Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017, cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg.

Mae’r adroddiad statudol yn rhoi gwybodaeth a manylion am waith y Comisiynydd a’i staff ac adolygiad o’r materion sy’n berthnasol i’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd.

Yn ddiweddar, ymddangosodd y Comisiynydd gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i drafod yr adroddiad.

Parhau i Ddarllen

Cymraeg 2050 – Gwireddu’r uchelgais (Rhan 2)

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Roedd erthygl ddoe yn darparu ychydig o gyd-destun i strategaeth drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg, ac i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynigion Llywodraeth Cymru. Edrychom hefyd ar rai o brif agweddau’r Strategaeth derfynol – Cymraeg 2050 (PDF, 4.16MB).

Heddiw, cawn gip manylach ar y prif themâu a Rhaglen Waith Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-2021.

Prif Themâu a’r Rhaglen Waith ar gyfer 2017-2021.

Mae gan y Strategaeth dair thema strategol sy’n sylfaen i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflawni’r nod hon. Ystyrir y themâu hyn i fod yn gyd-ddibynnol, fel y mae nifer o’r nodau unigol yn y Strategaeth.

Thema 1 – Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae trosglwyddo iaith yn rhan bwysig i gynnal iaith. Mae ymchwil wedi dangos bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gallu siarad Cymraeg yn rhugl ac ymhle y mae iaith wedi’i chaffael. Yn gyffredinol, po gynharaf y caiff iaith ei chaffael, y mwyaf tebygol fydd yr unigolyn o fod yn rhugl.

Mae’r strategaeth yn cydnabod y pwysigrwydd a’r angen i gefnogi trosglwyddo iaith yn y cartref, a darparu cymorth a chefnogaeth ar gyfer rhieni newydd a rhieni yn y dyfodol. Fodd bynnag, er mor bwysig yw trosglwyddo iaith yn y cartref, nifer cyfyngedig o siaradwyr Cymraeg y gellid eu creu drwy’r dull hwn.

Er mwyn creu’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg sydd eu hangen, bydd Llywodraeth Cymru’n ddibynnol ar y system addysg fel y prif ddull i greu siaradwyr Cymraeg newydd. Bydd angen i’r system sicrhau nad yw pobl ifanc yn colli’r sgiliau a ddysgwyd mewn addysg statudol wrth iddynt fynd ymlaen i addysg ôl-16 ac i’r gweithle.

Nod Llywodraeth Cymru dan y thema hon yw:

  • cynyddu lefel y gefnogaeth i deuluoedd drosglwyddo’r iaith yn y cartref;
  • rhagor o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar;
  • creu system addysg statudol sy’n helpu cynyddu’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yn hyderus;
  • datblygu darpariaeth Gymraeg ôl-16 a chynyddu cyfraddau dilyniant;
  • gwella a chynyddu’r gweithlu addysg a hyfforddiant, a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Thema 2 – Cynyddu defnydd y Gymraeg

Er bod cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn rhan greiddiol i lwyddiant y strategaeth, gwir lwyddiant y strategaeth byddai cynyddu defnydd y Gymraeg bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru am weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio fel ‘rhan arferol o fywyd bob dydd’, a chynnig rhagweithiol o’r Gymraeg yn norm wrth dderbyn nwyddau a gwasanaethau.

Bydd sicrhau bod cyfle i bobl ddefnyddio’r iaith mewn amrywiol sefyllfaoedd, yn gymdeithasol ac yn y gweithle yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth.

Prif amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y thema hon yw:

  • sicrhau rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws yr holl sectorau;
  • cynyddu nifer y gwasanaethau a gynigir a defnydd o’r gwasanaethau hynny yn y Gymraeg; a
  • sicrhau bod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Thema 3 – Creu amodau ffafriol

Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod ‘amodau addas ac amgylchedd lle gall y Gymraeg a’i siaradwyr ffynnu’. Mae datblygu economi ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru yn greiddiol i greu amodau cymdeithasol a fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i aros yn eu cymunedau.

Agwedd bwysig arall ar y thema hon yw datblygu seilwaith sy’n cefnogi datblygiad iaith a sgiliau iaith. Mae hyn yn cynnwys datblygu adnoddau digidol, sicrhau bod cyfryngau amrywiol ac iach, a chefnogi’r proffesiwn cyfieithu.

Prif amcanion Llywodraeth Cymru yn y thema hon yw:

  • cefnogi seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg;
  • sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd arloesedd mewn technoleg ddigidol;
  • sicrhau datblygiad parhaus seilwaith y Gymraeg (geiriaduron, terminoleg a’r proffesiwn cyfieithu); a
  • ymgorffori cynllunio ieithyddol yn genedlaethol, rhanbarthol ac yn lleol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Raglen Waith 2017-2021 (PDF698,KB) sy’n nodi sut y mae’n bwriadu cyflawni nodau’r strategaeth dros y pedair blynedd nesaf. Rhai o’r cerrig milltir i’w cyrraedd erbyn 2021 yw:

  • Cefnogi’r gwaith o wella darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg gan 40 grŵp meithrin;
  • Gwella’r gwaith o gynllunio darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg i hwyluso cynnydd addysg statudol cyfrwng Cymraeg;
  • Cynyddu nifer y plant saith oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg o 7,700 (22%) i tua 8,400 (24%);
  • Cynyddu nifer yr athrawon cynradd sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 2,900 i 3,100;
  • Cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 2,200;
  • Cynyddu nifer yr athrawon uwchradd sy’n addysgu Cymraeg fel pwnc o 500 i 600.
  • Adolygu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
  • Datblygu cefnogaeth well er mwyn integreiddio mewnfudwyr i gymunedau Cymraeg gan dynnu ar y tebygrwydd â rhaglen Voluntariat per la Llengua yng Nghatalwnia.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol, ac mae’n cydnabod y bydd yn ‘her’ cyflawni’r targed. Wrth osod targed uchelgeisiol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025, mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio nad her i’r Llywodraeth yn unig yw hon, ond her i’r holl genedl:

Ni all Llywodraeth fynnu bod rhiant yn defnyddio’r Gymraeg gyda’i blentyn. Ni all fynnu bod plant yn chwarae gyda’i gilydd yn Gymraeg. Ac ni all fynnu bod rhywun yn defnyddio’r Gymraeg yn y swyddfa bost. Mae hwn yn rhan o gynllun ar ein cyfer ni fel cenedl ac fel cymdeithas. (Ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050)

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ei Adroddiad wedi rhoi pob cefnogaeth i’r Strategaeth, gan ddweud ei bod yn ‘lwyr gefnogi nod mentrus y polisi’. Ond rhybuddiodd hefyd os oedd y Strategaeth am lwyddo, bydd angen gwaith caled, adnodau ychwanegol sylweddol a thargedau clir. Yn bwysicach fyth, bydd angen i’r strategaeth fod â chefnogaeth barhaus pobl Cymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg.

Os yw strategaeth Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus, byddai’n dod â hanner canrif o ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i ben, gan ymron ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ar 04/09/2017, bydd Aelodau’r Cynulliad yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei ymchwiliad i Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cymraeg 2050 – Gwireddu’r uchelgais (Rhan 1)

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyd-destun

Ychydig dros flwyddyn yn ôl ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni, lansiodd y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref 2016. Daeth y strategaeth flaenorol, Iaith fyw: iaith byw 2012-2017 (PDF 839KB) i ben yn swyddogol ar 31 Mawrth 2017.

Parhau i Ddarllen

Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg newydd (Rhan 2)

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn rhan gyntaf yr erthygl, edrychwyd ar y prif gynigion ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg (PDF, 868KB). Mae’r rhan yma o’r erthygl yn edrych yn fanylach ar rai o’r manylion yn y ddogfen ymgynghori.

Parhau i Ddarllen

Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg newydd (Rhan 1)

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r erthygl yma wedi ei rannu yn ddwy ran, gyda’r rhan gyntaf yn gosod y cyd-destun a darparu trosolwg o brif gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg. Bydd yr ail ran, i’w gyhoeddi brynhawn ‘ma, yn darparu rhagor o fanylion am gynigion y Llywodraeth.

Parhau i Ddarllen

Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru: Aelodau’r Cynulliad i drafod deiseb

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun aneglur o fand roc ar lwyfan

Ddydd Mercher 12 Gorffennaf, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod deiseb yn galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae’r ddeiseb wedi dal dychymyg pobl sy’n caru cerddoriaeth fyw yng Nghymru a chasglodd dros 5,000 o lofnodion.

Dyma’r tro cyntaf i ddeiseb y Cynulliad gasglu dros 5,000 o lofnodion ers i’r broses ddeisebu newydd gael ei chyflwyno ym mis Mawrth. Mae’r newidiadau yn caniatáu i’r Pwyllgor Deisebau ofyn am ddadl y Cynulliad ar unrhyw ddeiseb sy’n casglu mwy na 5,000 o lofnodion.

Parhau I Ddarllen

Darlledu yng Nghymru: y newyddion diweddaraf ers yr adroddiad y Darlun Mawr

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ‘Y Darlun Mawr’, sef adroddiad yn nodi ei safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn yn dilyn cyfarfodydd gyda’r BBC, ITV, S4C a’r diwydiant rheoleiddio – Ofcom – yn yr hydref  2016. Yr wythnos hon, sef dydd Mercher 14 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

Ers cyhoeddi’r adroddiad bu datblygiadau arwyddocaol yn ymwneud â’r BBC ac S4C, sianel Gymraeg S4C.

Parhau i Ddarllen