Adroddiad Monitro Trafodaethau ynglŷn â Gadael yr Undeb Ewropeaidd

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi adroddiadau monitro trafodaethau rheolaidd ar gyfer Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, ar y papurau sefyllfa diweddaraf, y cyhoeddiadau a’r datblygiadau yn y trafodaethau ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd, sydd o bwys i Gymru. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf yma.

Parhau i Ddarllen

Amcangyfrif yr amserlen ddeddfwriaethol ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil ei amserlen Brexit gyntaf yn nodi’r cydgysylltiadau posibl rhwng digwyddiadau allweddol yn nrafodaethau’r DU ar gyfer ymadael â’r UE, paratoadau domestig y DU ar gyfer ymadael, a digwyddiadau cyfansoddiadol allweddol yn y Cynulliad a Chymru yn y 24 mis nesaf. Wrth gyhoeddi’r amserlen gyntaf honno, cafwyd ymrwymiad y byddwn yn diweddaru’r amserlen a’i datblygu wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt. Mae ail fersiwn yr amserlen isod. Mae’n seiliedig ar y wybodaeth gyhoeddus orau sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae’n debygol o gael ei mireinio a’i diwygio eto wrth i’r trafodaethau ddatblygu dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

Parhau i Ddarllen

Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i ddatganoli? Canllaw gweledol.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y DU  Fil yr UE (Ymadael) i Dŷ’r Cyffredin. Un o elfennau’r Bil sydd wedi achosi’r ddadl fwyaf ers ei gyhoeddi yw’r effaith y bydd gan y Bil ar y setliadau datganoledig. Mae gwahaniaethau wedi codi yn y safbwyntiau ynghylch i lle y dylai pwerau dros feysydd fel amaethyddiaeth a physgodfeydd ‘ddychwelyd’ ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae Prif Weinidogion Cymru a’r Alban wedi disgrifio’r Bil fel ‘ymgais hyf i fachu pŵer’ tra bod Llywodraeth y DU wedi amlinellu eu barn bod y Bil yn cynnal ‘the​ ​current​ ​decision making​ ​powers​ ​of​ ​the​ ​devolved​ ​institutions’.

Parhau i Ddarllen

Diogelu gweithwyr amaethyddol yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar effeithiolrwydd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Nod y Ddeddf yw cefnogi yng Nghymru ‘sector amaethyddol gwydn, cynaliadwy, ac wedi’i hyfforddi’n dda’, ac, yn arbennig, mae’n rheoleiddio cyflogau amaethyddol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys ‘cymal machlud’, sy’n golygu y bydd yn peidio â chael effaith ar ôl 30 Gorffennaf 2018 os na wneir deddfwriaeth newydd i’w chadw. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniad yr ymgynghoriad i’w helpu i benderfynu pa un a ddylid cynnal y Ddeddf, ei diwygio neu ddod â hi i ben.

Parhau i Ddarllen

Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i Gymru a datganoli?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr UE (Ymadael) i Senedd y DU. Nod y Bil – y cyfeiriwyd ato gynt fel Bil y Diddymu Mawr neu Fil y Diddymu – yw gwneud y newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn angenrheidiol i gyfraith yn y DU wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE.

Cafodd y Papur Gwyn a arweiniodd at y Bil, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Union, ei gyhoeddi ar 30 Mawrth 2017. Darllenwch fwy yn ein blog.

Parhau i Ddarllen

Cyhoeddiad Newydd: Araith y Frenhines 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cynhaliwyd Araith y Frenhines ar 21 Mehefin 2017, yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2017. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd Araith y Frenhines y flwyddyn nesaf felly mae’r cynigion deddfwriaethol yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd.

Parhau i Ddarllen