Gweithredu’r PAC 2014-2020: Stori o ymwahanu?

Cyhoeddwyd 20/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Tachwedd 2014 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1878" align="alignright" width="199"]Nia-Blog Llun: Photking Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae pecyn diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar gyfer 2014-20 wrthi’n cael ei roi ar waith yn Aelod-wladwriaethau’r UE ar ôl iddynt ddod i gytundeb gwleidyddol cyffredinol ar y prif elfennau ym mis Mehefin 2013. Bydd prif ddarpariaethau’r diwygiadau ar waith o fis Ionawr 2015 a chafwyd blwyddyn drosiannol yn 2014. Mae’r cytundeb newydd yn rhoi hyblygrwydd digyffelyb i Aelod-wladwriaethau a’u rhanbarthau o ran sut y byddant yn gweithredu darpariaethau’r PAC i’w galluogi i deilwra eu polisi at eu hanghenion a’u dulliau amaethyddol penodol hwy, ac mae hyn wedi’i groesawu. Yn sgil hyn, mae'r gwasanaeth ymchwil wedi gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU ac yn Iwerddon er mwyn cael darlun o'r penderfyniadau gweithredu sy'n cael eu gwneud yn y gwahanol wledydd. Dengys y canlyniadau fod penderfyniadau gweithredu a wneir yn y DU ac Iwerddon yn wahanol iawn, er gwaetha’r ffaith eu bod yn rhannu ffiniau o fewn y DU ac yn rhyngwladol (y DU/Iwerddon). Mae natur fwyfwy rhyngwladol cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd yn golygu y gallai’r dulliau gweithredu gwahanol gael effaith sylweddol ar y diwydiant ffermio a diwydiannau bwyd-amaeth ehangach, yn arbennig mewn awdurdodaethau cyfagos. Erbyn hyn mae’n gyffredin i fwyd gael ei gynhyrchu mewn un rhanbarth/Aelod-wladwriaeth yr UE, ei brosesu mewn rhanbarth/Aelod-wladwriaeth arall ac yna’i farchnata neu’i werthu mewn llawer o Aelod-wladwriaethau/rhanbarthau eraill. Ar y cyfan, cred gweinyddiaethau a ffermwyr gwledydd y DU ac Iwerddon fod ganddynt becyn diwygio derbyniol y gallant weithio gydag ef. Fodd bynnag, mae llawer o randdeiliaid amgylcheddol wedi cael eu siomi bod y gofynion ‘gwyrddu’ sy’n gysylltiedig â thaliadau uniongyrchol (Colofn 1) wedi cael eu glastwreiddio o gymharu â’r cynigion gwreiddiol ac maent bellach yn edrych tuag at gronfeydd datblygu gwledig (Colofn 2) i gryfhau nodweddion amgylcheddol y PAC. Mae dulliau gweithredu “pwrpasol” gwahanol iawn wedi cael eu datblygu yn y DU ac Iwerddon ym mhob maes lle mae’r diwygiadau newydd yn rhoi hyblygrwydd - tua 80 o bwyntiau penderfynu. Dim ond llond llaw o benderfyniadau cyffredin a geir, gan gynnwys: nid yw’r DU nac Iwerddon yn gweithredu Cynlluniau i Ffermwyr Bach ac mae gweinyddiaethau’r DU yn cymhwyso maint lleiaf yr hawliad (sef 5 hectar yng Nghymru a Lloegr). Yn y cyfamser, mae’r gwahaniaethau yn amlwg iawn o ran: cyfraddau modiwleiddio (trosglwyddo arian o Golofn 1 i Golofn 2), cymorth cysylltiedig (taliadau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu), capio taliadau uniongyrchol, dewis cyfraddau talu a dewis nodweddion cymwys ar gyfer Ardaloedd â Ffocws Ecolegol. Y cwestiwn allweddol bellach, i bob golwg, yw pryd y gallai mwy o hyblygrwydd i weithredu’r PAC ddechrau tanseilio dull gweithredu polisi ‘cyffredin’ ac arwain at annhegwch o ran cystadleurwydd ledled Ewrop. Efallai y bydd yn anodd dweud am fod pecynnau diwygio’r PAC yn amrywio cymaint nes ei gwneud yn anodd gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws ac o fewn Aelod-wladwriaethau. Fodd bynnag, y tebyg yw mai dim ond cynyddu a wna’r hyblygrwydd hwn gan fod Comisiynydd Amaethyddiaeth newydd yr UE wedi nodi y bydd yn cyflwyno strategaeth symleiddio a sybsidiaredd ar gyfer y PAC yn 2015. Gellir cael manylion pellach ar ganlyniadau’r gwaith yn y papur ymchwil a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad a'i gymheiriaid o fewn y DU ac yn Iwerddon. Diwygio’r CAP 2014-2020 Cytundeb yr UE a’i Weithrediad yn y DU ac Iwerddon Rhif.2