Y Coronafeirws: Cymorth i fusnesau - hydref 2020

Cyhoeddwyd 13/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Nid yw'r erthygl hon yn cael ei diweddaru mwyach. Am y wybodaeth ddiweddaraf gweler ein herthygl, Y Coronavirus: Cymorth i fusnesau 2021.

 

Mae busnesau a gweithwyr wedi wynebu effeithiau sylweddol ers dechrau pandemig y coronafeirws, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi datblygu amrywiaeth o fesurau i'w cynorthwyo.

Mae'r erthygl hon yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau gan y ddwy Lywodraeth. Rydym hefyd wedi diweddaru ein herthygl ar y cymorth sydd ar gael drwy'r system fudd-daliadau.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Cronfa Cadernid Economaidd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o gynlluniau i gefnogi busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu dianghenraid, a hamdden yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau cyn ac ar ôl y Nadolig, ynghyd â busnesau yn eu cadwyn gyflenwi.

Cronfa Busnesau dan Gyfyngiadau gan y Gronfa Cadernid Economaidd

Mae Cronfa Busnesau dan Gyfyngiadau gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi cymorth i fusnesau sy’n talu ardrethi busnes. Mae’n rhoi’r cymorth a ganlyn:

  • Mae busnesau yn y sector lletygarwch a manwerthu dianghenraid sy’n cael rhyddhad ardrethi busnesau bach ac â gwerth ardrethol £12,000 neu lai’n gymwys i gael taliad £3,000. Bydd busnesau twristiaeth, hamdden a chadwyn gyflenwi sy’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach hefyd yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn os oes ganddynt ostyngiad mwy na 40 y cant mewn trosiant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Mae busnesau lletygarwch a manwerthu dianghenraid â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad £5,000 os cânt eu gorfodi i gau. Bydd busnesau twristiaeth, hamdden a chadwyn gyflenwi yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os oes ganddynt ostyngiad mwy na 40 y cant mewn trosiant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Mae busnesau lletygarwch a manwerthu dianghenraid â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad £5,000 os bydd y cyfyngiadau’n effeithio arnynt. Bydd busnesau twristiaeth, hamdden a chadwyn gyflenwi yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os oes ganddynt ostyngiad mwy na 40 y cant mewn trosiant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

Bydd busnesau lletygarwch a gafodd grant dan y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol drwy eu hawdurdod lleol a busnesau manwerthu dianghenraid a gofrestrwyd yn flaenorol o dan y cyfnod atal byr yn dechrau cael taliadau i’w cyfrif banc yn ystod mis Rhagfyr. Nid yw’n ofynnol i’r busnesau hyn ailgofrestru eu manylion i wneud cais am y cyllid hwn. Bydd angen i’r holl fusnesau eraill gofrestru eu manylion a llenwi cais byr ar-lein. Bydd y broses gofrestru yn agor ym mis Ionawr 2021 a bydd taliadau’n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.

Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud y Gronfa Cadernid Economaidd

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu’r Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a chadwyn gyflenwi y mae’r cyfyngiadau’n cael effaith berthnasol arnynt. Bydd hyn yn rhoi cymorth hyd at £2,000 i fasnachwyr unigol heb eiddo nad ydynt yn talu TAW sy’n cael gostyngiad mwy na 40 y cant mewn trosiant o ganlyniad i’r cyfyngiadau, megis glanhawyr yn cynnig gwasanaethau i’r diwydiant lletygarwch a gyrwyr tacsi.  Mae’r grantiau hyn ar gyfer busnesau nad ydynt yn talu ardrethi busnes, â hyd at 50 o weithwyr a phan mai’r busnes yw prif ffynhonnell incwm yr ymgeisydd.

Bydd awdurdodau lleol yn ymdrin â’r ceisiadau ar sail y cyntaf i’r felin, a dylai busnesau cymwys wneud cais ar gyfer y grant hwn drwy wefan eu hawdurdod lleol. 

Cymorth Penodol i’r Sector gan y Gronfa Cadernid Economaidd

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £180 miliwn o gymorth dan y cynllun Cymorth Penodol i’r Sector gan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Dan y cynllun hwn, gall busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a’u cadwyni cyflenwi gael y cymorth a ganlyn:

  • Isafswm grant £2,500 ar gyfer busnes un gweithiwr.
  • Gall busnesau bach a chanolig â hyd at 249 o weithwyr gael £1,500 fesul gweithiwr hyd at 10 gweithiwr. Ar gyfer y rhai sy’n cyflogi mwy na 10 gweithiwr, byddant yn cael yr isaf o £1,500 fesul gweithiwr neu gostau gweithredu hunanddatganedig ar gyfer cyfnod y cyfyngiadau. Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £100,000.
  • Gall busnesau mawr â 250+ o weithwyr a’u pencadlys yng Nghymru gael £500 fesul gweithiwr hyd at grant £150,000, a phennir cymorth fesul achos.

Mae angen i fusnesau gyflogi staff drwy TWE, a bod yn gofrestredig ar gyfer TAW neu’n esempt rhag TAW â throsiant uwchlaw £85,000, neu’n gwmni gyfyngedig â throsiant uwchlaw £50,000. Bydd angen iddynt ddangos bod ei trosiant wedi lleihau dros 60% o gymharu â’r cyfnod cyfatebol y llynedd (4 Rhagfyr – 15 Ionawr), neu gyfnod o chwe wythnos yn y flwyddyn ariannol bresennol mewn achosion lle dechreuodd y busnes fasnachu ar ôl 4 Rhagfyr 2019.

Agorwyd y gronfa ar gyfer ceisiadau ar 13 Ionawr, ac mae rhagor o ganllawiau ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Cymell prentisiaethau i gyflogwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o gymhellion i gefnogi cyflogwyr i recriwtio prentisiaid. Mae'r rhain yn berthnasol rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2021, ac yn cynnwys:

  • £3,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos;
  • £1,500 am bob prentis newydd o dan 25 oed sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos;
  • £2,000 am bob prentis newydd 25 oed neu’n hŷn sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos; a
  • £1,000 am bob prentis newydd 25 oed neu’n hŷn sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos

Mae'r cymhellion hyn yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5, a chyfyngir y taliadau i uchafswm o 10 prentis i bob cyflogwr.

I brentisiaid o bob oed sy'n cael eu diswyddo rhwng 23 Mawrth 2020 a 28 Chwefror 2021, mae'r cymhellion canlynol yn berthnasol i gyflogwyr sy'n ail-gyflogi prentisiaid fel eu bod yn gallu cwblhau eu hyfforddiant:

  • £2,600 lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos; a
  • £1,300 lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos

Rhaid i'r prentis barhau i ddilyn yr un Llwybr Fframwaith Prentisiaeth, ac mae'r cymhellion yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5.

Yn ogystal â'r taliadau hyn, gall busnesau sy'n cyflogi person anabl fel prentis hawlio £1,500 yn ychwanegol am bob prentis newydd sy'n cael ei recriwtio. Mae'r taliadau hyn yn berthnasol i brentisiaid o bob oed, ac maent yn ychwanegol at yr holl gymhellion ar gyfer prentisiaid 16-24, 25+ a'r rhai sydd wedi cael eu diswyddo. Mae'r cymhellion yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar Lefelau 2 i 5.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag, lle gall cyflogwyr hysbysebu unrhyw gyfleoedd am brentisiaeth yn y dyfodol.

Grant Rhwystrau

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Grant Rhwystrau i ddarparu grantiau ar gyfer pobl ddi-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau eu busnes eu hunain. Bydd y grant hwn yn helpu 600 o unigolion i ddod yn hunangyflogedig neu i ddechrau busnes a bydd yn cynnig grantiau gwerth hyd at £2,000 i unigolion i gyfrannu tuag at gostau hanfodol dechrau busnes.

Bydd y grant ar agor i bob unigolyn di-waith, ond rhoddir blaenoriaeth i’r rheini y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt, megis menywod, pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a phobl ifanc.

Gellir cyflwyno cais am y grant o 1 Rhagfyr, ac mae canllawiau ar gael. Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi drwy’r e-bost at grantrhwystrau@businesswales.org.uk.

Cymorth gan Lywodraeth y DU

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws

Mae'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (y cynllun ffyrlo) yn caniatáu i gyflogwyr roi gweithwyr ar ‘ffyrlo’ (h.y. rhoi caniatâd iddynt fod yn absennol), os na allant weithio am nifer o resymau, gan gynnwys bod y busnes wedi gorfod cau, neu am nad oes gwaith i’w wneud oherwydd y coronafeirws. Mae hi wedi cael ei ymestyn ledled y DU tan 30 Ebrill 2021 ac mae'r Cynllun Cymorth Swyddi wedi cael ei ohirio.

Bydd y cynllun newydd yn cefnogi gweithwyr a oedd ar y gyflogres ar 30 Hydref 2020 neu cyn y dyddiad hwnnw, a bydd yn caniatáu i gwmnïau roi gweithwyr ar ffyrlo am gyfnod o saith diwrnod calendr o leiaf yn olynol. Bydd cyflogwyr yn gallu ailgyflogi a rhoi ar ffyrlo gweithwyr a oedd yn gyflogedig ac ar y gyflogres ar 23 Medi 2020, ond a ddiswyddwyd ers hynny.

Caniateir rhoi'r cynllun ffyrlo ar waith mewn modd hyblyg, lle mae gweithwyr yn gweithio rhai o'u horiau, yn ogystal â rhoi gweithwyr ar ffyrlo ar sail amser llawn.  Bydd Llywodraeth y DU yn talu 80 y cant o gyflogau arferol gweithiwr am yr oriau nas gweithir, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, a bydd hyn yn berthnasol tan ddiwedd mis Ebrill 2021. Bydd yn ofynnol i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr am yr oriau nas gweithir, a'r holl gostau cyflog am yr oriau a weithir.  Gellir gwneud cais ar-lein.  Dylid gwneud cais erbyn diwrnod 14 o’r mis canlynol.

Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU yn caniatáu i bobl hunangyflogedig y mae’r coronafeirws wedi effeithio’n negyddol ar eu hincwm i hawlio grant arian trethadwy.

Mae’r grant ar gael i bobl yr oedd eu helw masnachu blynyddol yn llai na £50,000 yn 2018-19 (neu ar gyfartaledd yn llai na £50,000 y flwyddyn yn y cyfnod 2016-17, 2017-18 a 2018-19), a lle mae dros hanner eu hincwm yn dod o hunangyflogaeth. Mae ar gael yn unig i bobl a fasnachodd ym mlwyddyn drethi 2018-19 a 2019-20, sydd wedi cyflwyno’u ffurflen dreth ar gyfer 2018-19, ac sy’n parhau i fasnachu ond sy’n dal i gael eu heffeithio gan y pandemig.

Cyn gwneud hawliad, dylai pobl hunangyflogedig ddefnyddio Holiadur gwirio cymhwysedd Cyllid a Thollau EM i weld a oes ganddynt hawl i’r gefnogaeth hon.

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd dau gylch arall o'r grant yn cael eu hagor rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ebrill 2021, ar gyfer busnesau y mae'r pandemig yn parhau i effeithio arnynt. Bydd y grant cyntaf yn cwmpasu cyfnod o dri mis o ddechrau mis Tachwedd 2020 tan ddiwedd mis Ionawr 2021. Yn dilyn y cyhoeddiad o’r cynnydd yn y grant a fydd ar gael, bydd y grant hwn bellach yn talu 80 y cant o'r elw masnachu misol cyfartalog rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr, wedi’i dalu mewn un rhandaliad sy'n cwmpasu gwerth 3 mis o elw, ac wedi'i gyfyngu i £7,500 at ei gilydd. Gall busnesau hawlio’r grant hwn ar-lein tan 29 Ionawr 2021.

Bydd yr ail grant yn cwmpasu cyfnod o dri mis o ddechrau mis Chwefror tan ddiwedd mis Ebrill, a bydd Llywodraeth y DU yn adolygu lefel y grant hwn ac yn gwneud cyhoeddiad pellach ar hyn maes o law.

