Y Cyflog Byw: “syniad y mae ei amser wedi dod”

04 Tachwedd 2013

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Heddiw, fel rhan o’r Wythnos Cyflog Byw, cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw mai’r Cyflog Byw ar gyfer 2013-14 yw £7.65. Mae’r ffigur hwn yn gynnydd o 2.7 y cant ar y ffigur ar gyfer y llynnedd, sef £7.45. Mae cefnogwyr yn dadlau bod Cyflog Byw gwirfoddol yn arf pwysig yn y frwydr yn erbyn tlodi cynyddol ymysg pobl sy’n gweithio, yma yng Nghymru ac yn y DU.

Bwriad y Cyflog Byw, sy’n cael ei gyfrifo gan academyddion ym Mhrifysgol Loughborough, yw adlewyrchu’r swm o arian sydd ei angen ar unigolyn i fyw bywyd boddhaol. Yn wahanol i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, mae’n fesur gwirfoddol y mae cyflogwyr yn dewis ei fabwysiadu, yn hytrach na’i fod yn orfodol yn ôl y gyfraith (mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn papur ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gwasanaeth Ymchwil, sef  Y Cyflog Byw: Cwestiynau ac Atebion, sy’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu’r gyfradd newydd).

Fel y dengys y tabl isod, canfu astudiaeth mai Cymru sy’n ail ar y rhestr o ranbarthau’r DU â’r cyfrannau uchaf o weithwyr sy’n ennill llai na’r Cyflog Byw, gyda 25 y cant o’r rhai mewn cyflogaeth yn y categori hwnnw (Gogledd Iwerddon sydd ar frig y rhestr, gyda 26 y cant). Mae’r ffigur hwn 2 y cant yn uwch na’r ffigur ar gyfer y llynedd, sef 23 y cant.

Ffynhonnell: KPMG, Adroddiad Ymchwil ar y Cyflog Byw, gan ddefnyddio amcangyfrifon gan Markit Economics Limited, Tachwedd 2013

Ffynhonnell: KPMG, Adroddiad Ymchwil ar y Cyflog Byw, gan ddefnyddio amcangyfrifon gan Markit Economics Limited, Tachwedd 2013

Dengys ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar (gan Sefydliad Joseph Rowntree, ym mis Medi 2013) fod gan Gymru fwy o oedolion o oedran gweithio a phlant mewn teuluoedd incwm isel sy’n gweithio (285,000, ar gyfartaledd, yn y tair blynedd hyd at 2010/11) na’r rheiny sy’n rhan o deuluoedd incwm isel nad ydynt yn gweithio (275,000).

Yn amlwg, byddai cael Cyflog Byw yn helpu gweithwyr incwm isel. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod y Cyflog Byw yn y blynyddoedd diwethaf wedi’i bennu’n is na’r swm yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cwrdd ag isafswm costau byw unigolyn.  Gwnaed hyn er mwyn osgoi cynyddu’r Cyflog Byw yn sylweddol tra bo codiadau cyflog, yn gyffredinol, yn colli tir ar gostau byw, sy’n cynyddu’n gyflym.

Yn ogystal â’r buddion i unigolion a’u teuluoedd, mae’r rhai sydd o blaid yn awgrymu y gallai talu’r Cyflog Byw arbed dros £2 biliwn y flwyddyn i’r Trysorlys  (o ganlyniad i daliadau treth incwm uwch, cyfraniadau yswiriant gwladol uwch, a gwariant is ar fudd-daliadau a chredydau treth, yn erbyn y costau uwch a fyddai ynghlwm â thalu gweithwyr sector cyhoeddus sy’n ennill llai na’r Cyflog Byw ar hyn o bryd).

Yn sgil yr honiadau bod polisiau Cyflog Byw o fudd i gyflogwyr – gan eu bod yn arwain at weithwyr hapusach, iachach a mwy cynhyrchiol, a’u bod yn dod â buddion corfforaethol o ran enw da sefydliad – mae’r Cyflog Byw yn dechrau edrych fel ateb syml i nifer o broblemau modern.

Serch hynny, mae rhai wedi ymateb yn ofalus i’r ddadl am y Cyflog Byw. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y byddai gorfodi cyflogwyr i godi eu cyflogau yn uwch na lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth, a bod angen ystyried hyn wrth i’r rhai sydd o blaid ystyried i ba raddau y dylai’r wladwriaeth orfodi cyflogwyr i dalu’r Cyflog Byw.

Mae cynrychiolwyr busnes hefyd wedi dadlau y byddai annog busnesau i dalu cyflogau sy’n uwch na’r Isafswm Cyflog yn arwain at economi sy’n llai cystadleuol, ac er y byddai nifer o fusnesau wrth eu bodd yn talu cyflogau uwch i’w staff, mae’r sefyllfa economaidd wan sydd ohoni yn atal hyn rhag digwydd.

Y naill ffordd neu’r llall, fel y dywedodd David Cameron cyn iddo ddod yn Brif Weinidog, mae’r Cyflog Byw yn  “syniad y mae ei amser wedi dod”. Gellir gweld ei berthnasedd i Gymru yn y lefelau uchel o deuluoedd incwm isel sy’n gweithio, a’r lefelau uchel o weithwyr sy’n ennill llai na’r Cyflog Byw ar hyn o bryd. Mae penderfynu a yw’r Cyflog Byw yn ddatrysiad economaidd-gymdeithasol y dylai gwleidyddion ei arddel, neu a yw’n fater y dylid ei adael i gyflogwyr unigol, yn rhywbeth i’w drafod yng Nghymru ac yn San Steffan. Heb amheuaeth, mae hefyd yn fater a gaiff gryn sylw cyn yr etholiadau a gynhelir yn 2015 a 2016.