Economi Plant a Phobl Ifanc Ystadegau

Diweithdra ymysg pobl ifanc

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn pryderu y gallai’r pandemig arwain at “genhedlaeth y cyfyngiadau” sy’n wynebu’r posibilrwydd o gael eu hallgáu o’r marchnadoedd llafur. Mewn dadl ym mis Gorffennaf, dywedodd nifer o Aelodau o'r Senedd eu bod yn pryderu y byddai diweithdra eang ymysg pobl ifanc yn arwain at 'genhedlaeth goll'. Yn ei dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rhybuddiodd yr Athro Ewart Keep o Brifysgol Rhydychen fod diweithdra ymysg pobl ifanc yn fygythiad enfawr i Gymru.

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

13 October 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn pryderu y gallai’r pandemig arwain at “genhedlaeth y cyfyngiadau” sy’n wynebu’r posibilrwydd o gael eu hallgáu o’r marchnadoedd llafur.  

Mewn dadl ym mis Gorffennaf, dywedodd nifer o Aelodau o’r Senedd eu bod yn pryderu y byddai diweithdra eang ymysg pobl ifanc yn arwain at ‘genhedlaeth goll’. Yn ei dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rhybuddiodd yr Athro Ewart Keep o Brifysgol Rhydychen fod diweithdra ymysg pobl ifanc yn fygythiad enfawr i Gymru.

Mae’r  Llywodraeth Cymru wedi cydnabody gallai pobl ifanc yn benodol gario’r baich o ddelio â’r coronafeirws gyda nhw drwy gydol eu bywydau gwaith, oni bai ein bod yn gweithredu”.

Mae’r erthygl hon yn ymdrin ag effaith economaidd y pandemig ar bobl ifanc hyd yma a’r effeithiau hirdymor a allai fod ynghlwm wrth ddiweithdra ymysg pobl ifanc, ar sail y cyfnodau o ddirwasgiad a gafwyd yn y gorffennol. Mae hefyd yn ystyried y polisïau y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith i geisio lleihau diweithdra ymysg pobl ifanc, ynghyd â chynigion a gafwyd yn ddiweddar gan sefydliadau anllywodraethol yn y DU.

‘Sectorau a gafodd eu cau’

Dros y ddegawd ddiwethaf mae pobl ifanc sy’n dechrau gweithio wedi cael eu cyflogi’n gynyddol mewn swyddi y mae’r coronafeirws wedi effeithio fwyaf arnynt, fel lletygarwch a’r sector manwerthu (heblaw bwyd).

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn yn dangos  bod pobl iau yn fwy tebygol o fod yn gweithio yn y ‘sectorau a gafodd eu cau’. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos menywod 16-24 oed; roeddd dros 40% o’r rhain yn cael eu cyflogi yn y ‘sectorau a gafodd eu cau’.

Ffigur 1: Canran y gweithwyr a gyflogwyd yn 2019 yn y ‘sectorau a gafodd eu cau,’ yn ôl rhyw ac oedran

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Y coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig

Pobl ifanc yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod ar ffyrlo  o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Ledled y DU, cafodd 47% o’r swyddi a oedd yn cael eu llenwi gan weithwyr 24 oed ac iau eu cynnwys yn y cynllun ffyrlo am ryw hyd rhwng 1 Mawrth a 30 Mehefin 2020, o’i gymharu â 32% o’r holl swyddi.

Ffigurau diweithdra

Yn unol â gweddill y DU, mae diweithdra ymysg pobl ifanc wedi cynyddu yng Nghymru yn ystod y pandemig ac mae’r effaith ar bobl ifanc wedi bod yn fwy nag ar grwpiau oedran eraill.

Y dangosydd mwyaf diweddar mewn perthynas â diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru yw’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau (er bod gan y ffigurau hyn eu cyfyngiadau ). Mae’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau’n cynnwys y rhai sydd naill ai’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu’n sy’n gorfod chwilio am waith er mwyn cael Credyd Cynhwysol.

Mae canran y bobl ifanc 18-24 oed yng Nghymru sy’n hawlio budd-daliadau wedi mwy na dyblu yn ystod y pandemig, gan gynyddu o 4.7% ym mis Mawrth 2020 i 9.5% ym mis Medi 2020.

Ffigur 2: Y ganran sy’n hawlio budd-daliadau yng Nghymru, yn ôl oedran, Ionawr 2020 – Medi 2020.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Proffil Marchnad Lafur Cymru NOMIS – Y nifer sy’n hawlio budd-dalidau, yn ôl oedran
Sylwch: Dim ond mewn rhai amgylchiadau y gall pobl dan 18 oed hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, felly’r ystod oed 18-24 sy’n tueddu i gael ei ddefnyddio fel y prif fesur wrth gyfrif y nifer sy’n hawlio budd-daliadau, yn hytrach na 16-24.

Effaith ‘y graith’

Yn ôl y Ganolfan Perfformiad Economaidd yn Ysgol Economeg Llundain, cafodd y tri dirwasgiad diweddaraf yn y DU cyn yr un presennol (ddechrau’r 1980au, ddechrau’r 1990au a’r argyfwng ariannol yn 2008) effaith anghymesur ar y rhai tlotaf, y rhai ieuengaf, y rhai â’r nifer leiaf o gymwysterau addysgol a lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r Athro Bell a’r Athro Blanchflower wedi tynnu sylw at y ffaith bod diweithdra ymysg pobl ifanc yn cael effeithiau parhaol ac yn gadael ‘craith’. Mae’r rhain yn effeithio’n arbennig ar berson ifanc sy’n ddi-waith yn y tymor hir:

Youth unemployment scars in two ways. First, for the young, a spell of unemployment does not end with that spell; it raises the probability of being unemployed in later years. Second, early spells of unemployment also carry a wage penalty. These effects are much larger than for older people experiencing unemployment

Mae’r IFS yn esbonio sut y gallai’r ‘graith’ effeithio ar bobl ifanc sy’n colli eu gwaith yn ystod y pandemig, gan nodi:

The COVID-19 pandemic has severely dented the career prospects of young people and threatens to have a prolonged negative economic impact on them as a result. Sharp contractions in shut-down sectors will make it harder for young people to take their first step onto the career ladder, while reduced job opportunities will make it harder for them to move into higher-paying occupations.

Mae’r Resolution Foundation yn tynnu sylw at y ffaith mai gweithwyr sydd â llai o gymwysterau sy’n debygol o gael eu taro galetaf, gan nodi bod dirwasgiad yn effeithio cryn dipyn mwy ar lefelau cyflogaeth a chyflog y gweithwyr hyn o’u cymharu â graddedigion. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad a ganlyn:

…the current crisis may reduce the employment chances of lower-skilled young adults leaving education by more than a third, even years down the line when the direct economic effects of the crisis will (hopefully) have abated.

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi tanlinellu effaith diweithdra ymysg pobl ifanc ar iechyd meddwl a lles, gan nodi bod pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn fwy tebygol o sôn am broblemau lles emosiynol na phobl ifanc eraill. Mae’r problemau hyn yn cynnwys anhapusrwydd, gorbryder, a diffyg hyder.

Ymateb y Llywodraeth

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa sgiliau a swyddi gwerth £40 miliwn. Dywedodd y byddai £20 miliwn o’r gronfa hon yn cael ei defnyddio i “gymell cyflogwyr i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid [a] chynyddu capasiti rhaglenni hyfforddeiaeth”. Bydd rhan o’r cyllid hwn hefyd yn cael ei defnyddio i greu ‘Cronfa Rhwystrau ‘i gynnig hyd at £ 2,000 i gynorthwyo pobl nad oeddent efallai wedi ystyried bod yn hunangyflogedig o’r blaen, yn enwedig merched, pobl ifanc, pobl o gymunedau BAME a phobl anabl.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu  £1.5 i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru  (CCAUC) i helpu graddedigion “i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl”. Mae CCAUC yn ymgynghori ynghylch y cynllun ar hyn o bryd. 

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Rishi Sunak AS, Canghellor y DU,  Gynllun ‘Kickstart’  a fydd ar waith yng Nghymru ac a fydd yn talu cyflogwyr yn uniongyrchol i greu swyddi newydd i unrhyw un rhwng 16 a 24 oed sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir. Os bydd busnesau’n bodloni gofynion penodol y cynllun, bydd y Trysorlys yn talu cyflogau pobl ifanc am chwe mis, ynghyd â swm i dalu costau cyffredinol.

Ar 6 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn dwyn y teitl, Ail-greu ar ôl Covid-19. Mae hwn yn cynnwys blaenoriaeth i:

sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd yn sgil effeithiau’r coronafeirws neu oherwydd unrhyw ddirywiad economaidd nad yw’n fai arnyn nhw.

Mae’r cyhoeddiadau newydd hyn yn ychwanegol at y rhaglenni cymorth cyflogadwyedd presennol, neu maent yn darparu cyllid ychwanegol iddynt, gan gynnwys:

Y ddadl ehangach yn y DU

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith, wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd fod y Sefydliad wedi bod yn dadlau o blaid gwarantu cyfleoedd i bobl ifanc. Byddai hyn yn cynnwys ehangu lleoedd mewn colegau, prifysgolion a chyrsiau hyfforddi ond byddai hefyd angen sicrhau bod y system sgiliau a’r system cyflogaeth yn wirioneddol gydgysylltiedig.

Mae Ymddiriedolaeth Sutton yn argymell bod Llywodraeth y DU yn neilltuo cyfran o gyllid cynllun Kickstart ar gyfer rhaglen i’w thargedu’n benodol at raddedigion, ac a fyddai’n talu am interniaethau gyda chyflogwyr graddedigion.

Mae’r  Resolution Foundation yn dweud bod cyngor a chymorth un i un yn ddull pwysig o flaenoriaethu. Fodd bynnag, oherwydd bod cyn lleied o swyddi gwag ar gael, mae’n nodi y bydd angen gwneud llawer mwy i osgoi lefelau uchel o ddiweithdra ymysg pobl ifanc.    Mae’r sefydliad yn tanlinellu bod llai o brentisiaethau ac, wrth lenwi’r rhain, y dylid rhoi blaenoriaeth i’r rhai dan 25 oed. Mae hefyd yn dadlau y dylai llywodraethau fod gweithio gyda chyflogwyr i roi profiad gwaith a chyfweliadau am swyddi yn y sectorau hynny y mae gan fyfyrwyr ddiddordeb ynddynt ac y maent wedi astudio ar eu cyfer.

Mae Busnes yn y Gymuned wedi tynnu sylw at yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud i helpu i leihau’r posibilrwydd o greu ‘cenhedlaeth goll’. Mae’r rhain yn cynnwys diogelu swyddi i bobl ifanc ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent drwy gael gwared ar rwystrau a chymryd camau pendant i logi pobl ifanc yn ogystal â sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddatblygu.

Beth nesaf?

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cwrdd yfory i drafod diweithdra ymysg pobl ifanc, a gallwch wylio’r cyfarfod ar Senedd TV. Pan fydd y Pwyllgor wedi gorffen casglu a dadansoddi’r dystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad i COVID-19 ,  bydd yn paratoi adroddiad sy’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. 


Erthygl gan Lucy Morgan a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: