Isafswm pris uned o alcohol?

Cyhoeddwyd 12/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Mehefin 2015 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Roedd cyflwyno isafswm pris uned o alcohol yn un o’r cynigion mwyaf dadleuol yn yr ymgynghoriad ynghylch y Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus.  Nid yw’r cynnig hwn wedi’i gynnwys yn y Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a gyflwynwyd yn gynharach yr wythnos hon. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bod wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno isafswm pris uned o alcohol fel mesur iechyd cyhoeddus allweddol, ac y caiff bil drafft ei gyhoeddi i ymgynghori yn ei gylch ‘maes o law’. [caption id="attachment_3155" align="alignright" width="300"]Delwedd o Pixabay. Trwyddedwyd o dan Creative Commons Delwedd o Pixabay. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Mae gwaith ymchwil yn dangos y byddai gosod isafswm pris o 50c am bob uned o alcohol yn golygu y byddai 1,400 yn llai’n cael eu trin yn ysbytai Cymru oherwydd problemau’n gysylltiedig ag alcohol  ac y byddai 53 o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn. Daeth addasiad Cymru o Fodel Polisi Alcohol Sheffield (Medi 2014) i’r casgliadau a ganlyn:
  • byddai polisïau i gyflwyno isafswm pris uned yn golygu y byddai llai o alcohol yn cael ei yfed, byddai’n lleihau’r effeithiau niweidiol sy’n gysylltiedig ag alcohol (gan gynnwys marwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol, cyfnodau yn yr ysbyty, trosedd ac absenoldeb o’r gwaith) a’r costau sydd ynghlwm wrth yr effeithiau niweidiol hyn;
  • prin fyddai effaith polisïau isafswm pris uned ar yfwyr cymedrol. Byddai’r effaith yn cynyddu ymhlith yfwyr risg gynyddol, a byddai’n effeithio fwyaf ar yfwyr risg uchel.
Roedd cefnogaeth gyffredinol eang i’r cynnig yn y Papur Gwyn; roedd nifer o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cytuno y byddai cyflwyno isafswm pris uned yn fesur penodol a fyddai’n effeithio fwyaf ar y rhai sy’n yfed yn drwm. Roedd lleiafrif o randdeiliaid (cynrychiolwyr y diwydiant alcohol a gwerthwyr alcohol yn bennaf) yn erbyn y cynnig, gan awgrymu nad oes digon o dystiolaeth bendant o blaid yr honiad y byddai cyflwyno isafswm pris uned yn bolisi effeithiol, ac y byddai hynny, o bosibl, yn groes i ddeddfwriaeth yr UE, a bod cwestiynau ynghylch cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y maes hwn. Cafwyd deddfwriaeth i osod isafswm pris uned o alcohol yn yr Alban yn 2012, ond nid yw wedi’i rhoi ar waith eto oherwydd her gyfreithiol gan y Scotch Whisky Association. Prif sail yr her yw y gallai cyflwyno isafswm pris uned fod yn groes i ddeddfwriaeth yr UE gan y byddai’n cael effaith niweidiol ar fasnach a’r rhyddid i symud nwyddau.  Ym mis Ebrill 2015, cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru wrth y Cynulliad na fyddai cynnig i gyflwyno isafswm pris uned yn cael ei gynnwys yn y Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) tra bo ansicrwydd ynglŷn â phryd y byddai dyfarniad Ewropeaidd ynghylch Deddf Alcohol (Isafswm Pris) (Yr Alban) 2012. Cafwyd trafodaeth frwd yn y Cynulliad ynghylch a oes gan Gymru gymhwysedd i gyflwyno isafswm prif uned. Yn dilyn papur briffio ar y Papur Gwyn gan swyddogion Llywodraeth Cymru (Hydref 2014), ysgrifennodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd yn gofyn am eglurhad. Ymatebodd y Gweinidog fel a ganlyn:
Yn fy marn i,  mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cymhwysedd i ddeddfu ar amrywiaeth eang o fesurau iechyd cyhoeddus,  gan gynnwys y cynigion i gyflwyno isafswm pris uned o alcohol, yn unol ag Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. O ystyried hyn, rwy’n cadarnhau nad wyf fi na fy swyddogion wedi cynnal unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU, ar wahân i drafodaethau i gadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno isafswm pris uned o alcohol, fel y nodir yn y Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus, ‘Gwrando arnoch chi: Mae eich iechyd yn bwysig’.