Cynllun Kickstart

Mae’rCynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu lleoliadau gwaith newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor. Gall cyflogwyr wneud cais am arian i dalu am:

  • 100 y cant o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn dibynnu ar oed y sawl sy’n cymryd rhan, am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis;
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig; ac
  • isafswm cyfraniadau ymrestru awtomatig cyflogwr at gynllun pensiwn yn y gweithle.

Darperir cyllid ychwanegol o £1,500 fesul lleoliad gwaith i gefnogi pobl ifanc i adeiladu eu profiad a'u helpu i symud i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl iddynt gwblhau eu swydd a ariennir gan Kickstart.

Gall cyflogwyr ledaenu dyddiad dechrau'r lleoliadau gwaith hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2021.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfeirio ymgeiswyr addas at leoliadau gwaith, ac yna bydd y cyflogwr yn cyfweld ac yn recriwtio i’r rolau.

Mae’n rhaid i gais i Gynllun Kickstart fod am isafswm o 30 o leoliadau gwaith. Os na all cyflogwr unigol ddarparu cymaint â hyn o leoliadau gwaith, gallant ddod o hyd i borth Kickstart presennol, fel awdurdod lleol, elusen neu gorff masnachol a fydd yn gwneud cais ar ran y cyflogwr.

Agorodd y cynllun i geisiadau gan gyflogwyr ar 2 Medi. Mae canllawiau ar gael ar gyfer cyflogwyr sydd am greu 30 neu fwy o swyddi; cyflogwyr sydd am greu hyd at 29 o swyddi; pyrth sy'n helpu cyflogwyr llai i wneud cais am y cynllun; ac ar gyfer pobl ifanc.

Benthyciadau Adfer

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r cynllun Benthyciadau Adfer wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar i 31 Mawrth 2021.  Mae’r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi y bydd busnesau sydd wedi cael benthyciad gwerth llai na 25 y cant o’u trosiant blynyddol yn cael ychwanegu at eu benthyciad presennol.

Mae'r cynllun hwn yn helpu Busnesau Bach a Chanolig i fenthyg rhwng £2,000 a £50,000. Mae Llywodraeth y DU yn gwarantu 100 y cant o'r benthyciad ac ni fydd ffioedd na llog i'w talu am y 12 mis cyntaf. Caiff busnesau'r DU y mae’r coronafeirws wedi cael effaith negyddol arnynt wneud cais am y cynllun, ar yr amod nad oeddent mewn trafferth ar 31 Rhagfyr 2019. Fodd bynnag, ni chaiff busnesau sydd wedi cael benthyciad drwy Gynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws wneud cais. Ond, os ydynt wedi cael benthyciad llai na £50,000 dan y cynllun hwn, cânt ei drosglwyddo i'r Cynllun Benthyciadau Adfer drwy drefnu hyn gyda’u benthyciwr.

O dan yr opsiwn Talu wrth Dyfu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Canghellor, bydd y rhai sy’n cael Benthyciadau Adfer yn cael yr opsiwn i ad-dalu eu benthyciad dros gyfnod o hyd at ddeng mlynedd, sydd bron yn haneru’r ad-daliadau misol. Bydd gan fusnesau hefyd yr opsiwn i symud dros dro i daliadau llog yn unig am gyfnodau o hyd at chwe mis (opsiwn y gallant ei ddefnyddio hyd at dair gwaith), neu i ohirio eu had-daliadau'n gyfan gwbl am hyd at chwe mis (opsiwn y gallant ei ddefnyddio unwaith a dim ond ar ôl gwneud chwe thaliad).

Mae rhagor o wybodaeth am fanylion y cynllun, a sut i wneud cais, ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain. Mae'r broses ymgeisio ar-lein, gyda saith cwestiwn, ac mae Llywodraeth y DU yn bwriadu y bydd cyllid ar gael i fusnesau o fewn dyddiau ar ôl iddynt wneud cais.

Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws

Lansiodd Llywodraeth y DU y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws i gefnogi Busnesau Bach a Chanolig yn bennaf i gael mynediad at fenthyciadau a gorddrafftiau banc.  Mae’n cael ei ddarparu gan Fanc Busnes Prydain, ac mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi cael ymestyn yn ddiweddar i 31 Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi gwarant o 80 y cant i roddwyr benthyciadau ar bob benthyciad (yn amodol ar derfyn fesul rhoddwr benthyciadau ar hawliadau) i roi mwy o hyder i fenthycwyr barhau i ddarparu cyllid i fusnesau bach a chanolig. Ni fydd yn codi tâl ar fusnesau na banciau am y warant hon, ac mae'r Cynllun yn cefnogi benthyciadau hyd at £5 miliwn.

Gall busnesau gael mynediad at y cyllid hwnnw’n ddi-log am y 12 mis cyntaf, gan mai Llywodraeth y DU sy’n talu’r taliadau llog am y 12 mis cyntaf. Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd benthycwyr yn gallu ymestyn tymor benthyciad hyd at ddeng mlynedd, gan roi hyblygrwydd ychwanegol i Fusnesau Bach a Chanolig a leolir yn y DU na fyddent efallai fel arall yn gallu ad-dalu eu benthyciadau.

Gall busnesau yn y DU sydd â throsiant blynyddol hyd at £45 miliwn gael mynediad at y cynllun, ac mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi meini prawf cymhwysedd a chwestiynau cyffredin.

Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws

Cafodd Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws ei lansio ar 20 Ebrill, ac mae'r Canghellor wedi cyhoeddi’n ddiweddar fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi cael ei ymestyn i 31 Mawrth 2021. Mae'r cynllun hwn yn rhoi gwarant gan y llywodraeth o 80 y cant i alluogi banciau i roi benthyciadau i fusnesau mwy.Mae’r benthyciadau hyn yn cael eu cynnig ar gyfraddau llog masnachol. 

Mae’r cynllun yn darparu benthyciadau hyd at £25 miliwn i gwmnïau a leolir yn y DU sydd â throsiant blynyddol rhwng £45 miliwn a £250 miliwn.

Ers 26 Mai, trwy’r cynllun hwn, mae busnesau mawr sydd â throsiant blynyddol dros £250 miliwn wedi gallu benthyca gwerth hyd at 25 y cant o'u trosiant, hyd at uchafswm o £200 miliwn. Fodd bynnag, os yw busnesau am fenthyca mwy na £50 miliwn, byddant yn destun cyfyngiadau ar daliadau difidend, cyflogau uwch-swyddogion a threfniadau prynu cyfranddaliadau yn ôl ar gyfer cyfnod y benthyciad. Ni fydd busnesau yn gallu talu bonws na dyfarnu codiadau cyflog i uwch-reolwyr, oni bai eu bod eisoes wedi cael eu datgan, a’u bod yn debyg i daliadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf, ac nad ydynt yn effeithio'n sylweddol ar allu'r busnes i ad-dalu'r benthyciad.

Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a sut y mae'r cynllun yn gweithredu ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain, sydd hefyd wedi cyhoeddi canllaw i fusnesau ar y cynllun a dogfen Cwestiynau Cyffredin, sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais amdano.

Cronfa’r Dyfodol ar gyfer y Coronafeirws

Mae Cronfa’r Dyfodol ar gyfer y Coronafeirws yn cael ei chyflenwi gan Fanc Busnes Prydain, ac mae’n darparu benthyciadau gwerth rhwng £125,000 a £5 miliwn i gwmnïau arloesol ar draws y DU sy'n wynebu anawsterau ariannol oherwydd argyfwng y coronafeirws. Bydd y benthyciadau hyn yn troi’n ecwiti’n awtomatig ar gylch cyllido cymwys nesaf y cwmni, neu ar ddiwedd y benthyciad os na chânt eu had-dalu.

Mae’r gronfa’n agored i fusnesau yn y DU a all ddenu arian cyfatebol gan fuddsoddwyr preifat trydydd parti a sefydliadau, ac sydd wedi codi o leiaf £250,000 mewn buddsoddiad ecwiti o'r blaen gan fuddsoddwyr trydydd parti yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Nid oes cap ar faint y gall buddsoddwyr preifat ei fenthyg i'r cwmni.

Mae'r gronfa yn cael ei harwain gan fuddsoddwyr, sy'n golygu y gall buddsoddwr arweiniol gofrestrau ar-lein i ddechrau'r broses ymgeisio. Mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi gwirydd cymhwystra, gwybodaeth i gwmnïau, a gwybodaeth i fuddsoddwyr.

Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi’n ddiweddar fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi cael ei ymestyn i 31 Ionawr 2020.

Cymorth o fath arall

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd wedi nodi manylion am nifer o fesurau eraill i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gall Busnesau Bach a Chanolig adhawlio Tâl Salwch Statudol a dalwyd am absenoldeb salwch oherwydd y coronafeirws drwy wasanaeth ar-lein. Bydd yr adhawliad hwn yn cwmpasu hyd at 2 wythnos o dâl salwch statudol i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith oherwydd y coronafeirws, a bydd yn agored i fusnesau a oedd yn cyflogi llai na 250 o bobl ar 28 Chwefror 2020. Gall cyflogwyr hawlio o'r diwrnod cymwys cyntaf y mae eu gweithiwr yn absennol o’r gwaith, ac mae’n rhaid bod y cyflogwr wedi talu costau tâl salwch statudol y cyflogai cyn y gall ei hawlio yn ôl.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tenantiaid masnachol na allant dalu eu rhent yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 31 Mawrth 2021. Er y bydd tenantiaid masnachol yn parhau i fod yn atebol am y rhent, bydd y mesurau a gyflwynir yn golygu na fydd unrhyw fusnes yn fforffedu eu prydles yn awtomatig ac yn cael eu gorfodi allan o’u hadeilad os byddant yn methu taliad hyd at ddiwedd Mawrth 2021.
  • Mae Deddf Ansolfedd Corfforaethol a Llywodraethu 2020 yn gohirio rhannau o’r gyfraith ansolfedd dros dro drwy gyflwyno moratoriwm o 20 diwrnod busnes i gyfarwyddwyr busnesau ystyried opsiynau i achub eu cwmni drwy wneud cais am foratoriwm i’r llys. Gellir ymestyn cyfnod y moratoriwm am 20 diwrnod busnes ychwanegol heb gydsyniad y credydwyr, neu am gyfnod hwy gyda chydsyniad y credydwyr, drwy ffeilio’r datganiadau perthnasol gyda’r llysoedd. Ymhelaethir ar hyn yng nghanllawiau Llywodraeth y DU.
  • Cyhoeddodd y Canghellor yn ddiweddar y byddai Llywodraeth y DU yn ymestyn y gyfradd TAW dros dro o 5 y cant ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth tan 31 Mawrth 2021. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau cyffredinol ynghylch sut y bydd y gostyngiad dros dro yn gweithredu, yn ogystal â dogfennau manylach sy'n ymdrin â lletygarwch, llety gwyliau ac atyniadau.
  • Cyhoeddodd y Canghellor yn ddiweddar y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r dewis i fusnesau a ohiriodd TAW i ledaenu eu taliadau dros y flwyddyn ariannol 2021-2022. Bydd pob busnes a ohiriodd TAW yn gallu optio i mewn i Gynllun Taliad Newydd o ddechrau 2021.
  • Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi’r opsiwn i’r hunangyflogedig a threthdalwyr eraill sydd â rhwymedigaethau treth incwm o hyd at £30,000 yr opsiwn o ddefnyddio cyfleuster Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM i gytuno ar gynllun i dalu trethi sy’n ddyledus ym mis Ionawr 2021 dros 12 mis ychwanegol.
  • Gall busnesau sydd yn bryderus na fyddant yn gallu talu eu bil treth nesaf fod yn gymwys i gael cymorth drwy linell gymorth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM ar 0800 024 1222. Cytunir ar y trefniadau fesul achos, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru