Delweddau Data Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Ystadegau

Coronafeirws: ystadegau

Mae'r blog hwn yn esbonio sut a phryd y cyhoeddir data ynghylch achosion o COVID-19 yng Nghymru a’r marwolaethau cysylltiedig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio COVID-19 fel clefyd heintus a gaiff ei achosi gan y coronafeirws. Rydym wedi cynnwys siartiau sy’n crynhoi’r data a chaiff y rhain eu diweddaru ddwywaith yr wythnos. Mae’n bosibl y cânt eu hadolygu wrth i'r data a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru newid. Mae data ar gyfer y ddau neu dri diwrnod diweddaraf wedi'u hepgor gan eu bod yn debygol o newid yn sylweddol wrth i ragor o achosion, profion a marwolaethau gael eu cofnodi.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

Diweddarwyd: 25 Tachwedd 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r erthygl flog hon yn esbonio sut a phryd y cyhoeddir data ynghylch achosion o COVID-19 yng Nghymru a marwolaethau yn ei sgîl.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio COVID-19 fel y clefyd heintus a achosir gan y coronafeirws. Rydym wedi cynnwys siartiau crynhoi a fydd yn cael eu diweddaru’n wythnosol ac y gellir eu hadolygu wrth i’r data a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru newid. Mae data ar gyfer y ddau neu dri diwrnod mwyaf diweddar wedi’u hepgor gan eu bod yn debygol o newid yn sylweddol wrth i ragor o achosion, o brofion ac o farwolaethau gael eu nodi.

Cyhoeddir ystadegau COVID-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bob dydd ar ei ddangosfwrdd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data ar nifer y penodau profi, yr achosion a gadarnhawyd a’r marwolaethau, ynghyd â data ar dderbyniadau i’r ysbyty, ymgynghoriadau â Meddygon Teulu yn ymwneud ag anadlu, galwadau Galw Iechyd Cymru a galwadau 111, a gwyliadwriaeth o ran ysgolion. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod yr holl ddata a gyhoeddir ar ei ddangosfwrdd yn rhai dros dro ac y byddant yn destun adolygiad yn y dyfodol.

Nifer y profion a gynhaliwyd a nifer achosion a gadarnhawyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro y gallai unigolion gael eu profi fwy nag unwaith am COVID-19. Yn ei ddata profi mae ICC yn defnyddio cyfnodau 6 wythnos, sef, os yw unigolyn yn cael ei brofi fwy nag unwaith o fewn y cyfnod hwnnw o 6 wythnos, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif. Os bydd unrhyw ganlyniadau profion yn gadarnhaol yna cyhoeddir y canlyniad hwn fel achos wedi’i gadarnhau. Cyhoeddir data profi fesul awdurdod lleol preswylio ac maent hefyd yn cael eu dadansoddi yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi data o brofion ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) yn wythnosol. Darllenwch ein blog ar raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru: sut mae’n gweithio i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ar ei ddangosfwrdd bod ei ddata profi yn eithrio achosion a gadarnhawyd yng Nghymru ond sy’n preswylio mewn man arall, a’r rhai lle nad oes modd sefydlu eu lleoliad preswyl.

Nifer gronnol yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd ers 01 Medi fesul 100,000 o’r boblogaeth breswyl

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r graffiau isod yn dangos nifer yr achosion newydd a gadarnhawyd o COVID-19 yn ddyddiol yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol. Mae cyfartaledd treigl saith diwrnod yn llyfnhau’r data i ddangos y duedd ehangach. Mae maint y rhannau tywyll o dan bob cromlin yn cyfateb yn fras i nifer gronnol yr achosion. Caiff y rhain eu dangos ar ochr dde pob graff ar gyfer y data mwyaf diweddar sydd ar gael. Mae achosion wedi cynyddu ers mis Mehefin pan ddechreuodd Cymru gynnal profion torfol.

Achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn ddyddiol yn ôl dyddiad a Bwrdd Iechyd Lleol

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19 yng Nghymru yn ôl oedran a rhyw

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r graff isod yn dangos nifer wythnosol y penodau profi newydd yng Nghymru.

Penodau profi newydd yng Nghymru

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Marwolaethau’n ôl dyddiad a BILl

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi nifer y marwolaethau yr amheuir eu bod wedi’u hachosi gan COVID-19 mewn pobl sydd wedi profi’n bositif, a dangosir y rhain yn ôl dyddiad y farwolaeth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi nifer y marwolaethau yn ôl ardal Byrddau Iechyd Lleol preswyl.

Marwolaethau dyddiol yng Nghymru

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mewn perthynas â’r data uchod, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi:

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys y marwolaethau a gofnodwyd ymhlith cleifion ysbytai neu breswylwyr cartrefi gofal lle y mae COVID-19 wedi’i gadarnhau drwy ganlyniad positif mewn prawf mewn labordy a bod y clinigwr yn amau bod hyn yn un o’r ffactorau a achosodd y farwolaeth.  Ni chynhwysir marwolaethau sy’n digwydd mewn lleoliadau eraill neu lle na chafwyd canlyniad labordy wedi’i gadarnhau, ond cânt eu cynnwys yn yr ystadegau a adroddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan ddefnyddio’r data sydd ar gael ar ôl cwblhau’r broses cofrestru marwolaeth. Gall y ffigur marwolaethau sydd newydd ei nodi gynnwys marwolaethau yr adroddir amdanynt yn ôl-weithredol wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly gall fod yn uwch na’r gwir gynnydd diweddar.

Ffynonellau data eraill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi niferoedd marwolaethau COVID-19 a amheuir ac a gadarnhawyd yng Nghymru a Lloegr mewn cyhoeddiad wythnosol – Marwolaethau a gofrestrwyd yn wythnosol yng Nghymru a Lloegr, dros dro. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio data sydd ar gael ar ôl y broses cofrestru marwolaeth, ac felly mae dros wythnos ar ei hôl hi. Dadansoddir y data diweddaraf yn ein herthygl flog Y coronafeirws: marwolaethau a gofrestrwyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata a dadansoddiadau ar effaith y coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru. Mae’r dudalen hon yn cynnwys data ar fusnesau a’r economi, ar bresenoldeb mewn lleoliadau addysg awdurdodau lleol, ar weithgarwch a gallu’r GIG, ar rai sy’n gwarchod rhag y feirws, ar brofion ac ar faterion yn ymwneud â thai.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cyhoeddi data mewn dangosfwrdd, a Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ei gwefan, ac mae Cofnodion Cenedlaethol yr Alban yn cyhoeddi diweddariad wythnosol. Mae’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ei dangosfwrdd. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) hefyd ddangosfwrdd sy’n nodi’r achosion a gadarnhawyd, a’r marwolaethau ledled y byd.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: