Cyhoeddiad newydd: Y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys ffeithiau allweddol am bwysigrwydd economaidd y sector, a thargedau ar gyfer ei dwf. Mae’n nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant, yn amlinellu’r cynnydd diweddar ar gyflwyno’r strategaeth, ac yn tynnu sylw at feysydd y mae’n debygol y bydd ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arnynt. Mae hefyd yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael i fusnesau yn y diwydiant bwyd a diod.

Parhau i Ddarllen

Diogelu gweithwyr amaethyddol yng Nghymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar effeithiolrwydd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Nod y Ddeddf yw cefnogi yng Nghymru ‘sector amaethyddol gwydn, cynaliadwy, ac wedi’i hyfforddi’n dda’, ac, yn arbennig, mae’n rheoleiddio cyflogau amaethyddol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys ‘cymal machlud’, sy’n golygu y bydd yn peidio â chael effaith ar ôl 30 Gorffennaf 2018 os na wneir deddfwriaeth newydd i’w chadw. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniad yr ymgynghoriad i’w helpu i benderfynu pa un a ddylid cynnal y Ddeddf, ei diwygio neu ddod â hi i ben.

Parhau i Ddarllen

A allai parthau rhydd roi hwb i borthladdoedd Cymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ardaloedd sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol o fewn ffiniau tir gwlad ond sydd y tu hwnt i reolaeth tollau yw parthau rhydd. Yn yr ardaloedd hyn, ni chodir tollau mewnforio na threth ar werth hyd nes y bydd nwyddau’n gadael y parth ac yn mynd i mewn i’r wlad y mae’r parth wedi’i lleoli ynddi. Pan fydd parthau rhydd wedi’u lleoli mewn porthladdoedd môr, maent yn aml yn cael eu galw’n borthladdoedd rhydd.

Ymddengys parthau rhydd ledled y byd, o Frasil i Fwlgaria, gan weithredu fel catalyddion ar gyfer masnach ryngwladol drwy ganiatáu i fasnachwyr a chwmnïau cludo ar longau storio nwyddau gydag ychydig iawn o gost a biwrocratiaeth.

Parhau i Ddarllen

Gwneud i’r economi weithio i’r rheiny sydd ag incwm isel

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad yn dechrau clywed gan dystion ar gyfer ei ymchwiliad i wneud i’r economi weithio i’r rheiny sydd ag incwm isel  ar 5 Gorffennaf.  Bydd yn edrych ar sut y gall y Strategaeth Economaidd a Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru wella sefyllfa pobl ar incwm isel, yn ogystal â mesurau i hybu cyflogau isel, (an)sicrwydd gwaith ac anghydraddoldeb economaidd rhwng lleoedd gwahanol a grwpiau gwahanol o bobl.

Parhau i Ddarllen