 30 Medi cyhoeddodd Cynghrair Hil Cymru (grŵp newydd o 41 o sefydliadau a 99 o unigolion) faniffesto dros Gymru wrth-hiliol yn cynnwys 10 cam i wneud Cymru yn wlad wrth-hiliol, bron i 70 o argymhellion unigol, a thri argymhelliad cyffredinol:

Cydnabod bodolaeth Hiliaeth Systemig – Dylai Llywodraeth Cymru gydnabod mewn modd mwy penderfynol fod anoddefiad hiliol, ethnig a chrefyddol yn ffenomen systemig a sefydliadol; ei fod wedi cynyddu yn sgil Brexit, a’i fod yn tanseilio’r posibilrwydd y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw mewn Cymru sy’n amrywiol, yn ddiogel ac yn gydlynol. Amlygwyd hyn yn noethlwm gan Bandemig Cofid19 a’r ymatebion diweddar i fudiad Mae Bywydau Duon o Bwys.

Mesur Anghydraddoldeb Hiliol – Gwella’r modd y mae data ethnig yn cael eu casglu, eu monitro a’u defnyddio mewn polisi ac yn ymarferol; gwella amrediad a chwmpas y data wedi’u dadgyfuno sydd ar gael ar ethnigrwydd – gan gynnwys data croesdoriadol; sefydlu Uned Gwahaniaethu ar sail Hil yn Llywodraeth Cymru

Cynllun Dros Gydraddoldeb Hiliol – Dylai Llwyodraeth Cymru sicrhau cynnydd cyflym yn ei hymrwymiad i ddatblygu cynllun cydraddoldeb hiliol strategol, gan fynd i’r afael â’r meysydd allweddol a amlinellir yn y ddogfen hon mewn modd systematig, cydgysylltiedig a hirdymor, a chynnwys targedau diamwys a deilliannau mesuradwy sy’n delio â Hiliaeth, Addysg, Swyddi, Cynrychiolaeth, Iechyd a Chartrefi.

Profiadau plant

Cyhoeddodd y Comisiynydd Plant adroddiad ar COVID-19 a phrofiadau plant o grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yng Nghymru.

Canfu'r ymchwil ganlyniadau ystadegol arwyddocaol a oedd yn dangos bod y pandemig wedi cael effaith negyddol anghymesur ar blant a phobl ifanc BAME o'u cymharu â phlant a phobl ifanc Gwyn Cymreig neu Brydeinig.

Roedd rhai o'r materion a godwyd gan yr ymchwil yn cynnwys: diogelwch bwyd; cadw'n iach ac yn actif; diogelwch gartref; iechyd meddwl a lles emosiynol; addysg a mynediad at dechnoleg, a mynediad at wybodaeth.

***

Gellir gwylio dadl y Senedd ar Senedd.tv ddydd Mawrth 6 Hydref.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru