Cyhoeddwyd 28/08/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
28 Awst 2015
Erthygl gan Richard Bettley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Roedd
Deddf Cymru 2014 yn datganoli pwerau treth penodol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Y trethi perthnasol oedd treth stamp, treth tirlenwi, cyfradd Treth Incwm i Gymru (yn amodol ar refferendwm) a'r ardoll ardrethi (sy'n destun her gyfreithiol). Disgwylir i'r pwerau treth hyn ddod i rym o 2018 ymlaen.
Mae
adran 116C o'r Ddeddf yn caniatáu ar gyfer creu trethi datganoledig newydd yn amodol ar gymeradwyaeth dau Dŷ'r Senedd a'r Cynulliad. Felly, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymeradwyo unrhyw drethi newydd a gaiff eu creu yng Nghymru.
Mae
Papur Gorchymyn Bil Cymru (paragraff 72) yn cynnwys rhestr glir o'r meini prawf y bydd Llywodraeth y DU yn asesu'r cynigion ar gyfer trethi newydd yn eu herbyn. Byddai'r meini prawf yn cynnwys i ba raddau y gallai'r dreth newydd:
- effeithio ar bolisi ariannol neu facro-economaidd y DU a/neu’r farchnad sengl;
- beidio â chydymffurfio, o bosibl, â deddfwriaeth yr UE;
- cynyddu’r risg o osgoi trethi; neu
- greu baich cydymffurfio ychwanegol i fusnesau a/neu unigolion;
- bod yn gyson â chyfrifoldebau datganoledig.
Yn yr un modd â'r broses a nodir ar gyfer Bil yr Alban, byddai angen i unrhyw gynnig gan Lywodraeth Cymru am dreth newydd gynnwys manylion llawn am y canlynol:
- y sylfaen dreth (h.y. gweithgarwch trethadwy);
- y refeniw a'r effaith economaidd a ragwelir;
- yr effaith a ragwelir ar refeniw'r DU neu o ran rhyngweithio â threthi ledled y DU;
- yr effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion (gan gynnwys effaith ddosbarthiadol);
- asesu yn erbyn yr holl ddeddfwriaeth a chyfarwyddebau perthnasol, gan gynnwys y Ddeddf Hawliau Dynol, rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE, y Ddeddf Cydraddoldeb ac ati; a
- chynlluniau casglu a chydymffurfio.
Er bod lle i gyflwyno trethi newydd, gellir gweld bod angen llawer o waith ymchwil a dadansoddi cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno unrhyw gynnig ar gyfer treth ddatganoledig newydd. Mae'n ymddangos y bydd angen sawl blwyddyn o ddatblygu polisi ac ymgynghori er mwyn casglu'r dystiolaeth, a byddai'n bosibl i Lywodraeth y DU beidio â chefnogi'r cynnig yn ôl ei disgresiwn o hyd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw drethi datganoledig newydd ar hyn o bryd gan ei bod yn canolbwyntio ar weithredu'r trethi a ddatganolwyd o dan Ddeddf Cymru 2014. Fodd bynnag, mae
Sefydliad Bevan wrthi'n gwneud gwaith ymchwil ar drethi newydd posibl sy'n briodol i Gymru.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg