Llais i’r di-lais?

Cyhoeddwyd 15/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae gen i deimlad gwirioneddol o ddyletswydd i sicrhau ein bod ni’n dod yn llais i’r di-lais ac yn sicrhau bod amddiffyn hawliau pob plentyn yn ganolog i bob penderfyniad gan ein Llywodraeth a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Dyma eiriau Sally Holland, y Comisiynydd Plant, yn ei Hadroddiad Blynyddol diweddaraf ar gyfer 2019-20. Yn yr adroddiad, mae'n rhoi ei barn ynghylch bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd Aelodau o’r Senedd yn cael dweud eu dweud ar y materion hyn pan fydd yr adroddiad yn cael ei drafod mewn yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, 20 Hydref.

Canlyniad anuniongyrchol

Mae argyfwng COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru yn ddramatig: gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gau am gyfnodau hir, arholiadau wedi’u canslo, darlithoedd yn cael eu haddysgu ar-lein, meysydd chwarae ar gau, cyfyngiadau ar gyfleoedd i gymdeithasu, a gostyngiad yn nifer y plant sy’n cael eu hatgyfeirio i wasanaethau cymdeithasol. Nid yw'n syndod fod NSPCC Cymru yn nodi y bu mwy o alw nag erioed o’r blaen am ei wasanaeth Childline, ac mae pryderon ynghylch sut mae'r pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc, yn y presennol ac yn y tymor hir.

Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant y gallai plant a phobl ifanc ddioddef mwy oherwydd canlyniadau anuniongyrchol ac anfwriadol y cyfyngiadau a roddwyd ar waith o ganlyniad i bandemig COVID-19 nag o'r haint ei hun'.

Mae'r Pwyllgor PPIA wedi craffu'n agos ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig, a thrafodwyd ei ganfyddiadau interim gan Aelodau o’r Senedd mewn Cyfarfod Llawn ym mis Gorffennaf 2020. Wedi hynny cafodd y Pwyllgor ei alw yn ôl ym mis Awst i holi'r Gweinidog Addysg, Cymwysterau Cymru a CBAC ynghylch effaith COVID-19 ar ganlyniadau arholiadau pobl ifanc eleni. Yn fwy diweddar, ym mis Medi 2020, ysgrifennodd y Cadeirydd at holl Is-Gangellorion Prifysgol Cymru yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer cefnogi myfyrwyr ar ddechrau tymor yr hydref.

Problemau cymhleth

Er y gallai COVID-19 fod wedi newid bywydau plant Cymru am byth, gellir dadlau bod llawer o'r materion yn adroddiad diweddaraf y Comisiynydd yn dweud yr un hen straeon wrthym – y problemau sydd anoddaf i'w datrys. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020 ac mae'n cynnwys ystod eang o bryderon hirsefydlog megis ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl i blant, plant yn parhau i fyw mewn tlodi, a phlant mewn gofal nad ydynt yn cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt. Dyma rai o'rproblemau cymhleth sy'n effeithio'n fawr ar fywydau plant a phobl ifanc ac sy'n debygol o gael eu gwaethygu gan COVID-19. Gellir dadlau bod yr angen i sicrhau bod dulliau polisi Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn bwysicach nag erioed.

Newidiadau sylweddol

Mae rhai newidiadau sylweddol hefyd y mae adroddiad y Comisiynydd yn canolbwyntio arnynt, gan gynnwys:

  • deddf newydd, a fydd yn dod i rym ar ddechrau 2022, sy'n golygu y na fydd hi’n gyfreithlon mwyach i blant yng Nghymru gael eu cosbi’n gorfforol. Yn ôl y Comisiynydd bydd ei swyddfa yn parhau i gymryd rhan yn y grwpiau rhanddeiliaid ynghylch negeseuon cyhoeddus a chefnogaeth rhianta dros y blynyddoedd nesaf, fel rhan o'r ymrwymiadau a wnaed yn ystod hynt y Ddeddf.
  • nifer y plant sy'n rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid, sydd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf, o oddeutu 5,000 o rai a oedd yn y system am y tro cyntaf yn 2009, i oddeutu 550 yn 2019. Er hynny, dywedodd y Comisiynydd fod y cynnydd wedi bod yn araf o ran rhoi’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid uchelgeisiol ar waith ers iddo gael ei gyhoeddi.
  • addysg ddewisol yn y cartref, mater y mae'r Comisiynydd wedi gwneud argymhellion yn ei gylch yn ei phedwar adroddiad blynyddol diwethaf, ac y mae wedi galw am newidiadau cyfreithiol yn ei gylch. Cyn COVID-19 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ganllawiau statudol drafft a rheoliadau i fynd i'r afael â phryderon y Comisiynydd. Fodd bynnag ym mis Mehefin 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg nad oedd yn modd cwblhau'r gwaith a gynlluniwyd o fewn tymor y Senedd hon oherwydd effaith sylweddol COVID-19 ar adnoddau Llywodraeth Cymru. Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd y Comisiynydd Plant ei bwriad i ddefnyddio ei phwerau statudol am y tro cyntaf iadolygu camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn hyn o beth.
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sy'n ceisio mynd i'r afael â phryderon hirsefydlog am y gefnogaeth a ddarperir i blant ag anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, yn nhymor yr hydref 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai oedi o ran gweithredu'r Ddeddf. Mae'r Comisiynydd yn nodi bod yn rhaid i'r cod ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a gafodd ei ohirio a’i ail-ddrafftio gael ei osod gerbron y Senedd er mwyn bwrw ymlaen â gweithredu Deddf 2018. Mae hi hefyd yn dweud ei bod yn hanfodol nad buddsoddiad untro yw'r buddsoddiad ychwanegol ar gyfer cyllideb y sector Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer 2020-21, a bod yn rhaid parhau â hyn wrth i'r system newydd ddatblygu i sicrhau ei llwyddiant.

Hapus, iach a diogel: Maniffesto ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru 2021

Dyma Adroddiad Blynyddol olaf ond un Sally Holland wrth iddi agosáu at ddiwedd ei chyfnod fel Comisiynydd. Y ddadl ar ddydd Mawrth fydd y tro olaf hefyd y bydd Aelodau'r Bumed Senedd hon yn ystyried dyfarniad Comisiynydd Plant ar ddatblygu hawliau plant yng Nghymru.

Mae’n debyg y bydd y Comisiynydd yn gobeithio, felly, y bydd pob plaid wleidyddol yn ystyried ei Maniffesto ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru 2021 o ddifri cyn etholiadau’r Chweched Senedd y flwyddyn nesaf.

Efallai y bydd Aelodau hefyd yn meddwl am y broses o benodi'r Comisiynydd nesaf, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Awst 2020 y dylai, ar y cyfle deddfwriaethol cynharaf, drosglwyddo cyfrifoldeb am benodi, atebolrwydd ac ariannu Comisiynydd Plant Cymru i'r Senedd.

Gallwch wylio Aelodau o'r Senedd yn trafod y materion hyn a materion eraill sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc ar Senedd TV tua 6.15 yp ar ddydd Mawrth 20 Hydref.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru