Anghenion Dysgu Ychwanegol – y Senedd i drafod yr angen am fwy o ddiwygio

Cyhoeddwyd 03/05/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r ffordd o gefnogi dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wrthi’n newid. Er bod galw ers tro am ddiwygiadau, mae rhai wedi mynegi pryder am y ffordd y maent yn cael eu gweithredu.

Ar 8 Mai, bydd y Senedd yn cynnal dadl ar ddeiseb yn galw am ddiwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021. Mae’r ddeiseb yn nodi, er gwaethaf y ffaith mai ychydig flynyddoedd yn unig yw hi ers i’r newidiadau gael eu cyflwyno, sy’n gwneud addewidion o gymorth cynharach a gwell i blant a phobl ifanc ag ADY, mae mwy a mwy o ddisgyblion ADY yng Nghymru’n cael eu methu. Mae ein papur briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau yn rhoi cefndir i'r diwygiadau, a llywiodd ystyriaeth y Pwyllgor o'r deisebau ym mis Mawrth. Mae'r erthygl hon yn trafod y diwygiadau a sut mae Pwyllgorau’n craffu arnynt.

Sut mae'r system ADY yn newid?

Mae'r system ADY newydd yn disodli'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ac yn cael ei chyflwyno dros bedair blynedd rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2025. Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021 yn ddogfen statudol sy'n esbonio beth mae'n ofynnol i sefydliadau ei wneud yn ôl y gyfraith i ddiwallu ADY plant a phobl ifanc. Hefyd, mae’n gosod gofynion ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG.

Cafodd y diwygiadau i AAA/ADY eu disgrifio gan Lywodraeth Cymru ar y pryd fel “ailwampio’r system yn llwyr” gan “nad yw bellach yn addas at ei ddiben”. Mewn adolygiadau o’r system AAA, canfu fod cydweithio annigonol rhwng meysydd llywodraeth leol ac iechyd, anghysondebau yn y modd y mae anghenion gwahanol ddysgwyr yn cael eu diwallu; a bod rhieni o’r farn eu bod yn gorfod brwydro i sicrhau darpariaeth.

Mae gan y diwygiadau ADY dri nod trosfwaol, fel y nodwyd yn y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

  • Darparu un system i blant o'u genedigaeth, gan gynnwys disgyblion mewn ysgolion a myfyrwyr mewn colegau, waeth beth yw lefel yr angen. Bydd pob dysgwr ag ADY yn cael ‘Cynllun Datblygu Unigol’ statudol;
  • Sicrhau cydweithio agosach rhwng y GIG a llywodraeth leol;
  • Darparu system fwy tryloyw er mwyn osgoi achosion o anghytuno a datrys anghydfodau.

Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a sefydlodd y system newydd, yn cadw'r un diffiniad ar gyfer ADY ag ar gyfer AAA. Mae gan bob dysgwr ag ADY sydd wedi symud i’r system newydd hawl i Gynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol. Mae hyn yn wahanol i'r system AAA, lle mai dim ond dysgwyr sydd â'r anghenion mwyaf difrifol/cymhleth sydd â ‘datganiadau’ y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol sy'n nodi'r gefnogaeth y mae ganddynt hawl i'w chael. Mae gan y mwyafrif sy’n weddill o'r dysgwyr hynny y nodwyd eu bod ag AAA gynlluniau anstatudol mwy cyfyngedig.

Mae’r system AAA a’r system ADY newydd yn gweithredu ochr yn ochr, tan fis Awst 2025. Mae'r holl ddysgwyr sydd newydd gael eu nodi ag ADY yn dod o dan y system newydd, gyda’r rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi ag AAA yn symud draw i’r system newydd yn raddol, yn dibynnu ar eu grŵp blwyddyn ac a oes ganddynt ddatganiad o AAA ai peidio.

Monitro’r diwygiadau

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn cynnal cyfnodau monitro rheolaidd ar y broses o weithredu'r diwygiadau mawr i’r cwricwlwm ac ADY yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn cynnal ei drydedd 'sesiwn fonitro' gan ganolbwyntio ar ddiwygiadau ADY. Yn ogystal ag ymweld ag ysgolion, mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth lafar gan Estyn, y Barnwr Jane McConnell, Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru a Grŵp Cynghori Ar-lein y Pwyllgor o rieni yr oedd gan eu plant brofiad o ADY.

Yn eu tystiolaeth, trafododd Estyn yr adroddiad a gyhoeddodd ym mis Medi 2023 ar weithredu’r system ADY newydd hyd yma. Awgrymon nhw fod rhywfaint o ddiffyg eglurder ynghylch dyletswyddau statudol, a chanfod nad yw'r diffiniad cyfreithiol presennol o ADY yn cael ei ddefnyddio mewn modd cyson.

Hefyd, nodwyd yn yr adroddiad fod nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY wedi gostwng draean ar y cyfan ers dechrau rhoi’r system newydd ar waith – o 93,000 yn 2020/21 (20% o’r holl ddisgyblion) i 63,000 (13% o’r holl ddisgyblion) yn 2022/23. Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd, fod gormod o achosion o AAA wedi eu nodi neu eu bod wedi eu categoreiddio'n anghywir yn y gorffennol a bod y Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynwyr ADY) yn defnyddio'u crebwyll i unioni hyn. Mae ein herthygl, Nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol: A yw’r bar wedi’i godi neu a oedd y bar yn rhy isel cyn hynny? yn edrych ymhellach ar hyn.

Rhoddodd y Barnwr Jane McConnell, Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru dystiolaeth yn seiliedig ar yr achosion yr oedd y Tribiwnlys wedi bod yn eu hystyried. Roedd hi'n cydnabod bod y system mewn cyfnod o drawsnewid ond dywedodd wrth y Pwyllgor bod rhai cysyniadau sylfaenol iawn nad ydynt yn cael eu deall yn yr un ffordd ar draws Cymru. Dywedodd nad yw’r diffiniad o ADY fel y nodir yn Neddf 2018 yn cael ei ddehongli'n gyson nac yn gywir ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion.

Cryfder teimlad

Gwnaeth y ddeiseb yn galw am ddiwygio'r Cod ADY ddenu dros 15,000 o lofnodion. Mae'n un o nifer o ddeisebau sy'n ymwneud ag ADY y gellir cyfeirio atynt hefyd yn y ddadl. Y rhain yw:

Gallwch ddarllen papurau briffio Ymchwil y Senedd ar bob un o'r deisebau hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y diwygiadau ADY yn ein herthyglau o fis Mai 2021, Chwefror 2022, Medi 2022, ac Ebrill 2023.

Dilyn y ddadl

Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar y ddeiseb ar 8 Mai 2024. Ar yr un diwrnod, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau â'i drydydd cyfnod monitro ar y diwygiadau ADY drwy graffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Gellir gwylio’r ddau ar Senedd TV, gyda thrawsgrifiadau yn cael eu cyhoeddi yn fuan wedyn.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru