22 Hydref 2013
Erthygl gan Matthew McLeod, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dechreuodd Wythnos Arbed Ynni ddydd Llun, a phrin y gellid dewis amser mwy perthnasol yn dilyn cyhoeddiadau gan nifer o'r cyflenwyr ynni mawr eu bod am godi prisiau ynni. Hyd yma, cyhoeddwyd y byddant yn codi rhwng 8 a 10 y cant. Ymgyrch gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yw hon a'i nod yw hyrwyddo dulliau o arbed ynni a helpu pobl i ddefnyddio ffyrdd newydd o arbed ynni yn y cartref ac yn y gwaith. Corff annibynnol a diduedd yw'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnig gwybodaeth i helpu pobl i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon. Dim ond un o blith nifer o'r ymgyrchoedd a'r rhaglenni y mae'n eu trefnu i wneud hyn yw wythnos arbed ynni.
Drwy gydol yr wythnos, cynigir awgrymiadau arbenigol yn ymwneud â'r maes arbed ynni cyfan. Bydd y rhain yn amrywio o wella'r cartref i newid ymddygiad a'r bwriad yw annog pobl i ddefnyddio llai o ynni a lleihau eu biliau ynni. Mae blog yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cynnwys cynllun pedwar pwynt i deuluoedd fedru gweld y dewisiadau sylfaenol sydd ar gael iddynt i'w helpu i arbed ynni:
- Rheoli'r system wresogi'n iawn: canolbwyntio ar wresogi ystafelleodd sy'n cael eu defnyddio.
- Atal drafftiau: ffordd rad a hawdd o sicrhau nad yw gwres yn dianc ac sy'n angenrheidiol ym mhob cartref heblaw'r cartrefi diweddaraf, mae'n debyg.
- Inswleiddio: arbed gwres rhag dianc drwy waliau, lloriau, toeau, drysau a ffenestri drwy ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau sy'n amrywio o ran pris.
- Systemau gwresogi effeithiol: sut y gallech arbed arian drwy ddefnyddio'r tanwydd rhataf a'r system wresogi fwyaf effeithiol.
Arbed ynni yng Nghymru
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am arbed ynni yng Nghymru ond mae un eithriad - mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i annog pobl i arbed ynni drwy ddulliau nad ydynt yn cynnwys gwaharddiadau neu reoliadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'i phwerau i ariannu dau gynllun (Nyth ac Arbed) sy'n hyrwyddo mesurau i wella cartrefi er mwyn arbed ynni. Mae'r rhain yn cyd-fynd â dau gynllun gan Lywodraeth y DU: y Fargen Werdd a Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni. Dyma fraslun o'r pedwar cynllun:
- Nyth – Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i leihau nifer y teuluoedd sy'n wynebu tlodi tanwydd drwy wella'u cartrefi er mwyn arbed ynni a lleihau eu biliau ynni. Caiff y cynllun ei lywio gan y cwsmer a rhaid bodloni meini prawf cymhwyster.
- Arbed – Cynllun a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ei nod yw mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a lleihau tlodi tanwydd gan roi hwb i'r economi drwy wella cartrefi mewn ardaloedd cyfan. Rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am yr arian.
- Y Fargen Werdd – Cynllun a weinyddir gan Lywodraeth y DU i roi arian i deuluoedd i wella'u cartrefi er mwyn arbed ynni. Bwriedir i'r arian gael ei ad-dalu drwy'r bil trydan, ac ni fydd yr ad-daliadau'n fwy na'r arbedion a wnaed drwy wella'r cartref.
- Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) – Cynllun a weinyddir gan Lywodraeth y DU sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ynni mawr wella cartrefi i leihau allyriadau carbon a lleihau biliau ynni. Caiff cartrefi incwm isel a chartrefi agored i niwed eu targedu'n benodol. Yn ei chyllideb ddrafft 2014-15 mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £32.3m o arian cyfalaf ychwanegol i sicrhau buddsoddiad preifat allanol ychwanegol drwy ECO.
I gael yr awgrymiadau diweddaraf am arbed ynni neu wybodaeth am y maes arbed ynni cyfan, sy'n amrywio o gynhyrchu ynni adnewyddadwy i'r grantiau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau arbed ynni, (ee Nyth), ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni neu cofrestrwch i gael y cylchlythyr.
I gael rhagor o wybodaeth am yr arian sydd ar gael i deuluoedd unigol, darllenwch Daflen Wybodaeth y Gwasanaeth Ymchwil: Cyllid a Gwybodaeth: Gwella, trwsio ac addasu tai