O flaen y Senedd

Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd Plant Cymru

 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad Blynyddol diweddaraf (2016-17) Comisiynydd Plant Cymru.

Mae’r ddadl hon yn gyfle i Aelodau’r Cynulliad drafod yr hyn y mae’r Comisiynydd wedi’i nodi fel y materion a’r heriau diweddaraf sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Byddant hefyd yn clywed beth yw ymateb Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies. Disgwylir i ymateb Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi yn dilyn y ddadl. Y mis diwethaf, clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad gan y Comisiynydd yn uniongyrchol am y materion sydd wedi’u cynnwys yn ei hadroddiad. Gallwch weld yr hyn a drafodwyd ar Senedd TV yma.

Parhau i Ddarllen