Addysg

Dysgu gwersi hanes?

Ar 4 Tachwedd, bydd y Senedd yn trafod dwy ddeiseb wahanol ond cysylltiedig sy'n galw am newid o ran pa hanes mae plant Cymru’n ei ddysgu a sut mae’n cael ei addysgu.

30 Hydref 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 4 Tachwedd, bydd y Senedd yn trafod dwy ddeiseb wahanol ond cysylltiedig sy’n galw am newid o ran pa hanes mae plant Cymru’n ei ddysgu a sut mae’n cael ei addysgu.  Mae’r naill ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu.Mae’r llall yn ceisio ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Cafodd y naill ddeiseb 7,927 o lofnodion a chafodd y llall 34,736.

Bu cryn ddiddordeb mewn addysgu hanes Cymru. Ym mis Mehefin 2019, trafododd y Senedd gynnig a oedd yn ceisio sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei addysgu i bob disgybl. Nododd ein herthygl ar y ddadl honno yr hyn a addysgir ar hyn o bryd yn y cwricwlwm hanes a’r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei gynnig ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae dadleuon yn y Senedd ym mis Gorffennaf 2020 ac ym misHydref 2020 eisoes wedi trafod cynigion y dylai elfennau gorfodol y cwricwlwm gynnwys hanes pobl dduon a POC a hanes Cymru.

Y cwricwlwm newydd

Bydd Cwricwlm newydd i Gymru ar gyfer plant 3-16 oed yn cael ei gyflwyno ym mhob ysgol a gynhelir, a phob lleoliad meithrin sy’n derbyn nawdd cyhoeddus, o fis Medi 2022 ymlaen, fesul cam. Ar 6 Gorffennaf 2020, cyflwynwyd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ac mae ar hyn o bryd yn symud trwy’r Senedd.  Bwriedir i’r cwricwlwm newydd fod yn seiliedig ar ddibenion yn hytrach nag ar gynnwys, ac nid yw cynnwys dysgu penodol yn cael ei nodi yn yr un modd ag a wneir o dan y cwricwlwm cenedlaethol cyfredol.  Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ym mhapur Ymchwil y Senedd, Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Crynodeb o’r Bil [PDF 810KB)

Mae’r Bil yn nodi chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer y cwricwlwm newydd a’r elfennau gorfodol. Y 6 MDPh yw: 

  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd meddwl a Llesiant
  • Y Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Yr elfennau gorfodol yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad yw: Cymraeg; Saesneg; Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb; a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Bydd hanes yn cael ei ddysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau. Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau hefyd yn cynnwys daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol.

Deiseb flaenorol ac ymchwiliad Pwyllgor

Yn 2018, trafododd y Pwyllgor Deisebau’r ddeiseb Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth. Clywodd gan Dr Elin Jones, a fu’n Gadeirydd Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru (PDF 154KB) (mis Medi 2013), a Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg. 

Yn 2019, yn dilyn arolwg cyhoeddus, dechreuodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (DGCh) ymchwiliad i addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion. Datblygodd yr ymchwiliad ymhellach y gwaith a wnaed eisoes gan y Pwyllgor Deisebau. Cafodd adroddiad y Pwyllgor, Ymchwiliad i addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru [PDF 1.2KB] ym mis Tachwedd 2019 a’i drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2020. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb [PDF 235KB] ar 8 Ionawr 2020.

Corff cyffredin a hanes pobl dduon

Soniodd llawer o’r rhai a roes dystiolaeth i ymchwiliad 2019 y Pwyllgor DGCh am yr angen am ddigwyddiadau neu bynciau allweddol y dylai pob dysgwr eu gwybod ac y dylai fod gwybodaeth gyffredin am ddigwyddiadau allweddol yn stori genedlaethol Cymru. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r cwricwlwm newydd gynnwys canllawiau sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth i bob disgybl sy’n astudio hanes. Dywedodd y byddai gwneud hyn yn galluogi pob disgybl i ddeall sut mae ei wlad wedi cael ei dylanwadu gan ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun hanes Cymru, hanes Prydeinig a hanes rhyngwladol.

Gwrthododd y Gweinidog Addysg yr argymhelliad, gan ddweud:

Mae canllawiau MDPh y Dyniaethau yn amlinellu methodoleg ar gyfer dewis cynnwys, ac mae’n cyfeirio at yr angen parhaus i sôn am ardal leol y dysgwr a stori Cymru, yn ogystal â pherthynas stori Cymru â’r byd yn ehangach, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth ac amrywiol cymdeithasau’r gorffennol a chymdeithasau’r dyfodol.  

Ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor Deisebau [PDF 335] yn nodi bod y fframwaith cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru ddylunio ei chwricwlwm ei hun o fewn dull cenedlaethol sy’n sicrhau cysondeb. Dywedodd y bydd gan bob agwedd ar ddysgu ddimensiwn Cymraeg, ac y bydd pob rhan o’r cwricwlwm yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddeall eu bro a’u gwlad, a chyfraniad eu gwlad i’r byd. 

Ar ôl clywed tystiolaeth gan Race Council Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a’r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant. Gwnaeth Pwyllgor DGCh nifer o argymhellion mewn perthynas ag amrywiaeth wrth ddysgu hanes. Nododd un argymhelliad y dylai amrywiaeth fod yn elfen greiddiol o’r cwricwlwm newydd, a nododd un arall y dylai Estyn asesu sut mae amrywiaeth yn cael ei dysgu mewn ysgolion ar hyn o bryd.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn. Derbyniodd hefyd, mewn egwyddor, argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru nodi ei hymdrechion i gynyddu nifer yr athrawon Du ac o Leiafrifoedd Ethnig ac y dylai hanes amrywiaeth Cymru o ran hil a chrefydd gael ei gynnwys yn addysg gychwynnol athrawon ac y dylid hadlewyrchu’r hanes hwn mewn deunyddiau addysgu ar gyfer MDPh y Dyniaethau. 

Ysgogiad newydd

Ym mis Mai 2020, lladdwyd George Floyd, Americanwr Affricanaidd, wrth iddo gael ei ddal gan yr heddlu ym Minneapolis. Ysgogodd ei farwolaeth brotestiadau torfol yn UDA, y DU ac yn rhyngwladol, a galwadau am well addysg mewn perthynas â hanes pobl dduon a POC.

Yn y cyd-destun hwn, cyhoeddodd Kirsty Williams ym mis Gorffennaf 2020  y byddai’r Athro Charlotte Williams OBE yn cadeirio gweithgor cwricwlwm newydd, sef Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Profiadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Bydd y gweithgor yn adolygu’r adnoddau sydd ar gael i athrawon ac arfer da, a’r dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Y nod yw i’r gwaith hwn gyd-fynd ag adolygiad Estyn o hanes Cymru, a fydd yn ystyried yn llawn hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru a BAME yn ehangach.

Cyhoeddodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gyllid gwerth £40,000 yn 2020 i gefnogi Race Council Cymru i addysgu pobl ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hanes pobl dduon yng Nghymru.  Diben Hanes Du Cymru  yw gwella dealltwriaeth o hanes pobl dduon, newid safbwyntiau ar ddiwylliant pobl dduon, herio anghydraddoldebau mae llawer o gymunedau pobl dduon yn eu hwynebu, a hyrwyddo parch at wahaniaethau diwylliannol. Cafodd rhaglen addysgol a dathliadol o ddigwyddiadau a oedd ei lansio ym mis Hydref a bydd y rhaglen hon yn parhau trwy gydol y flwyddyn trwy Hanes Du Cymru 365 (BHC365).

Gallwch wylio Aelodau o’r Senedd yn trafod y materion hyn a materion eraill sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ar Senedd.tv am tua 18.15 ddydd Mercher 4 Tachwedd.


Article by Sian Hughes, Senedd Research, Welsh Parliament

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: