Adolygu a diwygio proses y gyllideb

Cyhoeddwyd 13/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Senedd yn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar broses y gyllideb ddeddfwriaethol ar 14 Hydref 2020.

Mae'r erthygl hon yn rhoi crynodeb byr o brif argymhellion adroddiad terfynol y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Proses y gyllideb: cefndir byr

Rhoddodd Deddf Cymru 2014 bwerau i'r Senedd dros:

  • treth dir y dreth stamp
  • treth tirlenwi; a
  • y pŵer i amrywio cyfradd y dreth incwm yng Nghymru hyd at 10 pwynt canran

Roedd y Ddeddf hefyd yn rhoi’r pwerau a ganlyn i Lywodraeth Cymru:

  • pwerau benthyca tymor byr ehangach; a
  • phwerau newydd i fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf.

Yn 2017, cytunodd y Senedd a Llywodraeth Cymru ar brotocol cyllideb gyfer yr egwyddorion sy'n sail i broses bresennol y gyllideb. Ar hyn o bryd, awdurdodir cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru drwy gynnig cyllideb a chytunir ar gyfraddau treth drwy benderfyniad.

A oes angen i broses y gyllideb newid?

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gweithio i wella’r gwaith craffu ariannol drwy gydol y Senedd hon. Fel rhan o'r gwaith hwn, credai'r Pwyllgor ei bod yn bryd adolygu proses y gyllideb a cheisiodd ddysgu o arfer gorau rhyngwladol. Roedd hyn yn cynnwys profiad diweddar o waith diwygio yn yr Alban, o dan arweiniad Grŵp Adolygu Prosesau'r Gyllideb (BPRG). Canfu adroddiad y Grŵp bedwar nod allweddol ar gyfer gweithredu proses gyllideb ddeddfwriaethol;

  • cael mwy o ddylanwad dros lunio'r gyllideb;
  • gwella tryloywder a gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gyllideb;
  • ymateb yn effeithiol i heriau polisi cyllidol ac ehangach newydd; ac
  • arwain at well allbynnau a chanlyniadau fel y cânt eu mesur yn erbyn meincnodau ac amcanion datganedig.

Beth ganfu’r Pwyllgor?

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cael deddfwriaeth flynyddol i basio cyllideb Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai'r Senedd yn pleidleisio ar fil cyllideb neu gyllid a'i gymeradwyo.

Cydnabu'r Pwyllgor, yn ogystal ag ystyried sut y byddai deddfwriaeth o'r fath yn cael ei sefydlu, y byddai angen adolygiad manwl o broses ehangach y gyllideb ar gyfer hyn. Rhaid i unrhyw broses newydd sicrhau bod egwyddorion symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd wrth wraidd ei datblygiad.

Yn seiliedig ar brofiad yn yr Alban ac mewn mannau eraill, byddai'n well cynnal adolygiad o'r fath gan grŵp adolygu annibynnol, gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd AS, yn nodi;

Mae’r Pwyllgor o’r farn bod y dull a gymerwyd yn yr Alban, lle daeth arbenigwyr a rhanddeiliaid ynghyd i adolygu’r broses a chytuno ar ffordd ymlaen, yn rhywbeth y gallwn ddysgu ohono yng Nghymru.

Byddai hyn yn caniatáu barn gytbwys ar faterion fel:

  • a ddylid cael bil cyllid neu gyllideb;
  • sut y gellir cynnwys y cyhoedd yn y broses o bennu cyllideb a blaenoriaethau; a
  • sut y byddai'r broses yn newid gwaith craffu ariannol ehangach yn y Senedd.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad y byddai proses gyllideb ddeddfwriaethol yn “adlewyrchu aeddfedrwydd y Senedd yn well,” gan ddweud:

Bydd gwneud y newidiadau hyn yn cryfhau rôl Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn dilyn datganoli pwerau cyllidol.

Wrth benderfynu a fydd bwrw ati gyda gwaith ar broses cyllideb ddeddfwriaethol yn fater i'r Chweched Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru, mae'r adroddiad yn nodi cyfeiriad y gallai proses felly ei ddilyn.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Er nad yw Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'r hyn y mae'r Pwyllgor am ei weld o broses gyllidebol, ymatebodd drwy ddweud bod y broses bresennol yn rhoi digon o hyblygrwydd, y gellid ei leihau drwy broses ddeddfwriaethol. Ychwanegodd y llywodraeth "cyn gwneud diwygiadau o'r fath byddai angen nodi manteision ychwanegol clir nad ydynt ar gael yng nghyd-destun y broses bresennol".

Gallwch wylio’r ddadl ddydd Mercher 14 Hydref ar Senedd.tv


Erthygl gan Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru