Y camau nesaf ar gyfer prisio carbon yng Nghymru a'r DU - y cynigion i ddisodli System Masnachu Allyriadau'r UE (EU ETS)

Cyhoeddwyd 09/10/2020   |   Amser darllen munudau

Cafodd y papur hwn ei baratoi gan Joshua Burke o Sefydliad Ymchwil Grantham ar Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain o dan Gytundeb Fframwaith Academaidd Brexit y Gwasanaeth Ymchwil. O dan y Fframwaith, bydd arbenigwyr yn darparu gwasanaethau ymchwil a chyngor i Gomisiwn y Senedd mewn perthynas â Brexit i ategu gwaith y Gwasanaeth Ymchwil.

System Masnachu Allyriadau'r UE (EU ETS) yw'r system ryngwladol fwyaf ar gyfer masnachu lwfansau nwyon tŷ gwydr ac mae'n gweithredu yn y 27 o wledydd yn yr UE ynghyd â Gwlad yr Iâ, Lichtenstein a Norwy. Mae'r cynllun yn cyfyngu ar allyriadau mwy nag 11,000 o ddefnyddwyr ynni trwm gan gynnwys gorsafoedd pŵer a gweithfeydd diwydiannol. Mae'n cwmpasu tua 45 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr yr UE. Ar hyn o bryd mae'r DU yn gweithredu system prisio carbon hybrid ac mae’n rhan o System Masnachu Allyriadau’r UE a hefyd yn codi trethi carbon domestig. Bydd y DU yn parhau i gymryd rhan yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r yr UE tan ddiwedd y cyfnod pontio.

Mae'r papur (PDF 963KB) hwn yn ystyried cynigion Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ar gyfer disodli System Masnachu Allyriadau’r UE unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE ar ddiwedd 2020.

 


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru