Mae tri o bwyllgorau’r Senedd yn dod i'r casgliad y gallai Bil Marchnad Fewnol y DU danseilio datganoli

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Bil Marchnad Fewnol y DU ar ei hynt drwy Dŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Gofynnwyd i'r Senedd roi ei chydsyniad deddfwriaethol i bob rhan o'r Bil. Fodd bynnag, mae tri phwyllgor yn y Senedd wedi mynegi pryder ynghylch effaith y Bil ar ddatganoli, yn eu hadroddiadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae dau o’r pwyllgorau wedi argymell yn benodol na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad i'r Bil yn ei ffurf bresennol.

Beth mae’r Bil yn ei wneud?

Mae Rhan 1 i Ran 3 o'r Bil yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol yn y DU. Mae'n gwneud hyn drwy gorffori Ymrwymiad Mynediad i'r Farchnad yn y gyfraith, wedi'i danategu gan egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu.

Yn y bôn, golyga hyn y gellir gwerthu nwyddau neu wasanaethau sy'n cyrraedd safonau un wlad yn y DU mewn unrhyw ran arall o'r DU heb orfod cyrraedd y safonau yn y rhannau eraill hynny, hyd yn oed os ydynt yn wahanol. Felly, gallai'r Senedd, fel yr amlygwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ddeddfu i wahardd cynhyrchu a gwerthu cig eidion wedi’i drin â hormonau synthetig, ar sail iechyd y cyhoedd a lles anifeiliaid. Ond pe bai rhan arall o’r Deyrnas Unedig yn caniatáu gwerthu cig eidion wedi’i drin â hormonau synthetig, gallai’r cig hwnnw gael ei werthu yng Nghymru hefyd, er gwaetha’r gwaharddiad yng Nghymru.

Ar gyfer cymwysterau, goblygiadau’r Bil yw y bydd rhywun sydd â chymhwyster mewn proffesiwn mewn un rhan o'r DU yn gallu ymarfer mewn rhan arall o'r DU, hyd yn oed os yw'r safonau cymhwyster yn wahanol. Er enghraifft, yn gyffredinol, pe bai'r gyfraith yng Nghymru yn dweud bod angen tair gradd Safon Uwch ar broffesiwn, ond bod y gyfraith yn Lloegr yn dweud bod angen pum gradd TGAU arni, byddai rhywun o Loegr â phum TGAU a dim cymwysterau Safon Uwch yn gallu ymarfer yn y proffesiwn hwnnw yng Nghymru.

Mae Rhan 4 o'r Bil yn sefydlu swyddfa newydd ar gyfer Panel y Farchnad Fewnol o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i ddarparu cyngor ar y system newydd hon.

Mae Rhan 7 o'r Bil yn newid y setliadau datganoli i gadw pwerau dros gymorthdaliadau (a elwir hefyd yn gymorth gwladwriaethol) yn ôl i Lywodraeth y DU. Dyma'r rheolau sy'n llywodraethu faint o gymhorthdal y llywodraeth y gellir ei roi i fusnesau a sefydliadau eraill.

Mae Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pwerau cyllido newydd i Weinidogion y DU wario arian mewn meysydd polisi datganoledig fel addysg a datblygu economaidd.

Mae Rhan 5 o'r Bil, fel y'i cyflwynwyd i'r Arglwyddi yn ymwneud â Phrotocol Gogledd Iwerddon. Byddai yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU newid rhannau o Gytundeb Ymadael y DU-UE 2019 ar fasnach o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr a rheolaeth dros gymhorthdal, hyd yn oed os nad yw hyn yn gydnaws â chyfraith ddomestig neu ryngwladol.. Dilëwyd y Rhan hon gan yr Arglwyddi yn ystod cyfnodau pwyllgor y Bil, ond mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn debygol o'i hailosod yn y Bil.

Mae ein Crynodeb o'r Bil yn darparu gwybodaeth fanylach am gynnwys y Bil a sut y gallai weithio'n ymarferol.

Pam mae Llywodraeth y DU yn dweud bod angen y Bil?

Roedd ein blog blaenorol yn amlinellu gwahanol safbwyntiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y Bil. Mae Llywodraeth y DU yn nodi bod angen y Bil i atal rhwystrau newydd i fasnach ac ymwahanu ddod i'r amlwg ar ôl i'r DU adael yr UE, gan y bydd gan bedair llywodraeth y DU ragor o ryddid i ddeddfu mewn meysydd a lywodraethwyd yn flaenorol gan gyfraith yr UE.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylid rheoli ymwahanu ledled y DU ar gyfer rhai meysydd polisi, ond y dylai'r pedair llywodraeth wneud hyn drwy weithio gyda'i gilydd a dod i gytundeb drwy’r rhaglen fframweithiau cyffredin. Mae'n nodi bod y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn mynd ymhellach na'r cyfyngiadau cyfredol a osodwyd ar y llywodraethau datganoledig gan gyfraith yr UE ac y byddai'n rhoi llai o ryddid i'r sefydliadau datganoledig ymwahanu nag sydd ganddynt ar hyn o bryd.

Beth mae Pwyllgorau'r Senedd wedi'i ddweud?

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd wedi argymell na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad i'r Bil fel y'i drafftiwyd.

Mae'r ddau Bwyllgor wedi rhoi barn sy’n debyg i farn Llywodraeth Cymru ac wedi dweud, fel y mae pethau, bod y Bil yn ddiangen. Maen nhw'n dweud y dylid defnyddio'r dulliau amgen sydd ar gael ar gyfer rheoli ymwahanu yn y DU ar ddiwedd y cyfnod pontio. Maent yn pryderu y byddai'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn tanseilio effaith deddfau datganoledig.

Dywed y Pwyllgor Materion Allanol y byddai'r Bil yn lleihau pwerau'r Senedd ac yn cyfyngu ar effaith deddfau datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Dywed, oni chaiff ei newid, y bydd y Bil yn “ceisio gorfodi ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru, a hynny mewn ffordd sy'n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur”. Daw i'r casgliad canlynol:

Mae dewis polisi clir yn lle rheoli marchnad fewnol y DU; nid yw'r Bil yn gam angenrheidiol ar gyfer rheoli marchnad fewnol y DU, nac yn gam angenrheidiol wrth adael y cyfnod pontio gyda'r UE.

Yn ei adroddiad, daw’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i’r casgliad nad yw’n argyhoeddedig bod angen pasio’r Bil erbyn diwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd, ac y gallai ei basio heb gytundeb rhwng pedair llywodraeth y DU niweidio cyfansoddiad y DU. Daw i'r casgliad a ganlyn am y Bil:

Mae’n amlwg i ni y byddai’r Bil yn rhwystro gallu Llywodraeth Cymru i benderfynu’n hawdd a yw’n ymarferol deddfu ac yn effeithio’n fawr ar allu’r Senedd i wneud deddfau cydlynol a hygyrch sy’n diwallu anghenion a dyheadau dinasyddion Cymru

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi ystyried goblygiadau ariannol y Bil ar wariant Cymru. Dywed bod mwyafrif aelodau’r pwyllgor yn poeni y gallai ”gael effaith ddofn ar ddatganoli yng Nghymru”.

Mae mwyafrif ei aelodau wedi mynegi pryderon ynghylch y potensial i Lywodraeth y DU wario arian mewn meysydd polisi datganoledig mewn ffordd nad yw'n gydnaws ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru ac y gallai Llywodraeth y DU sicrhau arian ar gyfer y gwariant hwn drwy leihau Grant Bloc Cymru, sef y swm o arian a roddir i Lywodraeth Cymru i'w wario yng Nghymru. Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd ynghylch cadw pwerau rheoli cymorthdaliadau yn ôl.

Bydd y Senedd yn cynnal dadl ynghylch rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Marchnad Fewnol y DU rywbryd yn ystod y pythefnos nesaf. Gallwch wylio'r sesiwn yn fyw ar Senedd.TV.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru