Lefelau gordewdra yng Nghymru
Cyhoeddwyd 16/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
16 Ionawr 2014
Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cendelaethol Cymru
[caption id="attachment_846" align="alignright" width="275"] Image from Wikimedia Commons. Licenced under Creative Commons.[/caption]
Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Ordewdra yr wythnos hon. Daeth adroddiad gan y Fforwm Gordewdra Cenedlaethol, 'State of the Nation’s Waistline', a gyhoeddwyd yr wythnos hon, i'r casgliad efallai nad yw penderfyniadau'r Adroddiad Foresight 2007 (h.y. y gallai hanner y boblogaeth fod yn ordew erbyn 2050 ar gost flynyddol o bron £50 biliwn), bellach yn rhoi digon o bwyslais ar faint y broblem.
Gordewdra ymhlith oedolion
Yn ôl yr ystadegau mwyaf diweddar gan Arolwg Iechyd Cymru 2012, dros y naw mlynedd y mae wedi bod yn adrodd, bu cynnydd yn lefelau gordewdra pobl 16 oed a hŷn o 54% yn 2003/04 i 59% yn 2012 o bobl sydd dros bwysau neu'n ordew.
Gordewdra ymhlith mamau
Caiff ei gydnabod yn dda bod gordewdra ymhlith mamau ac ennill pwysau yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig â lefelau uwch o ordewdra ymhlith plant a gordewdra dilynol fel oedolion. Canfu prosiect cenedlaethol gan y Ganolfan Ymholiadau Mamau a Phlant (CMACE) yn 2011 bod tua 5% o'r boblogaeth o famau yn y DU yn ddifrifol ordew, a Chymru oedd â'r gyfradd uchaf o ordewdra difrifol ymhlith mamau yn y DU (6.5%, 1 o bob 15 o fenywod beichiog).
Gordewdra ymhlith plant
Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ordewdra ymhlith plant yn y DU. Dengys canfyddiadau o'r Rhaglen Mesur Plant bod bron i dri allan o ddeg o blant (28.2%) wedi'u dosbarthu'n rhy drwm neu'n ordew, a bod nifer yr achosion o ordewdra'n cynyddu'n sylweddol gydag amddifadedd cynyddol, o 9.4% yn y pumed lleiaf difreintiedig o Gymru i 14.3% yn y pumed mwyaf difreintiedig.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan yn 2010 ac mae'n nodi'r camau y dylai Byrddau Iechyd Lleol eu cymryd, gan weithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem ordewdra yng Nghymru drwy bolisïau, gwasanaethau a gweithgareddau lleol ar gyfer plant ac oedolion. Mae'r Llwybr yn nodi fframwaith pedair haen ar gyfer gwasanaethau gordewdra drwy atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar ar Lefel 1, i lawdriniaethau bariatrig ar Lefel 4.
Mae'r pedair haen fel a ganlyn:
Lefel 1: Atal yn y gymuned ac ymyrraeth gynnar (hunanofal)
Lefel 2: Gwasanaethau rheoli pwysau cymunedol a gofal sylfaenol
Lefel 3: Gwasanaethau rheoli pwysau tîm amlddisgyblaethol arbenigol
Lefel 4: Gwasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol.
Gweithgarwch y Cynulliad
Mae archwilio lefel y gwasanaethau gordewdra sydd ar gael ar hyn o bryd yn uchel ar agenda'r Cynulliad. Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wrthi'n cynnal ymchwiliad i ordewdra ymhlith plant i adolygu pa mor effeithiol yw rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o ostwng lefel gordewdra ymhlith plant yng Nghymru, a nodi meysydd lle gallai fod yn fuddiol rhoi camau ychwanegol ar waith. Mae'r Pwyllgor yn gwrando ar dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Meddygol yr wythnos hon.
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn cynnal ymchwiliad i adolygu'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau bariatrig – yn arbennig llawdriniaethau - yng Nghymru a nodi meysydd lle gallai camau pellach fod yn effeithiol. Mae'r alwad am dystiolaeth ysgrifenedig yn cau ar 24 Ionawr 2014.