Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Mehefin 2014

Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau diagnostig a thriniaeth ar 18 Mehefin 2014, mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o berfformiad yn ôl tri prif darged Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.

Gwasanaethau diagnosteg

Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau diagnosteg yw y bydd pobl yn aros uchafswm o 8 wythnos i gael gafael ar brofion diagnosteg penodedig. Mae’r ystadegau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mehefin yn dangos bod 23,864 (30.3%) o gleifion wedi bod yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnosteg ddiwedd mis Ebrill 2014. Yn y byrddau iechyd lleol, roedd canran y cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnosteg yn amrywio o 11.8% ar gyfer Bwrdd Addysgu Iechyd Powys i 37% ar gyfer cleifion a oedd yn aros i gael eu trin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Wrth edrych yn ôl dros amser, mae nifer y cleifion sy’n aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnosteg wedi dyblu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  Ddiwedd mis Ebrill 2012, roedd 9,259 o bobl wedi bod yn aros dros 8 wythnos am driniaeth diagnostig, o gymharu â 23,864 ddiwedd mis Ebrill 2014. Fodd bynnag, mae nifer y bobl a oedd yn aros dros 8 wythnos ddiwedd mis Ebrill 2014 dros 4,000 yn is na’r 27,998 a oedd yn aros ddiwedd mis Ionawr 2014.

Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gronfa newydd gwerth £5 miliwn tuag at leihau’r amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig.

Amseroedd cyffredinol rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Caiff y rhan fwyaf o amseroedd aros y GIG yng Nghymru eu mesur yn erbyn yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth, er bod targedau ar wahân ar gyfer rhai cyflyrau fel canser. Mae targedau cyfredol Llywodraeth Cymru yn y maes hwn fel a ganlyn:

¡    Bod o leiaf 95% o gleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth yn aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth;

¡    Bod 100% o’r cleifion na chânt eu trin o fewn 26 wythnos yn cael eu trin o fewn 36 wythnos.

Nid yw’r targed 26 wythnos wedi’i gyrraedd ers mis Awst 2010, ac nid yw’r targed 36 wythnos wedi’i gyrraedd ers mis Rhagfyr 2009. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 87.7% o gleifion wedi bod yn aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar ddiwedd mis Ebrill 2014, tra bod 97% o gleifion wedi bod yn aros llai na 36 wythnos. Dangosir y perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf yn ffigur 1.

Ffigur 1: Perfformiad yn ôl y targedau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth rhwng mis Ebrill 2013 a mis Ebrill 2014

NHS RTT graph Cym

 

Mae rhagor o fanylion am berfformiad byrddau iechyd lleol yn ôl y targedau hyn ar gael yn nodiadau ymchwil Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan y Gwasanaeth Ymchwil.

O edrych ar amseroedd aros y GIG ledled y DU, gwnaeth adroddiadThe four health systems of the UK: How do they compare? gan Ymddiriedolaeth Nuffield ganfod bod yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer triniaethau cyffredin yng Nghymru wedi bod yn cynyddu ers 2009-10, ac yn hwy na’r amseroedd aros yn Lloegr a’r Alban. Fodd bynnag, dywedodd yr adroddiad fod y bwlch ym mherfformiad y GIG yn Lloegr ac yng ngweddill y DU o ran y prif agweddau ar ofal iechyd wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, heb fod un wlad yn gyson ar y blaen i’r gweddill nac ar ôl y gweddill.

Triniaeth canser

O ran triniaeth canser, mae’r ffigurau a ryddhawyd ar wariant y GIG ar 11 Mehefin gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y gwariant y pen ar ofal canser gan GIG Cymru yn £117.41 yn 2012-13, sef tua £10 y pen yn fwy na gwariant GIG Lloegr, a oedd yn £107.21 y pen yn 2012-13. Mae’r ddau darged o ran canser yng Nghymru ar hyn o bryd fel a ganlyn:

  • Bod o leiaf 98% o gleifion na chânt eu hatgyfeirio ar frys am bod amheuaeth bod ganddynt ganser ond sy’n cael diagnosis o ganser, yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 31 diwrnod i gael diagnosis, waeth beth yw’r llwybr atgyfeirio;
  • Bod o leiaf 95% o gleifion a gaiff eu hatgyfeirio ar frys gan eu meddyg teulu am bod amheuaeth bod ganddynt ganser a’u bod yna’n cael diagnosis felly gan arbenigwr canser, yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 62 diwrnod i gael eu hatgyfeirio.

Yn chwarter cyntaf 2014, ni chafodd y naill darged canser na’r llall ei gyrraedd yng Nghymru, gyda 97.8% o gleifion o dan y targed 31 diwrnod yn cael triniaeth o fewn yr amser hwn ac 89.7% o gleifion o dan y targed 62 diwrnod yn cael triniaeth o fewn yr amser hwn. Mae’r amseroedd aros hyn mewn perthynas â chanser yn debyg i’r rheini yn Lloegr, gyda 98% o gleifion Lloegr o dan y targed 31 diwrnod yn cael triniaeth o fewn yr amser hwn, ac 84.4% o gleifion o dan y targed 62 diwrnod yn cael triniaeth o fewn yr amser hwn.

Ar lefel byrddau iechyd lleol, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyrraedd y ddau darged yn chwarter cyntaf 2014, tra bo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyrraedd y targed 31 diwrnod. Ni wnaeth y byrddau iechyd lleol eraill gyrraedd y naill darged na’r llall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu prosiect peilot yn ddiweddar i sefydlu un llwybr canser a ddatblygwyd gan glinigwyr. Mae hwn yn cael ei dreialu rhwng mis Mai a mis Medi 2014, a chaiff ei gynnal ar y cyd â’r targedau cyfredol.

Mae rhagor o wybodaeth ystadegol am y meysydd hyn ar gael yn StatsCymru a Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol.