Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Y coronafeirws a’r GIG: a all ysbytai Cymru wrthsefyll y pwysau ychwanegol?

Mae achosion o’r coronafeirws wedi bod yn codi'n sydyn yng Nghymru, ac mae’r nifer sydd yn yr ysbyty oherwydd symptomau’r coronafeirws yn parhau i dyfu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar y coronafeirws a gweithgaredd a chapasiti'r GIG bob dydd Iau.

06 Tachwedd 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gaeaf anodd o’n blaenau

Mae achosion o’r coronafeirws wedi bod yn codi’n sydyn yng Nghymru, ac mae’r nifer sydd yn yr ysbyty oherwydd symptomau’r coronafeirws yn parhau i dyfu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar y coronafeirws a gweithgaredd a chapasiti’r GIG bob dydd Iau.

Cyflwynwyd cyfnod atal byr, llym ledled Cymru, o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12.01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020, i helpu i ddod â’r coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto.   Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen y cyfnod atal byr i “achub bywydau y gaeaf hwn”. Pan ddaw’r cyfyngiadau hyn i ben, caiff set newydd o fesurau cenedlaethol eu rhoi ar waith, a daw’r rhain i rym ar 9 Tachwedd. Caiff y rhain eu hadolygu ar ôl pythefnos.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r mesurau cenedlaethol a lleol a roddwyd ar waith ledled Cymru hyd yma wedi helpu i reoli’r coronafeirws. Ond, o gofio bod y rhif R rhwng 1.1 a 1.4 yng Nghymru ar hyn o bryd, dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen iddi weithredu rhag i’r GIG gael ei lethu. Nod y cyfnod atal byr yw arafu lledaeniad y feirws – sicrhau bod ysbytai Cymru yn gallu ymdopi â’r galw yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gryfhau ei hymateb i’r feirws yn ystod y cyfnod atal byr o 17 diwrnod, ac wedi rhoi ei Chynllun diogelu ar gyfer y gaeaf  ar waith.

Rydym yn disgwyl i’r cynnydd hwn barhau nes bydd effaith y cyfnod atal byr yn dod i’r amlwg. Er gwaethaf hyn

Pwysau’r gaeaf / gwaith modelu gwyddonol

Bob blwyddyn, bydd y GIG yn wynebu pwysau ychwanegol dros y gaeaf oherwydd cynnydd mewn salwch tymhorol a’r ffaith bod cyflyrau iechyd cronig yn gwaethygu, a hynny oherwydd cyfuniad o heintiau tymhorol fel y ffliw, ac effeithiau tywydd oerach, er enghraifft, ar gyflyrau’r galon a’r ysgyfaint. 

Y gaeaf diwethaf, bu’n rhaid canslo llawdriniaethau mewn ysbytai ledled Cymru oherwydd pwysau ar y gwasanaethau iechyd. Cafodd llawdriniaethau a oedd wedi’u trefnu ymlaen llaw eu canslo mewn nifer o ysbytai yng Nghymru wrth i’r GIG ymdrechu i ateb y galw.  Eleni, mae  rhestr hir o gleifion  na chawsant eu trin yn y gwanwyn, ac mae’r ail don o’r coronafeirws yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysbytai.

Mae gwaith modelu gwyddonol yn awgrymu y bydd nifer y cleifion yn yr ysbyty yn cyrraedd penllanw rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, a bod angen i Gymru baratoi ar gyfer hyn. Os caiff yr ofnau gwaethaf eu gwireddu, gallai hyn arwain at 6,300 o farwolaethau cysylltiedig â’r Coronafeirws yn yr ysbytai.

Nod y cyfnod atal byr, a gynigiwyd gan Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, yw atal y coronafeirws rhag lledaenu yn y gymuned. Rhaid aros ychydig wythnosau i gael gwybod a fydd y cyfnod atal byr yng Nghymru wedi llwyddo i arafu lledaeniad y feirws, a hynny oherwydd y cyfnod o oedi cyn i bobl ddangos symptomau ar ôl cael eu heintio. 

Gweithgarwch a chapasiti’r GIG

Drwy gydol ton gyntaf pandemig y coronafeirws, llwyddodd GIG Cymru i gynnal capasiti gofal critigol. Ond, a ninnau ar drothwy’r gaeaf –  pan fydd y galw ar y GIG ar ei waethaf – mae pwysau’r pandemig ychydig yn wahanol. Cafodd ton gyntaf y pandemig effaith ddifrifol ar y GIG a bu’n rhain adleoli staff a chyfleusterau i ofalu am bobl a oedd yn ddifrifol wael oherwydd y coronafeirws. Oherwydd pwysau ychwanegol y gaeaf, ni fydd yn bosibl ad-drefnu yn yr un modd.

Ar hyn o bryd, mae nifer y cleifion sy’n cael eu trin mewn unedau gofal critigol oherwydd y coronafeirws yn cynyddu. Mae tua thraean o gapasiti gofal critigol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion sy’n dioddef o’r coronafeirws. Mae nifer y cleifion yn yr ysbytai sydd â symptomau’r coronafeirws yn agosáu at yr un nifer a gofnodwyd yn ystod y penllanw ym mis Ebrill.

Mae gan y Byrddau Iechyd gynlluniau i greu capasiti gofal critigol ychwanegol. Mae ysbytai maes bellach yn cael eu defnyddio ledled Cymru i helpu’r GIG i ymateb i ail don y pandemig.

Ond yn wahanol i’r Gwanwyn, pan gafodd apwyntiadau a thriniaethau eu gohirio os nad oeddent yn achosion brys, mae GIG Cymru yn brysurach nawr nag yr oedd ym mis Ebrill 2020. Yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd 2020, esboniodd y Prif Weinidog;

There are currently 1,275 COVID-related patients in Welsh hospitals, 18 per cent higher than last week, and the highest number since late April. Rydym yn disgwyl i’r cynnydd hwn barhau nes bydd effaith y cyfnod atal byr yn dod i’r amlwg. In spite of this increasing pressure, our hospitals continue to provide planned activity, with cancer referrals returning to expected levels and the number of new out-patients 75 per cent higher in September than in April. Our actions have been designed not simply to protect our NHS’s ability to provide care to COVID patients, but to go on doing all those other things that matter so much to patients across Wales.

Mae staff y GIG yn gweithio nid yn unig i drin cleifion sydd â’r coronafeirws, ond hefyd i ddarparu gwasanaethau i gleifion sydd â chyflyrau iechyd difrifol eraill. Mae’r GIG yn ceisio ymdrin â’r rhestr gynyddol o gleifion y mae angen eu hasesu a’u trin wedi i’w hapwyntiadau gael eu gohirio yn ystod ton gyntaf y pandemig.

Mae Andrew Goodall, Prif Swyddog Gweithredol GIG Cymru, eisoes wedi ymddiheuro i gleifion am y ffaith na all y GIG ddarparu’r gwasanaethau arferol. Mae am weld gwasanaethau’n cael eu hadfer ac mae wedi gofyn i’r cyhoedd fod yn amyneddgar wrth i GIG Cymru geisio cynyddu gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Ond mae’n dod yn gynyddol anodd gwneud hyn wrth i achosion o’r coronafeirws gynyddu yn yr ysbytai. 

Bydd yr ymdrechion i sicrhau bod gan ysbytai Cymru y gallu i barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws, pwysau’r gaeaf ac achosion brys, ac i ganiatáu i’r GIG barhau â chymaint o’i weithgarwch â phosibl, yn cael eu llethu os na fydd modd rheoli lledaeniad y coronafeirws. 

Bydd ail don y pandemig hefyd yn rhoi pwysau ar wasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol. Ochr yn ochr â hyn, mae’r angen dybryd i ymdrin â’r problemau sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol.

Ar 19 Hydref 2020, dywedodd y Prif Weinidog fod y cyfyngiadau lleol wedi llwyddo i arafu lledaeniad y feirws ond nid oeddent yn mynd yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym i droi llanw’r coronafeirws wrth iddo ledaenu’n gyflym ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r data ar achosion a derbyniadau i’r ysbyty yn agos iawn dros y ddwy neu dair wythnos nesaf, gan chwilio am arwyddion cynnar bod y cyfnod atal byr wedi bod yn llwyddiannus. Bydd yn awyddus i weld bod y camau a gymerwyd i achub y GIG, ac i achub bywydau yng Nghymru dros y gaeaf hwn wedi bod yn ddigon i ddod â’r feirws dan reolaeth eto – ac osgoi cyfyngiadau cenedlaethol llawer hirach.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: