Diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd: Cymorth a gwybodaeth i bobl yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 1 Ionawr, dechreuodd y DU a'r UE fasnachu ar sail Cytundeb Cydweithrediad Masnach y cytunodd y ddwy ochr arno ar 24 Rhagfyr. Roedd cytundeb ar waith dros dro nes y gwnaeth Senedd Ewrop gwblhau camau terfynol y broses gymeradwyo. Roedd hynny'n cynnwys pleidlais i'w gymeradwyo gan Senedd Ewrop, a gynhaliwyd ar 28 Ebrill a phenderfyniad terfynol gan Gyngor yr UE ar 29 Ebrill. Daeth y cytundeb i rym yn llawn ar 1 Mai 2021.

Mae'r penderfyniad hwn i fasnachu ac ymwneud â'r UE ar sail y cytundeb newydd wedi arwain at newidiadau mewn nifer o feysydd i fusnesau a dinasyddion.

Mae'n bwysig dilyn canllawiau o ffynonellau swyddogol a dibynadwy i ddeall goblygiadau’r newidiadau hyn a'r camau gwahanol y bydd angen i chi eu cymryd efallai.  Mae'r blog hwn yn cynnwys lincs at wybodaeth ddibynadwy a swyddogol o'r DU, o Gymru ac o’r UE i helpu pobl yng Nghymru i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Byddwn yn diweddaru’r blog hwn gydag unrhyw lincs defnyddiol ychwanegol wrth iddynt ddod ar gael.

Llywodraeth y DU

  • gov.uk/transition yw prif dudalen we Llywodraeth y DU ar gyfer rhoi gwybodaeth a chanllawiau i fusnesau a dinasyddion yn ymwneud â’r rheolau newydd sy'n berthnasol i faterion fel teithio a chynnal busnes gyda'r UE. Mae'n cynnwys offeryn Gwirio Brexit sydd, ar ôl ei gwblhau, yn cynnig rhestr wedi'i phersonoli o'r camau i unigolion a / neu fusnesau eu cymryd.
  • Mae Cynllun Gweithredu’r Ffin yn amlinellu'r broses i’w dilyn wrth symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE gan fod y cyfnod pontio’n awr wedi dod i ben. Mae dogfen sy’n cynnwys Astudiaethau achos hefyd wedi’i chreu i ddisgrifio senarios, o'r dechrau i'r diwedd, ar gyfer busnesau sy'n mewnforio ac yn allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE.
  • Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau sy’n masnachu o ran bwyd neu fwyd anifeiliaid.
  • Canllawiau Llywodraeth y DU ar fasnachu a symud nwyddau i mewn ac allan o Ogledd Iwerddon
  • Mae'r DU a'r UE wedi cytuno ar Gytundeb Masnach a Chydweithrediad a dau gytundeb cysylltiedig - y naill ar ddiogelwch a’r llall ar gydweithrediad niwclear. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi crynodeb sy'n egluro darpariaethau craidd y Cytundebau.

Llywodraeth Cymru

  • Tudalen we Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru yw’r ffynhonnell sy’n disgrifio’r camau i fusnesau, dinasyddion a sefydliadau eraill yng Nghymru eu cymryd. At hynny, mae'r wefan yn cyfeirio darllenwyr at ganllawiau eraill Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, pan fyddant yn berthnasol i Gymru.
  • Mae Porth Pontio Ewropeaidd Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o ddulliau o gynorthwyo busnesau, ac mae’n cynnwys y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein, sef llinell gyngor dros y ffôn i fusnesau, gwybodaeth am ffynnonellau cyllid, a nifer o adnoddau ar-lein sy’n benodol ar gyfer sectorau penodol.
  • Mae Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio yn disgrifio’r camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, yn annibynnol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU.
  • Fe gyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru bapur sy'n archwilio goblygiadau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer dinasyddion, busnesau a chymunedau yng Nghymru. At hynny, fe gyhoeddwyd dogfen fel atodiad sy'n archwilio goblygiadau ar gyfer busnesau'n fwy manwl.

Yr Undeb Ewropeaidd

  • Mae tudalen we’r Comisiwn Ewropeaidd Y canlyniadau i weinyddiaethau cyhoeddus, busnesau a dinasyddion yr UE yn cynnwys mesurau wrth gefn yr UE, a throsolwg fesul sector o'r prif feysydd sydd wedi newid.
  • Creu partneriaeth newydd, sef tudalen we’r Comisiwn Ewropeaidd yw prif ffynhonnell yr UE ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE. Mae'n manylu ar bopeth y cytunwyd arno ers penderfyniad y DU yn 2016 i adael yr UE, gan gynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad newydd. Mae Comisiwn yr UE wedi cynhyrchu dogfen Cwestiynau ac Atebion sy’n crynhoi ei ddarpariaethau.
  • Bydd rhannau o Gytundeb Ymadael y DU a’r UE yn parhau mewn grym. Ymhlith agweddau eraill, mae’r Cytundeb Ymadael a gwblhawyd ym mis Hydref 2019, yn cynnwys hawliau dinasyddion a Phrotocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon.
  • Mae Cornel y Wasg Comisiwn yr UE yn rhestru’r holl ddatganiadau i'r wasg gan yr UE wrth iddynt gael eu cyhoeddi (gan gynnwys pob pwnc) ac mae'n cynnwys swyddogaeth chwilio.

Arall

Mae’r sefydliadau isod yn darparu ffynonellau dibynadwy o ran dadansoddiad ychwanegol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE:


Erthygl gan Nia Moss, Sara Moran a Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru