Cyhoeddwyd 05/12/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
05 Rhagfyr 2014
Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru
[caption id="attachment_1946" align="alignnone" width="300"]
Llun: o Geograph gan Peter Shimmon. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Yn ddiweddar,
cyhoeddodd Llywydd newydd yr UE, Jean-Claude Juncker ei gynllun mawr i roi hwb i economi Ewrop: pecyn buddsoddi gwerth €315 biliwn wedi'i gynllunio i ysgogi swyddi a thwf yn Ewrop. Hyd yma, mae'r ymatebion wedi bod yn gymysg. Mae beirniaid wedi nodi bod ei gynigion ond yn cynnwys buddsoddiad gwerth €21 biliwn o arian yr UE, gan ddisgwyl i aelod-wladwriaethau a buddsoddwyr preifat ddarparu'r gweddill, a bod y lluosydd pymtheg gwaith hwn yn beryglus ac yn rhy optimistaidd. Mae eraill wedi croesawu'r hyn a welir fel ysgogiad economaidd sydd ei angen ar Ewrop i adfer yn gyfan gwbl o'r argyfwng ariannol.
Beth yw manylion syniad mawr Mr Juncker, a pha gyfleoedd a gynigir i Gymru?
Mae tair prif elfen i gynllun buddsoddi'r Llywydd Juncker:
- Creu Cronfa Ewropeaidd newydd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol (EFSI). Bwriad y Gronfa yw crynhoi o leiaf €315 biliwn dros y tair blynedd nesaf, gan ddefnyddio buddsoddiad o €21 biliwn o arian cyhoeddus.
- Casgliad o brosiectau hyfyw sy'n aros am fuddsoddiad, er mwyn caniatáu i fuddsoddwyr cyhoeddus a phreifat gael gafael ar wybodaeth am y prosiectau hyn. Byddai'r cynigion prosiect hyn yn cael cymorth technegol gan staff y Comisiwn.
- Cynllun i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau eraill sy'n dal buddsoddiad yn ei ôl yn Ewrop.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi amcangyfrif y gallai'r cynigion hyn gyfrannu hyd at €410 biliwn at Gynnyrch Domestig Gros yr UE dros y tair blynedd nesaf, a chreu hyd at 1.3 miliwn o swyddi newydd.
Yn ganolog i'r cynigion hyn mae'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol (EFSI). Y bwriad yw defnyddio'r Gronfa hon i helpu prosiectau ariannol mewn meysydd strategol allweddol fel ynni, trafnidiaeth, band eang, addysg, ymchwil ac arloesedd. Gofynnwyd i aelod-wladwriaethau gyflwyno rhestrau o brosiectau i Dasglu Banc Buddsoddi Ewrop/Comisiwn Ewropeaidd sy'n gyfrifol am y Gronfa, ar ôl dewis prosiectau yn ôl y tri maen prawf a ganlyn:
- Ychwanegu gwerth yr UE (prosiectau sy'n cefnogi amcanion yr UE).
- Hyfywedd a gwerth Ewropeaidd - blaenoriaethu prosiectau sydd ag enillion economaidd-gymdeithasol.
- Prosiectau a all ddechrau ar y hwyraf o fewn y tair blynedd nesaf, h.y. disgwyliad rhesymol ar gyfer gwariant cyfalaf yn ystod y cyfnod rhwng 2015 a 2017.
Gobaith y Comisiwn yw bod y Gronfa ar waith erbyn canol 2015.
Y broblem ar hyn o bryd, yn ôl Mr Juncker yw, er gwaethaf cael digon o arian yn y system, nad oes digon o arian yn cael ei fuddsoddi yn Ewrop. Mae lefelau buddsoddi yn yr UE yn dal i fod €370 biliwn yn is na'r swm arferol cyn yr argyfwng ariannol. Felly, mae ei gynllun yn canolbwyntio ar ddefnyddio swm cymharol fach o gyllid yr UE i annog buddsoddiadau cyhoeddus a phreifat ar raddfa fawr.
Mae'n cynnig defnyddio €16 biliwn o gyllideb yr UE a €5 biliwn ychwanegol o Fanc Buddsoddi Ewrop. Diben hyn yw gweithredu fel catalydd i ddenu cyfanswm o €315 biliwn pan ychwanegir yr arian o ffynonellau cyhoeddus a phreifat, fel y gellir buddsoddi ymhellach heb greu dyled gyhoeddus.
Mae'r cynllun hwn wedi arwain The Economist alw Juncker yn “
Europe’s greatest alchemist”, wrth iddo geisio troi pob €1 o gyllid yr UE yn fuddsoddiad gwerth €15. Fodd bynnag,
yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, mae'r lluosydd hwn yn amcangyfrif call, yn seiliedig ar brofiad hanesyddol, gan roi enghreifftiau o fentrau Banc Buddsoddi Ewrop yn denu cyllid ychwanegol fel lluosyddion 1:18 ac 1:20.
Y naill ffordd neu'r llall, waeth ar ba raddfa y mae, mae'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol yn cynrychioli cyfle clir am fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn Ewrop. Pa gyfleoedd sydd i Gymru a'r DU yn y cynllun?
Mae hwn yn gwestiwn sy'n anodd ei ateb yn gywir iawn ar hyn o bryd. Mae'r Llywydd Juncker wedi
dweud na chaiff dyraniadau o'r Gronfa eu rheoli gan ddyraniadau thematig, adrannol neu ddaearyddol ymlaen llaw, ac felly ni chaiff swm penodol ei ddyrannu i Gymru na'r DU. A heb ragor o fanylion am sut y caiff dyraniadau o'r Gronfa eu gwneud, mae'n anodd dweud pa brosiectau yng Nghymru, os o gwbl, allai gael cyllid. Fodd bynnag, o ystyried galw'r Comisiwn am fuddsoddiad gwell mewn ynni adnewyddadwy, efallai y bydd y rheini sy'n gyfrifol am gynigion
Morlyn Llanw Bae Abertawe am gadw llygad ar y drafodaeth wrth i ragor o fanylion ddod i'r amlwg.
Mae gwefan y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys
proffil o lefelau buddsoddi yn y DU, a allai egluro llwyddiant tebygol cynigion y DU i'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol. Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos bod gan y DU lefel isel o fuddsoddiad o'i gymharu â chyfartaledd yr UE a bod angen buddsoddiad gwell gan y sector cyhoeddus mewn seilwaith, sy'n isel o'i gymharu â gwledydd eraill yr UE. Fodd bynnag, daw hefyd i'r casgliad bod buddsoddiad yn cynyddu'n gyflymach yn y DU nag yn yr UE ar y cyfan, a bydd yn parhau i wneud hynny rhwng 2015 a 2016.
Mae'r sylwadau ar wefan
Euractiv wedi awgrymu y bydd y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol yn bennaf yn cael ei defnyddio i drosglwyddo arian i wledydd de'r Canoldir a oedd yn wynebu'r heriau mwyaf yn ystod yr argyfwng ariannol. Mae'n nodi bod un o ffynonellau'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud: “there is no question of this money heading towards solar panel projects in Munich.” Wrth i fuddsoddiadau'r DU gynyddu y tu hwnt i gyfartaledd yr UE, a oes perygl y caiff prosiectau yn y DU eu gweld gan swyddogion y Comisiwn fel 'paneli solar ym Munich'?
Rhywbeth arall o ddiddordeb i Gymru a'r DU yw bod y Comisiwn wedi cynnig y byddai cyfraniadau aelod-wladwriaethau o'u cyllidebau eu hunain i'r strategaeth fuddsoddi yn niwtral o ran y Cytundeb Sefydlogrwydd a Thwf. Mae hyn yn golygu y gall aelod-wladwriaethau fenthyca er mwyn cyfrannu at y Gronfa heb i hyn effeithio ar eu ffigurau o ran y ddyled gyhoeddus. Mae Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau – sy'n cynrychioli sefydliadau is-aelod-wladwriaethau fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru – wedi
croesawu hyn, ond nododd y dylai gynnwys pob buddsoddiad cenedlaethol a rhanbarthol sy'n cyfateb i Gronfeydd Strwythurol a Chronfeydd Buddsoddi'r UE.
Y cam nesaf yw i sefydliadau'r UE gytuno ar y ddeddfwriaeth berthnasol sydd ei hangen i roi cynllun buddsoddi Juncker ar waith (mae rhagor o wybodaeth ar gael
yma). Yna, bydd rhagor o fanylion am y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol ar gael – fel meini prawf cymhwysedd manwl ac a all rhanddeiliaid yng Nghymru wneud cynnig yn uniongyrchol amdano, neu a fydd yn rhaid iddynt fynd drwy Lywodraeth y DU fel aelod-wladwriaeth. Dim ond bryd hynny y byddwn ni'n gwybod pa gyfleoedd a gynigir ar gyfer twf yng Nghymru.