Dod i gytundeb ar y newidiadau i setliad datganoli Cymru

Cyhoeddwyd 31/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

31 Hydref 2014 [caption id="attachment_1761" align="alignnone" width="300"]Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn ystod y cyfnod prysur ar ôl refferendwm yr Alban, mae rhai sylwebwyr wedi holi sut y caiff llais Cymru ei glywed yn y trafodaethau ynghylch y trefniadau cyfansoddiadol newydd ar gyfer y DU. Y cam cyntaf sydd wedi'i awgrymu yw dod i gytundeb ynghylch yr hyn yr hoffai Cymru ei gael. Mae datblygiadau diweddar yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud o ran dod i gonsensws ar setliad datganoli newydd i Gymru. Ar 21 Hydref, cytunodd pedair plaid y Cynulliad ar gynnig ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru. Mae'r cynnig yn galw am gyd-drafodaethau â Llundain, gyda ffocws penodol ar y setliad ariannu i Gymru. Mae'n galw am bwerau trethu newydd (gan gynnwys Treth Gorfforaeth os caiff y rhain eu datganoli i Ogledd Iwerddon a'r Alban), adolygiad o'r lefelau benthyca presennol sy'n ymwneud â Bil Cymru, a gwaith i alluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei bondiau ei hun. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i roi pwerau i'r Cynulliad dros ei drefniadau etholiadol ei hun, a datblygu Silk II, gan gynnwys cadarnhad y bydd Cymru yn symud at fodel pwerau a gedwir yn ôl. Mae'r cynnig yn nodi y dylid datblygu’r materion hyn mewn cynigion deddfwriaethol a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan. Galwodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru wrth wraidd trafodaeth y DU am ddatganoli. Cred fod angen cydnabod sofraniaeth y Cynulliad, er mwyn gwella ei gapasiti, a symud at fodel pwerau a gedwir yn ôl. Yn gynharach ym mis Hydref, cyfarfu Aelodau Seneddol o'r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru â Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru, i ddod i gytundeb ynghylch eu dyheadau ar gyfer pwerau newydd i Gymru. Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gadarnhaol ynghylch y cyfarfod wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ar 22 Hydref a dywedodd ei fod yn rhagweld cyfarfodydd misol gyda chynrychiolwyr y pleidiau yn y dyfodol. Byddai'r cyfarfodydd yn ystyried model pwerau a gedwir yn ôl, ail adroddiad Comisiwn Silk, ariannu Cymru, a pha un o allbynnau Comisiwn Smith ar bwerau ar gyfer yr Alban y gellid ei ddefnyddio yng Nghymru. Ei nod yw dod i gytundeb erbyn Dydd Gŵyl Dewi 2015 ar sut y bydd y cam nesaf o ran datganoli yn edrych. Wrth siarad â'r Pwyllgor, roedd Mr Crabb yn ymddangos yn agored i drafodaethau am ddiwygio'r sefyllfa o ran ariannu Cymru, er bod David Cameron, y Prif Weinidog, wedi diystyru newidiadau mawr i'r fformwla ariannu yn y gorffennol. Roedd Mr Crabb yn glir nad yw diwygio'r sefyllfa o ran ariannu Cymru a datganoli rhai pwerau dros dreth incwm yn dibynnu ar ei gilydd; gallai un ddigwydd heb y llall. I'r gwrthwyneb, cred Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod angen mynd i'r afael â'r ddau fater gyda'i gilydd, fel y gwnaeth yn glir yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y Cynulliad ar 9 Hydref. Mae'n poeni pe byddai gan Gymru bwerau codi trethi, y byddai llywodraeth San Steffan yn y dyfodol yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ateb y diffyg ariannol o drethiant ac y byddai'r 'tanariannu hanesyddol' yn parhau. Yn y cyfamser, mae'r gwaith o graffu ar Fil Cymru yn Nhŷ'r Arglwyddi yn mynd yn ei flaen, gan olygu bod ei ddarpariaethau, sy'n cynnwys pwerau cyfyngedig i godi'r dreth incwm ar gyfer Cymru (llai'r “cam clo”), ynghyd â phwerau trethu a benthyca eraill, yn debygol o fod yn gyfraith yn fuan. Yna, bydd yn rhaid i Gymru aros tan y senedd nesaf am unrhyw ddeddfwriaeth bellach, er y dylai tirlun cyfansoddiadol y DU fod rhywfaint yn gliriach erbyn hynny.