Cyhoeddiad newydd: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) – Crynodeb o Fil

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r Crynodeb o Fil yma wedi’i baratoi i gynorthwyo’r Cynulliad i graffu ar y  Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Bydd y Bil yn cyfyngu ar yr Hawl i Brynu (gan gynnwys yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Brynu a Estynnwyd) a’r Hawl i Gaffael yng Nghymru ac, yn y pen draw, yn dod â nhw i ben. Diben datganedig Llywodraeth Cymru y Bil yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu caffael cartrefi drwy’r farchnad dai. Mae o’r farn bod y dull hwn o weithredu’n seiliedig ar egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac y bydd hefyd yn annog awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd.

Parhau i Ddarllen

Cartrefi Clyd i Gymru

Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi’n wreiddiol ar 30 Mawrth 2017. Mae’n cael ei hailbostio cyn y Ddadl Aelodau Unigol ar effeithlonrwydd ynni yn y cartref a thlodi tanwydd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin 2017.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda nifer o’r cyflenwyr ynni mawr yn cyhoeddi cynnydd yng nghost trydan a nwy yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tlodi tanwydd yn ôl yn y penawdau. Er na all Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar gost ynni na gwneud i bobl newid cyflenwyr, fe all, ac mae yn cyflwyno rhaglenni sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Parhau i Ddarllen

Cartrefi Clyd i Gymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda nifer o’r cyflenwyr ynni mawr yn cyhoeddi cynnydd yng nghost trydan a nwy yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tlodi tanwydd yn ôl yn y penawdau. Er na all Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar gost ynni na gwneud i bobl newid cyflenwyr, fe all, ac mae yn cyflwyno rhaglenni sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Parhau i Ddarllen

Cartrefi Clyd i Gymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda nifer o’r cyflenwyr ynni mawr yn cyhoeddi cynnydd yng nghost trydan a nwy yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tlodi tanwydd yn ôl yn y penawdau. Er na all Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar gost ynni na gwneud i bobl newid cyflenwyr, fe all, ac mae yn cyflwyno rhaglenni sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Parhau i Ddarllen

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru: beth ydyw a phryd y bydd ar gael?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

 

Mae’r dull o ran cynllunio defnydd tir strategol yng Nghymru yn newid. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cyflwyno dwy lefel newydd o gynllun datblygu, a fydd yn eistedd uwchben y Cynlluniau Datblygu Lleol presennol:

  • Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac yn disodli Cynllun Gofodol Cymru; a
  • Chynlluniau Datblygu Strategol – mae’r rhain yn gynlluniau rhanbarthol a fydd yn eistedd rhwng y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddant yn ymdrin â materion sy’n torri ar draws nifer o ardaloedd awdurdod cynllunio lleol (ond nad ydynt o arwyddocâd cenedlaethol).

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn ein papur briffio ar bolisi cynllunio lleol (PDF 1MB) ac ym Mhrosbectws Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru.

Parhau i Ddarllen

Mae amser yn rhedeg allan i landlordiaid ac asiantau

22 Tachwedd 2016

Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Tai teras

Llun: o Geograph gan Robin Stott. Dan drwydded Creative Commons.

Flwyddyn ar ôl lansio Rhentu Doeth Cymru, mae 23 Tachwedd 2016 yn nodi dechrau cyfnod nesaf y cynllun wrth gychwyn ar weddill adrannau Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014. O’r dyddiad hwnnw, bydd landlordiaid ac asiantau yn y sector preifat sydd wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion newydd i gofrestru a chael trwydded yn wynebu ystod o gosbau posibl. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o orfod talu rhent yn ôl i denantiaid, methu troi tenant allan a hyd yn oed erlyniad troseddol.

Beth yw’r gofynion newydd?

Mae dwy agwedd i’r cynllun: cofrestru a thrwyddedu.

Mae cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord sydd ag eiddo yng Nghymru i osod o dan ‘tenantiaeth ddomestig’ i gofrestru eu manylion personol, a manylion eu heiddo ar rent, gyda Rhentu Doeth Cymru. Rhentu Doeth Cymru yw’r gwasanaeth yng Nghyngor Caerdydd sy’n rheoli’r cynllun ar ran Cymru gyfan.  Mae ‘tenantiaeth ddomestig’ yn cynnwys tenantiaeth sicr, tenantiaeth fyrddaliol sicr a thenantiaeth reoleiddiedig – dyna’r mwyafrif helaeth o denantiaethau yn y sector rhent preifat.  Nid yw, er enghraifft, yn cynnwys landlordiaid sy’n gosod ystafell yn eu cartref eu hunain o dan drefniant lletywr (gan na fyddai ‘tenantiaeth ddomestig’).  Mae’n rhaid i landlordiaid dalu ffi i gofrestru a rhaid cwblhau’r cais ar-lein, neu ar bapur – ond bydd cais papur yn costio mwy.  Mae cofrestriad yn para pum mlynedd.

Bydd angen trwydded ar rai landlordiaid hefyd, yn ogystal ag asiantau.

Bydd angen trwydded ar landlord os ydynt yn gwneud gweithgareddau gosod neu reoli mewn perthynas â’u heiddo eu hunain. Mae’r rhain wedi’u diffinio yn y ddeddfwriaeth, ac maent yn cynnwys pethau fel trefnu ymweliadau, trefnu atgyweiriadau a chasglu’r rhent.  Mae rhestr lawn ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru.

Bydd angen trwydded ar asiantau os ydynt yn gwneud gwaith gosod a rheoli, fel y diffinnir yn y ddeddfwriaeth. Nid yw ‘asiant’ o reidrwydd yn golygu asiant gosod proffesiynol – gallai fod yn drefniant anffurfiol fel rheoli eiddo ar ran ffrind neu berthynas.  Mae rhai eithriadau i asiantau sydd ond yn gwneud gwaith cyfyngedig iawn, ond bydd angen trwydded ar y mwyafrif helaeth o asiantau.  Mae manylion llawn ynghylch pryd fydd angen trwydded ar asiant ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru.

Gwneud cais am drwydded

Yn ogystal â thalu ffi, rhaid i landlordiaid ac asiantau ddilyn hyfforddiant i gael trwydded a hefyd bod yn ‘berson addas a phriodol’. Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi yn amodol ar ystod o amodau.  Ar gyfer asiantau, bydd amod o ran y drwydded sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael Diogelwch Arian Cleientiaid, Yswiriant Indemniad Proffesiynol ac Aelodaeth o Gynllun Gwneud Iawn o fewn chwe wythnos.  Bydd gan nifer o asiantau sy’n aelodau o gyrff proffesiynol y tri pheth hyn eisoes fel rhan o’u haelodaeth.

Bydd pob trwydded yn amodol ar amod y cydymffurfir â’r Cod Ymarfer a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i Rhentu Doeth Cymru benderfynu ar geisiadau trwydded o fewn wyth wythnos i’w cael. Ar ôl iddynt gael eu rhoi, byddant yn para am bum mlynedd.

Beth am gynlluniau trwyddedu eraill?

Rhaid i rai eiddo gael eu trwyddedu o dan Ddeddf Tai 2004.  Y drwydded fwyaf nodedig yw Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) sydd angen eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol.  Mewn rhai ardaloedd, lle mae cynlluniau trwyddedu dethol, bydd angen trwydded ar eiddo rhent eraill hefyd.  Mae cofrestru Rhentu Doeth Cymru a gofynion trwyddedu yn ychwanegol at unrhyw ofynion eraill sydd angen eu trwyddedu i eiddo penodol.

Ymateb gan y sector

Cafwyd rhai pryderon gan grwpiau sy’n cynrychioli landlordiaid nad oes digon o ymwybyddiaeth o’r gofynion newydd ymysg landlordiaid preifat.  Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod rhwng 70,000 a 130,000 o landlordiaid sector preifat yng Nghymru.  Mae’r ffigyrau diweddaraf (ar 21 Tachwedd 2016) gan Rhentu Doeth Cymru yn awgrymu bod tua 55,000 o landlordiaid wedi cofrestru, a bod 12,700 o geisiadau eraill wedi’u cychwyn ond heb eu cwblhau eto. 

Rhagor o wybodaeth

Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru yn darparu cyfoeth o wybodaeth a fydd yn ateb y rhan fwyaf o gwestiynau cyffredin am y cynllun. Dylai landlordiaid allu cael cyngor gan gymdeithasau landlordiaid hefyd.  Gall tenantiaid weld a yw eu landlord ac asiant wedi cydymffurfio â’r gofynion newydd gan ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar wefan Rhentu Doeth Cymru.

Cymdeithasau Tai yng Nghymru: cyrff cyhoeddus neu breifat?

29 Medi 2016

Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun: Flikr gan Part 3. Dan drwydded Creative Commons

Heddiw (29 Medi 2016), cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn cael eu hailddosbarthu fel cyrff sector cyhoeddus yn y cyfrifon cenedlaethol. Gallai’r penderfyniad hwn gael effaith negyddol ar allu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (yr hyn y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei alw’n gymdeithasau tai) i gael mynediad at gyllid preifat, ac o ganlyniad i hynny, eu gallu i ddatblygu tai fforddiadwy.  Cyhoeddwyd penderfyniadau tebyg hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw mewn perthynas â’r Alban a  Gogledd Iwerddon.

Disgwyliwyd y cyhoeddiad heddiw gan lawer yn y sector. Nid yw’n benderfyniad gwleidyddol, ond yn hytrach, y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dilyn rheolau rhyngwladol ar gyfrifyddu yn y sector cyhoeddus. Yn 2015, ail-ddosbarthodd  y Swyddfa Ystadegau Gwladol Ddarparwyr Cofrestredig Preifat tai cymdeithasol yn Lloegr, a elwir hefyd yn gymdeithasau tai, fel cyrff sector cyhoeddus.  Amlygodd y penderfyniad hwnnw mai’r rheswm  dros eu hailddosbarthu oedd faint o reolaeth oedd gan y llywodraeth dros y cymdeithasau.  Ar ôl hynny cyflwynodd Llywodraeth y DU nifer o fesurau yn Neddf Tai a Chynllunio 2016 i ddadreoleiddio’r sector yn Lloegr. Felly, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gallu dychwelyd Darparwyr Cofrestredig Preifat Lloegr i’r sector preifat ar ryw adeg yn y dyfodol agos.  Ymddengys bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn gorfod gwneud yr un peth, a chyflwyno ei deddfwriaeth ei hun i leihau rheolaethau’r llywodraeth a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Effaith ymarferol yr ailddosbarthu yw rhoi dyled cymdeithasau tai ar y fantolen gyhoeddus at ddibenion cyfrifyddu cenedlaethol, gan gynyddu benthyciadau’r sector cyhoeddus, a hynny er mawr siom i Drysorlys Ei Mawrhydi. Yng Nghymru, gallai hyn ychwanegu dros £2 biliwn o ddyled at fantolen y sector cyhoeddus.  Yn Lloegr, cynyddodd y penderfyniad ddyled net y sector cyhoeddus bron i £60 biliwn.

Gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei phenderfyniad i ddosbarthu Darparwyr Cofrestredig Preifat fel cyrff sector cyhoeddus yn Lloegr yn bennaf ar sail newidiadau deddfwriaethol a rheoleiddiol a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008. Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod maint y reolaeth sydd gan Lywodraeth y DU dros gymdeithasau tai, a hynny’n bennaf drwy’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, yn golygu y dylent gael eu dosbarthu fel rhan o’r sector cyhoeddus.  Er bod rheoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru yn cael ei lywodraethu’n bennaf gan Ddeddf Tai 1996, caiff llawer o’r un rheolaethau eu harfer gan Lywodraeth Cymru (yn ei rôl fel rheoleiddiwr cymdeithasau tai) â’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau.  Adlewyrchir hynny yn y datganiad heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n dweud:

…eu bod wedi dod i’r casgliad fod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) yn ddarostyngedig i reolaeth sector gyhoeddus oherwydd, ymhlith pethau eraill: pwerau Gweinidogion Cymru dros reolaeth o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, pwerau caniatâd Gweinidogion Cymru dros waredu tir a gwaredu asedau tai, a phwerau Gweinidogion Cymru dros newidiadau cyfansoddiadol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Er y disgwylir i Lywodraeth Cymru gael rhywfaint o amser i ddatrys y mater hwn cyn i’r Trysorlys geisio gosod rheolaethau ar fenthyca, mae penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn debygol o gael ei wneud cyn bo hir er mwyn osgoi ansicrwydd, yn enwedig ymhlith benthycwyr. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, sef y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, wedi cyhoeddi datganiad ac am ddarparu cyngor cyfreithiol i’w Aelodau cyn hir.

Efallai y bydd rhai rhanddeiliaid yn gwrthod symudiadau tuag at hyn y gellid ei weld fel dadreoleiddio’r sector, ond efallai nad oes llawer o ddewis. Os bydd cymdeithasau tai Cymru yn parhau i fod yn rhan o’r sector cyhoeddus (at ddibenion cyfrifyddu o leiaf) gallent fod yn destun capiau’r Trysorlys ar fenthyca a gallai’r targed o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd y Pumed Cynulliad fod yn llawer mwy heriol.