Coronafeirws: Ail Gyllideb Atodol Gynnar

Cyhoeddwyd 23/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 20 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ail Gyllideb Atodol 2020-21 yn gynnar. Mae’n dangos y £1.5 biliwn ychwanegol a ddyrannwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19, gan adlewyrchu’r newidiadau a welwyd yn y pedwar mis ers y Gyllideb Atodol Gyntaf (cyhoeddwyd 27 Mai). Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 6.9 y cant.

O'u cymharu â’r £19.9 biliwn yng Nghyllideb Derfynol 2020-21, mae'r cronfeydd a reolir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru (gwariant adrannol) wedi cynyddu i £23.5 biliwn yn y Gyllideb newydd hon, sef cynnydd o 18.3 y cant.

1. Pam Cyflwyno Ail Gyllideb Atodol?

Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn cyhoeddi dwy gyllideb atodol y flwyddyn, y naill tua mis Mehefin a’r llall tua mis Chwefror. Nod Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi'r Ail Gyllideb Atodol nawr yw cydgrynhoi penderfyniadau a wnaed ers y Gyllideb Atodol Gyntaf, oherwydd nifer sylweddol y cyhoeddiadau a wnaed ers hynny yn gysylltiedig â’r Coronafeirws. O'r herwydd, yn gyffredinol mae'n cynnwys dyraniadau a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, wrth y Cyfarfod Llawn y bydd y Gyllideb hon yn caniatáu i'r Gyllideb Atodol a gyflwynir fel arfer ym mis Chwefror “ganolbwyntio mwy ar yr ymdrech i ailadeiladu”.

Yn ogystal â dyrannu £1.5 biliwn ychwanegol, mae'r Gyllideb yn cynnwys dros £1.0 biliwn o gyllid heb ei ddyrannu.

2. Sut mae'r arian yn cael ei ddyrannu?

Mae'r ffeithlun isod yn dangos y dyraniadau uwch i adrannau Llywodraeth Cymru, a elwir yn Brif Grwpiau Gwariant ('MEGs'), ers y Gyllideb Atodol Gyntaf:

Y tri newid mwyaf (gan gynnwys cyllid wedi'i ailddyrannu a'i ail-flaenoriaethu) yw'r dyraniadau ychwanegol a ganlyn;

  • £901.5 miliwn ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sef cynnydd o 9.5 y cant ers y Gyllideb Atodol Gyntaf.
  • £348.9 miliwn ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, sef cynnydd o 5.8 y cant ers y Gyllideb Atodol Gyntaf.
  • £130.5 miliwn ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth, sef cynnydd o 4.6 y cant ers y Gyllideb Atodol Gyntaf.

Daw mwyafrif yr arian ychwanegol ar gyfer y dyraniad ychwanegol gwerth £1.5 biliwn o 'gyllid canlyniadol' sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau gwariant Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys y gwarantau gan Lywodraeth y DU, fel y’u nodir yn y Gyllideb.

3. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Disgwylir i MEG Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol weld cynnydd net yn ei gyllid o £901.5 miliwn. Mae hyn yn golygu bod dros £10 biliwn ar gael i'w wario yn y maes hwn yn 2020-21.

Mae'r dyraniad cynyddol yn cynnwys 'Pecyn sefydlogi' gwerth £800 miliwn, a gyhoeddwyd ym mis Awst. Nod y pecyn yw cefnogi sefydliadau'r GIG i baratoi at 'ail don' bosibl o'r feirws yn ystod y gaeaf trwy eu helpu i gaffael PPE addas ac i ariannu’r “rhaglen frechu fwyaf erioed rhag y ffliw” yng Nghymru.

Hefyd, mae gan y Gyllideb y dyraniadau ychwanegol a ganlyn:

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi dileu'r £470 miliwn sy'n ddyledus gan gyrff GIG Cymru, yn ymwneud â "chymorth ariannol strategol” a roddwyd i fyrddau iechyd lleol gan Lywodraeth Cymru ers 2014.

Mae Iechyd Lleol Cymru wedi adrodd diffyg cyfanredol o £89 miliwn yn eu cyfrifon ar gyfer 2019-20, gyda rhagolwg y bydd diffyg gwerth £450 miliwn ar gyfer 2020-21, ar adeg ysgrifennu’r briff hwn.

4. Gwasanaethau awdurdodau lleol

Mae'r Ail Gyllideb Atodol hon yn dangos £306.6 miliwn ar gyfer Cronfa Galedi Awdurdodau Lleol, gan gynnwys cyllid ychwanegol gwerth £264 miliwn i awdurdodau lleol (cyhoeddwyd ar 17 Awst), gyda £27.4 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion (gan gynnwys £22.7 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion) a £15 miliwn i gefnogi elfen gyffredinol y gronfa.

Mae £50 miliwn hefyd wedi cael ei ddyrannu ar gyfer Cam 2 o gynllun digartrefedd Llywodraeth Cymru, ac o’r swm hwn, mae £9.5 miliwn o refeniw a £30 miliwn o gyfalaf wedi cael eu darparu yn y Gyllideb. Mae £2.9 miliwn wedi cael ei ddyrannu i adlewyrchu effaith cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor oherwydd COVID-19 a'r gostyngiad o ganlyniad yn refeniw’r dreth gyngor.

5. Yr Economi

Gwnaeth y Gyllideb Atodol Gyntaf bron â dyblu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth, gan ddyrannu cyllid ar gyfer cymorth busnes a grantiau. Mae'n cynnwys £113 miliwn ar gyfer gwasanaethau trên, sy’n cynnwys gwerth £65 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mae hefyd yn dyrannu £94.7 miliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau bysiau, sy'n cynnwys dwy set o gyllid a gyhoeddwyd ym mis Awst a mis Medi.

6. Cymorth i fusnesau yn ystod y cyfnod atal byr

O ganlyniad i'r cyfnod atal byr”, rhaid i bob busnes nad yw’n gwerthu bwyd, busnesau lletygarwch, gwasanaethau cysylltiad agos a digwyddiadau a busnesau twristiaeth gau am 18.00 ar 23 Hydref tan 9 Tachwedd.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai cymorth ariannol gwerth bron i £300 miliwn”, nad yw’n cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb, ar gael i fusnesau, gan gynnwys;

  • Dyblu rownd ddiweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd o £140 miliwn i £290 miliwn);
  • Taliadau o £1,000 i fusnesau sy'n gymwys i gael rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (yn ddarostyngedig i amodau);
  • Taliadau o £5,000 ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sy’n gymwys;
  • Grant atodol dewisol o £2,000 ar gyfer busnesau sydd wedi cau neu yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol oherwydd y cyfnod clo;
  • Grant dewisol arall o £1,000 ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn sylweddol gan gyfyngiadau symud lleol am 21 diwrnod neu’n hwy cyn dechrau'r cyfnod atal byr;
  • £20 miliwn ar gyfer grantiau busnes, gyda’r amod ar gwmnïau i gyd-ariannu'r grantiau yn cael ei ddileu.

Bydd busnesau Cymru hefyd yn dibynnu ar y Cynllun Cadw Swyddi ('JRS'), y cyfeirir ato’n aml fel cynllun ffyrlo, sy'n dod i ben ar 31 Hydref ac ar y cynllun sy’n ei olynu, sef y Cynllun Cefnogi Swyddi ('JSS').

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar y Canghellor (Rishi Sunak AS) i’r JSS gael ei ddwyn ymlaen, yn y gobaith y gellir osgoi sefyllfa lle mae busnesau’n delio â dau gynllun cymorth cyflog ar wahân yn ystod y cyfnod atal byr, gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud iawn am y gwahaniaeth i bob cyflogai o ran ariannu'r ddau gynllun.

I gyd-fynd â chyhoeddi'r Gyllideb, mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn gofyn am hepgor y meini prawf sy’n golygu bod rhaid i weithwyr sy'n hawlio’r JRS fod wedi bod ar ffyrlo am o leiaf dair wythnos cyn 30 Mehefin, gan ddweud y byddai hyn yn golygu bod busnesau newydd eu heffeithio gan y “cyfnod atal byr” y tu allan i gwmpas y cymorth a gynigir gan y Cynllun.

7. Ail-greu

Ar 6 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'addewid ar ôl Covid' gwerth £320 miliwn, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r papur 'Ail-greu ar ôl Covid-19 - Yr Heriau a’r Blaenoriaethau'. Fodd bynnag, er bod yr Ail Gyllideb Atodol yn dangos dros £1.0 biliwn o gyllid heb ei ddyrannu, sydd, y gellir dadlau, yn fwy na digon ar gyfer y cymorth economaidd i'r cyfnod atal byr a'r addewid ar ôl Covid, nid yw’n glir i ba raddau y mae ail-greu wedi cael ei gymhlethu gan don newydd o achosion Coronafeirws a marwolaethau yng Nghymru a chan y cyfnod atal byr.

Wrth i sefyllfa'r pandemig barhau i ddatblygu, mae’n debygol y gwelir rhagor o gyhoeddiadau cyllido. Bydd manylion unrhyw gyllid canlyniadol yn y dyfodol yn cael eu cadarnhau yn Amcangyfrifon Atodol y DU, ond mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi nodi bod “ansicrwydd o hyd” ynghylch lefel y cyllid y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael eleni.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi ei bwriad i gwblhau Adolygiad o Wariant ddiwedd mis Tachwedd, er y bydd hyn yn gosod adnoddau a chyfalaf ar gyfer 2021-22 yn hytrach na'r flwyddyn gyfredol.

8. Beth nesaf?

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 2 Tachwedd a bydd yn cyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau. Cynhelir dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd. Gallwch wylio’r trafodion yn fyw ar Senedd.tv.

Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd trydedd Gyllideb Atodol yn cael ei chyhoeddi tua diwedd y flwyddyn ariannol, gyda ffocws ar gyllid a ddyrennir at ail-greu ar ôl y pandemig.


Erthygl gan Owain Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.