Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu – pwy ydyn nhw a beth y maen nhw’n ei wneud?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cefndir

Cyflwynwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn lle awdurdodau’r heddlu ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr (y tu allan i Lundain) o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cawsant eu cyflwyno yn dilyn galwadau i wneud y broses o oruchwylio plismona yn fwy democrataidd. Cyflwynwyd y syniad am y tro cyntaf mewn pamffled gan Douglas Carswell, a alwodd am siryfion etholedig, yna cafodd y syniad ei gynnwys ym maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad 2010. Ar y pryd, roedd pobl yn gwrthwynebu’r syniad, gan awgrymu y gallai’r drefn o ethol Comisiynwyr yn uniongyrchol droi plismona yn fater gwleidyddol. Awgrymwyd hefyd y gallai diffyg dealltwriaeth ynghylch rôl a chyfrifoldebau’r swyddogion etholedig rwystro atebolrwydd y Comisiynwyr i’r cyhoedd.

Parhau i Ddarllen

A yw Deddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) 2015 yn gweithio?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 15 Chwefror, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Parhau i Ddarllen

Dadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu 2017-18

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o’r cyllid blynyddol fel rhan o system tair ffordd sydd hefyd yn cynnwys y Swyddfa Gartref a’r dreth gyngor. Gall heddluoedd wneud cais am grantiau arbennig a phenodol hefyd a ffynonellau eraill o incwm.

Continue Reading

Rhestrau darllen ar gyfer gwahanol bynciau – ar gael ar ein blog

12 Mai 2016

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Os ydych yn ceisio dod i ddeall pwnc newydd sbon neu eisiau gwybod beth yw’r prif ddatblygiadau mewn maes polisi, yna gallai rhestrau darllen y Gwasanaeth Ymchwil fod yn le gwych i ddechrau.

Mae’r rhestrau darllen ar gyfer y pynciau gwahanol wedi cael eu llunio gan ein hamryw arbenigwyr pwnc. Y nod yw darparu rhestr wirio ragarweiniol o ddogfennau allweddol a ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y rhai sydd am ddysgu am faes pwnc newydd neu ganfod y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y maes hwnnw. Mae’r rhestrau darllen yn cynnwys lincs at y prif ddogfennau polisi, adroddiadau, adolygiadau, gwefannau a ffynonellau eraill o wybodaeth.

Mae gennym restrau darllen ar gyfer y pynciau canlynol ar hyn o bryd:

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Canolfan hofrennydd heddlu Dyfed Powys yn cau

03 Gorffennaf 2015

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dppopendayx-ray99helicopterdemo

Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons

Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu wedi cyhoeddi y bydd canolfan hofrennydd heddlu Dyfed Powys ym Mhen-bre yn cau er mwyn gwneud arbedion.

Ddydd Iau 7 Gorffennaf, bydd y Cynulliad yn trafod sut mae hofrennydd heddlu Dyfed Powys ‘yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru’.

Beth yw Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu?

Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) yn darparu cefnogaeth awyr i’r holl heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Fe’i sefydlwyd yn 2012 yn dilyn adolygiad o wasanaethau awyr yr heddlu.

O dan NPAS, mae’r cerbyd awyr NPAS agosaf sydd ar gael yn ymateb i geisiadau gan heddluoedd, yn hytrach na bod heddluoedd unigol yn berchen ar eu hofrenyddion eu hunain ac yn eu defnyddio, fel y digwyddodd o dan y system flaenorol.

Pan lansiwyd NPAS, disgwyliwyd iddo wneud arbedion sylweddol o ran costau o gymharu â’r system flaenorol. Dywedodd Damian Green AS, y Gweinidog Plismona ar y pryd:

This new police led, government-supported scheme will keep 98 per cent of people in England and Wales 20 minutes or less from police air support and will save up to £15 million a year.

Yn 2011 roedd 30 o hofrenyddion yr heddlu yn gweithredu o 28 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr. Cyflwynodd NPAS model 22 canolfan, gan leihau nifer y cerbydau awyr i 25 a dweud y byddai hyn mewn gwirionedd yn cynyddu argaeledd cerbydau awyr cyffredinol (cynnydd o 8%).

Beth mae hofrennydd Dyfed Powys yn ei wneud?

Gall yr hofrennydd gyrraedd unrhyw ran o ardal Dyfed Powys o fewn 40 munud a chynorthwyo unedau ar lawr gwlad gyda’r tasgau a ganlyn:

  • Chwilio am bobl sydd ar goll, pobl a ddrwgdybir o gyflawni trosedd, a cherbydau
  • Cludo pobl wedi eu hanafu
  • Cludo timau arbenigol ar draws ardal yr heddlu
  • Casglu cudd-wybodaeth/tystiolaeth gan ddefnyddio ffotograffiaeth o’r awyr a fideo
  • Dilyn cerbydau
  • Gwyliadwriaeth

Mae gwefan Heddlu Dyfed Powys yn nodi y gall yr hofrennydd chwilio un filltir sgwâr o dir mewn deuddeg munud, gan gostio £160 yn unig. Fodd bynnag, byddai’n cymryd 454 awr i swyddogion yr heddlu chwilio’r un ardal, a byddai hyn yn costio dros £4,500. Hefyd:

Gan fod yr heddlu’n gyfrifol am ardal wledig mor eang, a nifer o gymunedau amrywiol, ystyrir yr hofrennydd yn arf hanfodol ar gyfer brwydro yn erbyn trosedd a helpu aelodau’r cymunedau hyn.

Mae fideo ar y wefan yn dangos yr hofrennydd ar waith:

Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, ei fod wedi dod i gytundeb gyda NPAS y byddai hofrennydd yn parhau i fod wedi’i leoli ym Mhen-bre.

Pam bod canolfan Dyfed Powys yn cau?

Ym mis Chwefror 2015 cyhoeddodd NPAS ei fod yn symud i fodel 15 canolfan i wneud arbedion pellach. Ar adeg y cyhoeddiad hwn, roedd 23 o gerbydau awyr yn fflyd NPAS, gan gynnwys 19 o hofrenyddion.

Mae dwy o’r canolfannau a fydd yn cau yng Nghymru – Pen-bre (yn cau ar 1 Ionawr 2016) a Rhuddlan (yn cau ar 15 Medi 2015). Bydd hyn yn gadael dwy ganolfan yng Nghymru – Penarlâg a Sain Tathan.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd rheolwr NPAS:

NPAS needs to find further substantial financial savings with a target of 14% of revenue cuts over the next three years. This is on top of the 23% savings already made.  […]  There is no easy way of doing this and difficult decisions have to be made. […]

This move will help improve the efficiency and effectiveness of the service and mean that every base supports police forces 24 hours a day. It is a move based on an analysis of potential threat, risk and harm to the public we serve.  Part of the move will also see four fixed-wing aircraft form part of the fleet. These will be based out of the East Midlands Airport. Fixed-wing aircraft are cheaper to fly than rotary aircraft [helicopters].

Beth oedd yr ymateb i’r cyhoeddiad?

Dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, fod y penderfyniad yn ‘siomedig iawn’ ac, er ei fod yn cefnogi amcanion y cynllun, ‘ni ddylai hynny ddigwydd ar draul gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig’. Dywedodd hefyd:

… mae’r cynllun hwn yn codi pryder gwirioneddol ynglŷn â pha mor gyflym y gall y Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol ymateb i alwadau yng nghanolbarth Cymru. Os ddaw i rym fel y cynigiwyd, bydd y Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol yn torri ei rwymedigaethau o dan y cytundeb rydyn ni ond newydd ei arwyddo.

Mae Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, wedi gwneud datganiad ar y bwriad i gau’r ganolfan yn Rhuddlan. Dywedodd ei fod yn pendefynu nad yw’r penderfyniad ‘yn canolbwyntio ddigon ar anghenion gogledd Cymru’, a:

Nid yw’r NPAS wedi cymryd amser i egluro’n iawn berth yw’r rhesymeg y tu ôl i’r model gweithredu newydd ac rwyf felly’n edrych a oes opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Cafodd cynnig cynnar-yn-y-dydd ynghylch cau canolfan Pen-bre ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Chwefror 2015. Mae’r cynnig yn nodi:

… that the Dyfed Powys Police and Crime Commissioner had a written agreement with the National Police Air Service (NPAS) in November 2014 that the Pembrey base would be retained; expresses concern at the decision by NPAS to close 10 of the current 25 helicopter bases across the UK, including Pembrey; and calls on the Government to intervene to overturn this decision.

 

Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod – blwyddyn wedi pasio

30 Mehefin 2015

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae 12 mis wedi pasio ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil i leihau trais ar sail rhywedd yng Nghymru. Ddydd Mawrth 30 Mehefin, bydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y cynnydd a wnaed.

Felly, beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf?

VAWwelshYm mis Mawrth 2015, pasiwyd y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ar ôl taith anodd drwy’r Cynulliad, gan gynnwys newid yr enw ac amryw gonsesiynau ar addysg.

Mae’r blog hwn yn rhoi manylion am y problemau cychwynnol a wynebodd y Ddeddf, a’r blog hwn yn amlinellu sut mae’r darpariaethau addysg yn y Ddeddf wedi esblygu.

Dyma brif rannau’r Ddeddf:

  • dyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau cenedlaethol;
  • dyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau lleol;
  • dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol, gan gynnwys drwy addysg rhyw;
  • pŵer i Weinidogion gyhoeddi canllawiau statudol a’r ddyletswydd i ddilyn y canllawiau o’r fath; a
  • penodi Cynghorydd Trais yn erbyn Menywod.

Newyddion Diweddar

  • Cafodd y swydd Cynghorydd Trais yn Erbyn Menywod gyda Llywodraeth Cymru (a gafodd ei chreu gan y Ddeddf) ei hysbysebu, ond fel rôl ran-amser;
  • Bu Cymorth i Fenywod Cymru yn ymgynghori ar Ganllaw Arfer Da i gyflwyno Dulliau Addysg Cyfan i Atal Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Ebrill;
  • Mae’r adroddiadau diweddar yn y newyddion yn awgrymu nad yw’r hyfforddiant heddlu yng Ngwent yn cyrraedd y safon, gyda llawer yn dibynnu ar e-ddysgu;
  • Mae ymchwil academaidd yn dangos y gall troseddau treisgar fod 60 y cant yn uwch nag a ystyriwyd yn flaenorol, oherwydd y gall dioddefwyr gofnodi uchafswm o bum digwyddiad yn unig;
  • Yr wythnos diwethaf, datgelodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod 5,124 o bobl wedi’u canfod i fod yn euog am drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru yn 2014-15;
  • Cafodd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod, yn archwilio pa mor dda y mae’r DU yn ymateb i drais yn erbyn menywod a merched, ei gyhoeddi ym mis Mehefin gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig yr Athro Cyswllt Rashida Manjoo. Yn yr adroddiad, mae Rashida Manjoo yn argymell y dylai Llywodraeth y DU:
    • werthuso ar frys sut y caiff gwasanaethau cefnogi menywod (gan gynnwys llochesi, llinellau cymorth a gwasanaethau menywod BME) sy’n achub bywydau, eu hariannu ac ymrwymo i sicrhau eu bod yn ddigonol ac yn gynaliadwy;
    • gwneud addysg rhyw a pherthnasau’n orfodol mewn ysgolion fel ffordd sylfaenol o sicrhau bod y DU yn ceisio atal cam-drin;
    • edrych ar sut y mae newidiadau i gymorth cyfreithiol yn effeithio ar fenywod sy’n cael eu cam-drin;
    • adolygu sut y caiff hawliadau ceiswyr lloches sy’n fenywod eu hasesu i sicrhau sensitifrwydd ar sail rhywedd; a chaniatáu archwiliad annibynnol o driniaeth menywod yng nghanolfan cadw mewnfudwyr Yarls Wood (ni chafodd fynediad at y ganolfan ar ei hymweliad â’r DU).

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i roi’r Ddeddf ar waith, o lunio addysg perthnasau iach effeithiol i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ar y rheng flaen, a datblygu strategaethau cenedlaethol a lleol.

 View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Na i ‘gyffuriau penfeddwol cyfreithlon’! Mynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru

12 Mai 2015

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cafodd sylweddau seicoweithredol newydd (NPS) eu cydnabod fel bygythiad sy’n dod i’r amlwg yn dilyn cynnydd cyflym yn y defnydd o’r cyffur meffedron (meow meow, m-cat) yn 2009.

Gan eu bod ar gael yn eang drwy’r rhyngrwyd ac ar y stryd fawr, credir mai’r prif ffactorau yn y defnydd cynyddol o’r sylweddau hyn yw’r ffaith eu bod ar gael mor rhwydd, ac am bris isel a phurdeb uchel o bosibl, o gymharu â chyffuriau anghyfreithlon.

Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons

Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons

Mae sylweddau seicoweithredol newydd, y cyfeirir atynt yn gyffredin fel ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’, yn gyffuriau sydd wedi cael eu syntheseiddio i gynhyrchu’r un effeithiau â chyffuriau anghyfreithlon, neu effeithiau tebyg. Nid yw sylweddau seicoweithredol newydd yn cael eu rheoli’n awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971) gan eu bod newydd eu creu a gall eu cyfansoddiad cemegol fod ychydig yn wahanol i sylweddau sydd wedi eu gwahardd.

Mae pryder sylweddol bod camsyniad eu bod yn ddiogel gan eu bod yn cael eu hystyried yn ‘gyfreithlon’. Nid yw defnyddwyr yn aml yn ymwybodol o gynnwys gwirioneddol y cyffur y maent yn ei gymryd, y cryfder a’r sgil-effeithiau sydd yn anodd eu rhagweld. Ymchwil gyfyngedig a fu i’r effeithiau, yn enwedig yr effeithiau hirdymor o gymryd y cyffuriau hyn. Yn ogystal, canfuwyd fod rhai sylweddau seicoweithredol newydd yn cynnwys sylweddau sydd eu hunain yn anghyfreithlon.

Roedd tystiolaeth a gafodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ar gyfer ei ymchwiliad diweddar i sylweddau seicoweithredol newydd  yn rhoi ar ddeall bod ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn gamenw peryglus, a bod angen gwneud rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd. Mae nifer o argymhellion y Pwyllgor yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o sylweddau seicoweithredol newydd, gan gynnwys sicrhau agwedd fwy cyson tuag at addysg cyffuriau mewn ysgolion, a darparu gwybodaeth wedi’i theilwra i rieni.

Gall y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd fod yn isel yn gyffredinol ac yn gysylltiedig â llai o niwed o gymharu â chyffuriau anghyfreithlon. Fodd bynnag, nid yw maint y broblem gyda sylweddau seicoweithredol newydd yn cael ei ddeall yn llawn gan fod diffyg data swyddogol ar gael i ddarparu darlun cywir. Mae’n bosibl nad oes digon o adroddiadau am y niwed a achosir gan gyffuriau penfeddwol cyfreithlon – o ystyried yr anghysondeb o ran cynhwysion er enghraifft, efallai nad yw defnyddwyr na gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod pa sylwedd a achosodd adwaith andwyol.

Mae nifer o ‘systemau rhybuddio cynnar’ ar waith i gasglu, profi ac amlinellu sylweddau newydd sydd o gwmpas. Yng Nghymru, er enghraifft, sefydlwyd y prosiect WEDINOS  ym mis Hydref 2013.

Heb ddealltwriaeth well o gyffredinolrwydd a phatrymau defnydd fodd bynnag, mae cynllunio gwasanaethau priodol ar gyfer defnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd yn parhau i fod yn her. Mae adroddiad diweddar gan yr elusen DrugScope yn nodi mai cymharol ychydig o bobl sy’n dod i wasanaethau trin gan nodi sylweddau seicoweithredol newydd fel eu prif broblem cyffuriau – ‘Fodd bynnag, gall hyn fod yn adlewyrchiad o’r ffordd y mae’r gwasanaethau wedi eu sefydlu.’ Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn argymell bod gwaith brys yn cael ei wneud i sefydlu dulliau effeithiol o fesur y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ymysg y boblogaeth.

Mae  strategaeth camddefnyddio sylweddau Cymru  Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio ar faterion sy’n croesi ffiniau meysydd cyfrifoldeb sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli – fel deddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau a gweithgareddau gorfodi, er mwyn mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn effeithiol.

Er mwyn mynd i’r afael â chyflenwi a masnachu sylweddau seicoweithredol newydd, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ym mis Hydref 2014 y byddai’n ymchwilio i ddichonoldeb gwaharddiad ledled y DU ar werthu sylweddau seicoweithredol newydd, gan dargedu siopau arbennig ar y stryd fawr (head shops) a gwefannau sy’n seiliedig yn y DU. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu hyn, ond mae’n pwysleisio na fydd dulliau deddfwriaethol yn unig yn ddigon.

Mae’n amlwg nad oes unrhyw ‘fwled arian’. Bydd dull partneriaeth, gydlynol sy’n cynnwys yr holl asiantaethau a gwasanaethau perthnasol, yn allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r hyn a all fod yn broblem sy’n tyfu – ond sy’n dal i fod yn gudd i ryw raddau – yng Nghymru a ledled y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor, gan groesawu ei waith ac yn cefnogi pob un o’r 14 argymhelliad. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei drafod yn y Cynulliad ar  13 Mai 2015.

Lincs: