Craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws: materion allweddol o bwyllgorau'r Senedd - diweddariad

Cyhoeddwyd 22/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn darparu diweddariad i'r papur Craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws: materion allweddol o bwyllgorau’r Senedd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020 cyn i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyfarfod y mis hwnnw. Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnwys cadeiryddion holl bwyllgorau eraill y Senedd ac, fel arfer, mae'n cyfarfod unwaith y tymor.

Ar 22 Hydref, bydd Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y Senedd yn craffu ar Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am gydgysylltu gwaith Llywodraeth Cymru ar adferiad o’r pandemig. Yn dilyn y sesiwn hon, creffir ar waith Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â phandemig y coronafeirws a’r cyfnod pontio Ewropeaidd ar yr un diwrnod.

Yn ystod y pandemig, mae gwaith pwyllgorau'r Senedd wedi canolbwyntio ar effaith y feirws a’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb. Nid yw’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn trafod yr holl faterion sy'n codi o'r pandemig sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod gwaith craffu. Yn hytrach, mae'n darparu diweddariad ar y materion allweddol wrth edrych tua’r dyfodol. Mae wedi’i lunio i gefnogi’r Aelodau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 22 Hydref. Fodd bynnag, rydym yn ei gyhoeddi o ystyried budd ehangach y cyhoedd yn yr ymateb i’r pandemig.

Mae’r dystiolaeth gefndir ym mhob cyfarfod pwyllgor, a’r adroddiadau a luniwyd gan y pwyllgorau hynny, i’w gweld ar eu tudalennau gwe.

Darllenwch y briff ymchwil yma: Craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws: materion allweddol o bwyllgorau'r Senedd - diweddariad (PDF, 567 KB)

 


Erthygl gan Lucy Morgan ac Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.